Bwyty Hooters yng Nghaerdydd: pam yr holl helynt?

Mae’r bwriad o fwyty newydd Americanaidd o’r enw Hooters yn agor yng Nghaerdydd wedi troi mewn i bwnc llosg yr wythnos yma. Beth yw’r ffwdan felly am werthi fwyd brys a chwrw drws nesaf i Cineworld? Mae Hooters ychydig yn wahanol i’ch siop cyw iâr arferol oherwydd taw merched ifanc yn unig wedi gwisgo i fyny mewn tops tynn a siorts bach sy’n gweini bwyd yma. Disgrifiwyd y lle fel ‘breastaurant’ gan un o gyfreithwyr y cwmni.

Mae sawl yn gofyn pam bod hyn broblem gan ystyried bod rhai marched yn dewis gwisgo llai o ddillad na gweinyddes Hooters wrth fynd allan i glybio ar y penwythnos. Trowyd y ddadl gan gefnogwyr Hooters mewn i un sy’n cwmpasu o gwmpas dillad gan honni bod grwpiau sy’n ymgyrchu dros hawliau menywod yn dangos agwedd piwritanaidd a hen ffasiwn wrth geisio dweud wrth ferched eraill beth i wisgo. Anghywir! Nid dadl am ddillad yw hyn ond dadl dros y ffordd negyddol mae Hooters yn cynrychioli merched a’r ddelwedd beryglus ohonynt maent yn ei hysbysebu.

Honnir rhai mi fydd Hooters yn dod a swyddi i’r ddinas mewn oes sy’n ansefydlog yn economaidd. Eto mae’r ddadl yma yn un wan, yn enwedig wrth ystyried mai sector cul iawn o’r gymdeithas bydd y cwmni i weithio iddynt. Yn gyntaf, nid oes hawl gan dynion gwneud cais i weini bwyd yn ogystal â’r faith taw dim ond marched o siâp corff ac oedran penodol iawn bydd yn cael ceisio am swyddi. Mae hyn yn mynd yn erbyn pob polisi cyfleoedd cyfartal yn y gweithle. Dylai Cyngor Y Ddinas canolbwyntio ar groesawi gyflogwyr meddwl agored sy’n cynnig swyddi o ansawdd i ddinasyddion Caerdydd.

Un o’r pethau sydd yn fy mhoeni i fwyaf yw agwedd y cwmni tuag at ei staff. Yn yr Unol Daleithiau, mae’n angenrheidiol i’r staff arwyddo contract sy’n dweud eu bod nhw’n hapus efo’r amodau gwaith mewn atmosffer sy’n hybu innuendo a jôcs rhywiol. Dydy merched dim wedi brwydro am hawliau cyfartal dros y blynyddoedd i ddioddef cael ei gam-drin fel rhain o’u gwaith. Yn ogystal â hyn mae cwmni fel Hooters yn hybu delweddau cul iawn o harddwch ac yn rhoi’r neges i bobl ifanc ei fod yn arferol i edrych mewn ffordd benodol. (Wrth gwrs, mae’r cyfryngau yn gyfrifol am hyn yn ogystal ac nid yw Hooters yn unigryw yn yr agwedd yma.) Buodd yna achos yn yr Unol Daleithiau ble ofynnwyd y cwmni i un o’i staff, Cassandra Smith o Detroit, colli pwysau a chynnig talu iddi ymuno a gym. Fe rhoddwyd y dewis i Cassandra colli pwysau o fewn mis neu cholli ei swydd. Mae gwneud sylwadau am siâp corff eich staff yn anghywir yn fy marn i mewn unrhyw achos ond mi oedd y weinyddes yma ond yn pwyso 130lb!

Mae mwy o bobl ifanc nag erioed yn tyfu i fyny heddiw efo hunan werth isel o dan y pwysau i gydffurfio at ddelwedd arbennig ac mae’r nifer sy’n dioddef o afiechydon megis anorecsia a bwlimia yn cynyddu. Credaf ei bod yn angenrheidiol i ni fel cymdeithas newid ein syniadau cul o brydferthwch gan ddangos i bobl ifanc bod pob mathau o ddelweddau a siapau corf yn dderbyniol, yn ogystal â’u sicrhau nad yw pawb yn edrych fel rhywun sydd newydd gerdded oddi ar set Baywatch neu clawr cylchgrawn Nuts.

Peth arall difrifol yw bod llefydd fel Hooters yn cyflwyno’r syniad bod defnyddio delweddau o fenywod fel sex objects yn rhywbeth arferol. Dengys ymchwil bod yna cysylltiad rhwng hybu delweddau rhywiol o fenywod ac achosion o gam-drin ac ymddygiad bygythiol o fewn gymdeithas. Gwelir object.org.uk am fwy o wybodaeth. Wrth gwrs bod gan unrhyw ferch yr hawl i weithio fel Hooters girl ond os mae’r dewis yma yn effeithio agweddau pobl tuag at ferched eraill, ni ddylai’r fath ‘dewis’ fod yn opsiwn.

Pe tai Hooters yn newid rhai o’i pholisïau trwy roi’r cyfle i’w staff gwisgo fel yr ydynt yn dewis, yn ogystal a chroesawi bobl o unrhyw oedran, rhyw a siâp corff, yna rwy’n sicr na fyddai gwrthwynebiad iddynt o gwbl. Felly, oes yna le i gwmni sy’n gweithredu mewn ffordd mor anffafriol ac anheg yn y flwyddyn 2010? Dim yn fy marn i yn sicr! Fe ataliwyd y cwmni rhag agor yn Sheffield a Southend am y rhesymau yma felly mae’n bosib i ddinasyddion Caerdydd dod at ein gilydd am yr un canlyniad.

Mae deiseb yn erbyn Hooters i gael yma.