Gwerthiannau nofelau Cymraeg gan Ifan Morgan Jones

Chwarae teg i Ifan Morgan Jones am rannu’i ffigyrau:

Hyd yn hyn mae Igam Ogam wedi gwerthu 2,300 copi, ac fe werthodd Yr Argraff Gyntaf tua 450 yn y mis cyntaf, ond does gen i ddim y ffigyrau ar ôl hynny eto. Dw i ddim yn disgwyl iddo werthu cystal â Igam Ogam oedd â holl heip y Steddfod y tu ôl iddo, ond os ydi o’n ad-dalu ffydd y cyhoeddwr yna’i fe fyddai’n hapus.

a dechrau sgwrs am y pwnc ar ei flog.

Eisiau sgwennu nofel? Tips gan Ifan Morgan Jones

Mae Ifan Morgan Jones (Igam Ogam, Yr Argraff Gyntaf) yn rhannu cynghor am sgwennu nofel:

Safbwynt – Mae’n bwysig dewis y safbwynt y mae’r olygfa yn cael ei weld ohono ac aros gydag ef. Os ydych chi’n neidio yn ormodol o un un cymeriad i’r llall mae yna beryg y bydd y darllenydd yn drysu. Os oes rhaid newid safbwynt ynghanol golygfa gwnewch hynny’n hollol glir.

Yn Igam Ogam roedd bron pob golygfa o safbwynt Tomos Ap, ond yn yr Argraff Gyntaf ces i dipyn mwy o drafferth, yn enwedig mewn un olygfa yn y dafarn pan oedd tua phum cymeriad o bwys yn trafod gyda’i gilydd. Yr ateb yn y pen draw oedd gadael bwlch ar y dudalen rhwng meddyliau un cymeriad a dechrau meddyliau cymeriad arall.

Smwddio – Dyna ydw i’n galw’r broses o ail ddarllen dros beth ydw i wedi ei ysgrifennu dro ar ôl tro a’i newid wrth i fi fynd ymlaen. Mae drafft cyntaf bob tro’n wael, heb os. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o bobol yn digalonni a meddwl na fyddan nhw byth yn ysgrifennu unrhyw beth o werth…

Llawer mwy ar blog Ifan Morgan Jones mewn cofnod penigamp. Paid anghofio – gadawa sylw os ti’n hoffi’r cofnod ac efallai bydd e’n rhannu mwy.