Random Access Memories yw’r bedwaredd albwm i’r ddeuawd Ffrengig Daft Punk ei rhyddhau. Cyfanwaith hirddisgwyliedig sy’n sicr o gael dylanwad ar gerddoriaeth gyfoes y dyfodol.
Ers eu dyddiau cynnar gyda Soma, Virgin ac Ed Banger Records, mae Daft Punk bellach wedi tyfu’n enw cyfarwydd. Gall y samplo diweddar a wnaethpwyd ar un o ganeuon Kanye West, Harder Better Faster Stronger gymeryd peth clod am ledu ymwybyddiaeth o’u cerddoriaeth yn America. Ond nawr, yn berchen ar eu rhif 1 cyntaf yn y siartiau, dyma brawf fod Daft Punk yn llwyddo’i dynnu sylw mwy nag un carfan o gerddoriaeth-garwyr yn unig.
Clywn sawl enghraifft o gyd-weithio gyda artistiaid eraill ar yr albwm hon, mae’n siwr taw’r mwyaf adnabyddus ymhlith y rhain fydda Pharrell. Er hynny, stamp Daft Punk yw’r hyn sydd i’w glywed ar Get Lucky a gellir dadlau taw addurn ychwanegol yw’r llais ar y trac yma.
Mae’r briodas rhwng Daft Punk a phrif leisydd The Strokes, yn un o brif rinweddau’r albwm. Tra gwahanol yw clywed llais Julian Casablacas yn swnio mor angylaidd. Er fod adlais o riffiau gitar pigog The Strokes i’w clywed ar y trac, mae yna gysondeb lleddf a braf i’r alaw. Dyma sut fydda The Strokes yn swnio pe baent yn perfformio mewn gwyl gerddorol ar y lleuad.
Ond er mor ymlaciol yw clywed cynhyrchiad melfedaidd Daft Punk o lais Julian Casablancas, nid y lleisiau yw ffocws y caneuon, ond yn hytrach yr amryw haenau eraill sy’n cyd-blethu i greu brechdan o ddisco hiraethus.
Daw’r albwm i ben i gyfeiliant Contact. Yr unig gan ar yr albwm sydd wedi ei hadeiladu o gwmpas sampl, gyda’r brif riff wedi ei thynnu o gân grwp o Awstralia, The Sherbs. Er nad oes llais i’w glywed yn ystod y gân hon, mae hi’n dweud llawer mwy na’r gweddill. Ma’ hi’n nodi’n glir fod Daft Punk yma i aros.
http://www.youtube.com/watch?v=HcuKxAvCSZ4