Dyma Energy Flash – un o’r caneuon cofiadwy yn Gadael Yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter.
Dyn ni’n cyhoeddu darn o’r sgript fory, Awst y 6ed – o 1992 – gyda sgwrs rhwng Gareth a Dave Datblygu am gerddoriaeth acid house.
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Dyma Energy Flash – un o’r caneuon cofiadwy yn Gadael Yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter.
Dyn ni’n cyhoeddu darn o’r sgript fory, Awst y 6ed – o 1992 – gyda sgwrs rhwng Gareth a Dave Datblygu am gerddoriaeth acid house.
Roedd Gareth Potter yn aelod o dri o’r grwpiau mwya arloesol ar y sîn yng Nghymru yn ystod y 1980au a’r 1990au – Traddodiad Ofnus, Pop Negatif Wastad a Tŷ Gwydr. Yn ogystal, mae wedi dilyn gyrfa actio llwyddianus ac amrywiol, a mae o dal yn mwynhau DJo o gwmpas y brifddinas.
Ti wedi bod yn aelod o tri grwp arloesol amgen/electroneg eu naws yng Nghymru. Sut ddechreuodd pethau? Pwy oedd y dylanwadau, a sut wnaethoch chi ddechrau?
Dwi wastad wedi hoffi cerddoriaeth oedd yn pwsho pethau ychydig. Roedd punk yn beth da, ond fe aeth y miwsic yn formulaic iawn yn gyflym. Pan o’n i’n teenager o’n i’n meddwl bod recordiau disgo fel ‘I Feel Love’ gan Donna Summer/Giorgio Morroder a Mighty Real gan Sylvester/Patrick Crowley llawn mor chwyldroadol a Anarchy in the UK. Roedd bandiau fel PiL yn anhygoel o arbrofol. Mae pobol yn anghofio bod recordiau hollol mental fel Death Disco a Flowers of Romance wedi ymddangos ar Top of the Pops ar ddechrau’r 80au. Roedd Joy Division, Human Leage, The Fall, Gang of Four, Young Marble Giants, Talking Heads a Devo yn arwyr i mi. Ac roedd Bowie, Krafwerk a Faust fel Duwiau!
Roeddwn i’n mynd lawr i Gaerdydd yn aml i wylio bandiau reggae. Roedd hwn yn oes aur i gerddoriaeth Jamaica ac o’n i’n ffodus iawn i weld Black Uhuru, Gregory Isaacs, Roots Radics Band, Mighty Diamonds, Sly & Robbie, Aswad a Steel Pulse pan on i tua 16. Mae synnau reggae o’r cyfnod yma yn hollol cwl a dwi’n dal i hoffi gwrando arno fe.
Fe ddechraeon ni Traddodiad Ofnus yn 1984, a’r bwriad oedd i ffrico pawb allan trwy creu swn rhythmic gyda scrap metal, gitar scratchy, bas undonog yn gyrru’r groove a fi’n rantio dros y top. Byddem ni’n gwahodd y gynilleidfa i berfformio gyda ni ac yn mynd mewn i improvisations hollol crazy. Roeddem ni wedi cael ein dylanwadu’n fawr gan Einstürzende Neubauten, Test Dept, SPK a Throbbing Gristle. Roedd e’n brofiad intense iawn ond hilarious ar yr un pryd. Unwaith fe brynon ni car o’r scrapyard, towio fe mewn i’r bar o’n ni’n whare ynddo a jest smasho fe lan. Dyna oedd y gig. Roedd y gynilleidfa wrth eu bodd yn helpu ni i ddinistrio’r Ford Escort!
Ymhle cwrddais ti a Marc Lugg (sef partner in crime Gareth yn Traddodiad Ofnus a Tŷ Gwydr)?
Dwi di nabod Lugg ers o’n i’n dair oed. Roedd e’n byw drws nesaf i mamgu yng Nghaerffili. Aethon ni i’r ysgol da’n gilydd ac roeddem ni fel dau oddball mewn i fiwsic a la John Peel. Mae Lugg yn web designer talentog iawn sy hefyd yn gwneud dodrefn gwych. Mae e mor practical a dwi mor chwit chwat. Dwi’n meddwl bo ni’n combination da.
Nes ti tyfu fyny yn Abertridwr, ger Caerffili
Ro’n i’n casau’r lle pan o’n i’n tyfu lan. Teimlo fel freak. Wastad mewn ffeits oherwydd fy nillad neu’r ffaith bo fi’n mynd i’r ysgol Gymraeg. Byddwn ni’n hongio mas mewn gangiau oedd yn gwisgo’n ryfedd. Safety in numbers. Ro’n i’n ffan mawr o wisgo mewn dillad o’r 50au ac yn edrych fel Tintin a’r merched mewn sgertiau ra ra gyda gwallt mawr.
Mae na dri trac gan Traddodiad Ofnus ar yr albym ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ (a ddaeth allan ar Recordiau Anhrefn yn yr 80au cynnar). Sut ddaethoch chi i sylw Recordiau Anhrefn? Be wyt ti’n meddwl o’r albym yna rwan?
Nes i cwrdd a Rhys Mwyn tua 1980. Roedd e yn y brifysgol yng Nghaerdydd ac ron i’n canu i grwp punkaidd o’r enw Clustiau Cwn. Roedd loads o egni a syniadau gyda Rhys, felly pan oedd demos cyntaf TO yn barod, roedd e’n berson naturiol i gysylltu gyda. Roedd cerddoriaeth yr Anhrefn braidd yn formulaic i mi, ond fe gafon nhw ddylanwad llawer fwy eang a phwysig na jest steil o miwsic. Datblygu, Tynal Tywyll, Y Cyrff, Malcolm Neon, a llawer mwy. Roedd y ddau album yna a’r senglau a ddilynodd yn hollbwysig i ddatblygiad cerddoriaeth a’r sin Gymraeg.
Roedd Traddodiad Ofnus yn fand reit wleidyddol, a tua’r un adeg roedd Llwybr Llaethog yn gwneud pethau gwleidyddol fel ‘Dull Di-Drais’ a roedd gen ti bands fel yr Anhrefn efo stance gwleidyddol.
Roedd yr wythdegau yn gyfnod lle roedd yn rhaid i ti fod yn wleidyddol rili. Roedd streic y glowyr yn teimlo fel rhywfath o Civil War. Roedd rhaid penderfynnu ar ba ochr oeddet ti. Roedd Apartheid yn dal i fodoli yn Ne Affrica, Y rhyfel oer rhwng America a Rwssia, ffeministiaeth, Iwerddon ac wrth gwrs brwydr yr iaith. Roedd ni’n credu yn beth oeddwn ni’n dweud, ond weithiau, wrth wrando nol, mae rhai datganiadau yn swno braidd yn naif a sloganistaidd. Wrth gwrs mae na le i wleidyddiaeth mewn cerddoriaeth, ac mae recordiau y Tystion yn ardderchog, so mae hyny’n OK. Dwi ddim yn meddwl bod y genhedlaeth yma mewn cymaint o frys i greu chwyldro ag yr oeddem ni. Mae’r economi’n gryf, diweithdra’n gymharol isel, elli di yfed am 24 awr. Ffwc, mae’n baradwys ma! Be di’r ots am ryw ryfel bach pitw yn y dwyrain canol…
Roedd Pop Negatif Wastad yn rhywbeth hollol wahanol. Un o’r records gorau i’w rhyddhau yn yr iaith Gymraeg, yn fy marn i. Be oedd hanes y band a’r EP? Pam na wnaethoch chi fwy o recordiau? Pam dewis y cover versions yna?
Dwi’n prowd iawn o’r record yna. Roeddwn i’n nabod Esyllt oherwydd nath hi gysylltu da TO am ryw reswm. Roedd hi mewn band yn Aberystwyth o’r enw Crisialau Plastic, ac roedd ganddyn nhw caneuon fel Caerdydd, Diwedd y Byd a Pop Negatif (ymateb i label Tynal Tywyll, Pop Positif!). Fe ddaethon ni’n ffrindiau ac on ni’n arfer mynd i aros gyda Pat a David o Datblygu o gwmpas yr amser ddaeth Wyau a Pyst allan. Ro’n ni’n arfer ffurfio imaginary bands drwy’r amser. Wel, fel arfer jest gwneud enwau a teitls yn y pyb o’n ni (un o’r rhai oedd fi a David yn hoffi mwyaf oedd band heavy metal Cristnogol o’r enw Cleddyf Aur), ond ddaeth PNW yn wir rywsyt! Ffonio’n ni Gorwel Owen, ac fe aethon ni lan gyda llond car o syniadau hurt fel gwneud fersiwn disco o Valium a real ffyc off electro punk fersiwn o Kerosene. Roeddem ni eisiau bod fel acid house Pet Shop Boys fersiwn o Sonic Youth. Ar un adeg roedd Pat o Datblygu’n mynd i fod yn involved, ond yn y diwedd dim ond fi, Esyllt a Gorwel sydd ar y record.
Y rheswm naethon ni neud y clawr fel na oedd oherwydd bod fi a Esyllt yn meddwl bod y ddau berson yn y ffotograffs yn atgoffa ni o ni. Fi fel hen ddyn yn chwythu swigod a breuddwydio, Esyllt yn dal record lan ac yn ysu eisiau gwneud un. Y rheswn naethon ni ddim rhagor o stwff oedd oherwydd naethon ni gwympo mas a ddim siarad am ddwy flynedd! Erbyn hynny, roedd Tŷ Gwydr yn llwyddiant a doedd dim yr ysfa da ni i weithio ar brosiect arall. Da ni’n gweld ein gilydd o bryd i’w gilydd. Mae hi’n briod a David Lord oedd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caled tu ol i mi a Lugg yn Tŷ Gwydr…
Tŷ Gwydr. Atgofion hazy o fod yn y steddfod, stoned allan o fy mhen, wedi brynu crys-t “Reu” ac yn gwylio chi ar lwyfan efo David R. Edwards. Be ydi dy atgofion di o’r cyfnod yna?
Roedd hi’n amser greadigol a hedonistaidd iawn. Lot fawr o hwyl. Mi ddyle pawb cael cyfnod felna pan ma nhw’n ifanc.
Ti dal yn weddol weithgar o ran dy gerddoriaeth
Dwi’n trio DJo cerddoriaeth sy’n gweddu’r noson. Yn fy nosweithiau ar llawr canol Clwb Ifor, dwi’n trio cymysgu hen recordiau Cymraeg, rhai hollol newydd a detholiad eclectic o synnau funk, hip hop, tecno ac electronic. Beth bynnag dwi’n teimlo fel rili! Ar hyn o bryd, ar wahan i’r recordiau Cymraeg gwych sy’n dod allan a’r soul, wy’n hoffi stwff DFA, Soulwax, Warp etc. Mae wastad ymateb ffafriol iawn ar llawr y ddawns i bethe felly. Dwi’n edmygu dj’s fel y Glimmers, Erol Alkan, Giles Peterson, Moonmonkey. Rheini sy’n whare cymysgedd o stwff gwych ac annisgwyl a rili rocio’r parti.
Ac wrth gwrs ti dal yn actio’n aml – be wyt ti di bod yn gwneud yn ddiweddar?
Yn ddiweddar dwi di bod yn teithio gyda gwahanol sioeau yng Nghymru ac yn cyfarwyddo dramau yn Kosovo a Chaerdydd. Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio cerddoriaeth yn y sioeau dwi’n cyfarwyddo ac wedi defnyddio stwff fel Aphex Twin, Go! Team, Neu!, Can, Squarepusher, Paul Simon, Plone a Chopin. Dwi hefyd wedi ymddangos ar y gyfres comedi High Hopes fel ysbryd gydag un coes(!).
4 record gan Gareth Potter:
1. Pop Negatif Wastad – Iawn (Central Slate LP)
2. Traddodiad Ofnus – Welsh Tourist Bored (Constrictor LP)
3. Llwybr Llaethog, Tŷ Gwydr & David R Edwards – LL v TG MC DRE (Ankst LP)
4. Tŷ Gwydr – Reu/Akira/Welsh Ragga (Ankst 12”)
Fe ymddangosodd y cyfweliad hwn yn wreiddiol yn ffansin Trosi/Translate (RIP) nôl yn 2006. Dwi wedi golygu/dileu rhai darnau er mwyn helpu strwythyr a llif yr erthygl i’r rheini sy’n darllen yn 2010, a cywiro rhai o’r camgymeriadau embarrassing.