Mae Ifan Morgan Jones (Igam Ogam, Yr Argraff Gyntaf) yn rhannu cynghor am sgwennu nofel:
Safbwynt – Mae’n bwysig dewis y safbwynt y mae’r olygfa yn cael  ei weld ohono ac aros gydag ef. Os ydych chi’n neidio yn ormodol o un un  cymeriad i’r llall mae yna beryg y bydd y darllenydd yn drysu. Os oes  rhaid newid safbwynt ynghanol golygfa gwnewch hynny’n hollol glir.
Yn Igam Ogam roedd bron pob golygfa o safbwynt Tomos Ap, ond yn yr  Argraff Gyntaf ces i dipyn mwy o drafferth, yn enwedig mewn un olygfa yn  y dafarn pan oedd tua phum cymeriad o bwys yn trafod gyda’i gilydd. Yr  ateb yn y pen draw oedd gadael bwlch ar y dudalen rhwng meddyliau un  cymeriad a dechrau meddyliau cymeriad arall.
Smwddio – Dyna ydw i’n galw’r broses o ail ddarllen dros beth ydw  i wedi ei ysgrifennu dro ar ôl tro a’i newid wrth i fi fynd ymlaen. Mae  drafft cyntaf bob tro’n wael, heb os. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o bobol  yn digalonni a meddwl na fyddan nhw byth yn ysgrifennu unrhyw beth o  werth…
Llawer mwy ar blog Ifan Morgan Jones mewn cofnod penigamp. Paid anghofio – gadawa sylw os ti’n hoffi’r cofnod ac efallai bydd e’n rhannu mwy.