Sen Segur – digon araaaf i fi

Mae rhywbeth yn coginio ym Mhenmachno.

Sen Segur yw fy HOFF grŵp newydd. O Gymru, o unrhyw le. Maen nhw wedi bod o gwmpas am sbel ond nes i’w weld am y tro cyntaf yn un o’r gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Orsaf Canolog, Wrecsam nos Wener diwethaf.

Mae rhai o bobol yn defnyddio’r term shoegazer amdanyn nhw. Hmm. Er fy mod i’n licio’r genre dw i ddim mor siŵr am y cymhariaeth gyda My Bloody Valentine, Ride et al. Does ‘na ddim lot o olchi/ymolchi mewn seiniau gitar, y peth mwyaf cysylltiedig â’r term shoegaze.

Mewn fy nghlustiau i maen nhw yn ddebycaf i rywbeth fel Galaxie 500. Sa’ i’n gwybod os mae teitlau fel Dryswch4000 a Sarah 700 yn cyd-ddigwyddiad neu homage pwrpasol, does dim ots.

Mae’r tiwns yn araaaf, dyma’r peth gwych a gwahanol amdanyn nhw ar hyn o bryd. Mae’r thema segur, yn yr enw a’r tiwns, yn adlewyrchu rhwybeth o ein hamserau.

Cyn-enw y band oedd Crazy Mountain People, mae’n amlwg bod nhw wedi astudio catalog SFA/Ffa Coffi ond dw i’n meddwl bod nhw wedi osgoi’r llanw 60au sydd yn llifo drosom ni ar hyn o bryd, sy’n dda. Os oes gyda nhw unrhyw synnwyr byddan nhw yn wrando ar This Is Our Music gan Galaxie 500 ac athrylithoedd araaaf o’r gofod fel Boards of Canada, Sun Ra, King Tubby, Can a Brian Eno! Ac wedyn creu rhywbeth hollol wahanol.

Gwaith. Maen nhw wedi recordio sesiwn tri-trac i C2 ac wedi rhyddhau dau trac ar Y Record Goch ar Recordiau Lliwgar (label Meic P) ac EP pedwar-trac o’r enw Pen Rhydd ar Recordiau Cae Gwyn, recordiwyd gyda John Lawrence o Gorkys (ddim eisiau bod yn sarhaus ond mae angen mwy o waith ar glawr yr EP i fod yn gystal â’r gerddoriaeth).

Dim albwm eto – dw i’n gwybod beth yn union rwyt ti’n meddwl. Wrth gwrs rwyt ti’n gwybod sut mae’r pethau yma yn gweithio. Rwyt ti’n meddwl bydd yr albwm cyntaf gan Sen Segur yn ymddangos tua mis Ionawr 2014 os maen nhw yn dilyn bron pob band Cymraeg arall. Wel, na, dw i wedi dweud eisoes bod nhw yn wahanol ac bydd yr albwm yn dod yn gynharach tua haf 2012, gobeithio.

Dilyna @sensegur ar Twitter.