Dysgu’r gitâr gyda Heather Jones

Dw i newydd gweld yr eitem hon yn y cylchlythyr SCG:

Dysgu’r Gitâr yng Nghaerdydd
Eisiau gwella eich sgiliau ar y tannau? Mae Menter Caerdydd yn cynnal dau gwrs i bobl o bob lefel.

Gitar i Ddechreuwyr gyda Heather Jones
ac
Ymarfer eich Gitâr gyda Meilir Gwynedd

Cyrsiau’n £65 am 10 wythnos, gostyniadau i fyfyrwyr, di-waith, pensiynwyr.
Cychwyn Medi 28.

Pob nos Fercher 7-9 – ebostiwch aweldavies@mentercaerdydd.org neu ffoniwch 02920 689888 i archebu lle.

Dwylo diogel siwr o fod – fel y mae llun uchod yn dangos mae Heather Jones wedi bod yn chwarae gitâr ers cyn yr internet.