“Meaning does not reside, in a simplistic way, in the image; the capacity of the image to serve as historical evidence lies in the contextual framing of the image, what we have been told (or what we recognize) about the image” (Zryd, 2003).
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae datblygiadau diwydiannol a thechnolegol, yn ogystal â newidiadau yn y tirlun cymdeithasol a wleidyddol, wedi chwyddo ‘r nifer ac amrywiaeth o ddelweddau gweledol ffeithiol. Dros ddegawd yn ôl, ysgrifennodd John Corner am y cyfnod ôl-ddogfennol, h.y. fod datblygiadau yn ffurf ffilmiau dogfen, eu defnydd o dechnegau sydd yn perthyn (yn draddodiadol) i fformatiau a genrau eraill, yn golygu ei fod yn fwy anodd nag erioed i gategoreiddio ffilm dogfen, yn rhannol oherwydd nad yw ‘golwg’ estheteg ffilm ddogfen bellach yn gallu sicrhau’r gwirionedd. Maent wedi benthyg o’r opera sebon, y sioe gem, y sitcom a’r ddrama, gan arwain at groesrywedd o ffurfiau a fformatiau. Ond dyle ni ddeall diffiniad Corner fel newid diwylliannol yn hytrach nag un creadigol; cyfnod ôl-ddogfennol sydd wedi gweld newidiadau radical yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd cyfoes yn ymwneud, nid yn unig gyda ffilmiau a rhaglenni dogfen, ond gyda syniadau o ddilysrwydd a chynrychiolaeth yn gyffredinol.
Yn deillio o’r gair Ffrangeg am ‘gludo’, mae collage yn gasgliad o wahanol elfennau nad ydynt yn gysylltiedig, pob un â’i set ei hun o dynodyddion a chodau, ac wedi eu cydosod i greu cyfansoddiad amgen gydag ystyr newydd. Mae collage yn awgrymu deunyddiau sydd wedi cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau heb ystyriaeth o’r gwead materol – ffotograffau, toriadau o gylchgronau, llyfrau lliwio plant, tudalennau wedi eu rhwygo o gatalogau a thaflenni – mewn gwirionedd, mae gwahaniaethau’r gweadau ffisegol a materol yn rhan hanfodol o gyfoeth y testun a lluosogrwydd yr ystyron posib. Mae collage yn mynnu cael ei ddehongli. Mae collage, gan bwysleisio cysyniad a phroses dros y cynnyrch terfynol, yn gyfansoddiad hunanymwybodol cynhenid . Mae’r gwyliwr yn deillio gwybodaeth ac ystyr drwy ddehongli’r berthynas rhwng y cydrannau sydd yn aml yn anghydweddol ac yn ymddangos yn amherthnasol.
Wrth gynhyrchu cyfansoddiadau digidol megis ffilmiau ddogfen, gall y gwahaniaethau hyn o ran ansawdd gwead cael eu cymharu i raddau gwahanol o ffilm neu fideo o wahanol gamerâu, deunydd sydd wedi bod trwy wahanol brosesau o gywasgu, trosi, ailfeintio a hidlo, mewn rhai achosion yn fwriadol. Yn yr un modd, gall ansawdd y deunyddiau sain amrywio’n sylweddol, a gall olygu ychydig mwy na darnau gydag ymylon sydd wedi torri neu rwygo. Mae’n bosib cyfosod delweddau a sain yn fras neu’n drwsgl, ond hefyd yr esgeulustod amlwg yma sy’n awgrymu dynodyddion ychwanegol a chyfathrebiadau unigryw.
Sut gall iaith y ffilm ddogfen esblygu drwy neilltuo arferion ac egwyddorion collage? Yn benodol, sut gall y cysyniad a’r ymarfer o collage cynorthwyo’r gwneuthurwr ffilm sydd yn edrych i greu portreadau mynegiannol a farddonol o’r byd? Gall collage helpu i archwilio realiti mewnol, goddrychol neu haniaethol?