Heno mae’r cyn-fyfyriwr Jeff Smith yn dal i aros yn Neuadd Pantycelyn fel rhan o brotest yn erbyn cynllun Prifysgol Aberystwyth i gau’r neuadd. Dyma lun ohono fe gyda’i gyd-brotestiwr Bethan Ruth ar ben y to.
[…]
Pan gyrhaeddais Neuadd Pantycelyn yn 2007, ro’n i’n di-Gymraeg a swil iawn. Dwi’n dod o dde-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, lle na siaredir Cymraeg, ac mae gen i syndrom Asperger, sy’n tarfu ar fy nealltwriaeth o sut i gymdeithasu ac ati.
Bu hyn yn newid yn gyflym! Cymraeg yw’r iaith bob dydd ym Mhantycelyn, ac ro’n i’n clywed e bobman – yn y coridorau, yn y Lolfa Fawr, yn y Ffreutur a mewn digwyddiadau cymdeithasol. […]
Fel atodiad i’r darn gwreiddiol, dyma bwt o drafodaeth yr ydym wedi cael. Mae fe wedi caniatáu i mi ei gyhoeddi yma.
Trawsgrifiad:
Hei Jeff
Mae ‘na rhywbeth dw i eisiau gofyn i ti.
Mae Daily Post yn dweud ‘They refuse to leave the Pantycelyn Hall which is dedicated to Welsh language speakers […]’.
Fyddai hi’n fwy cywir i ddweud bod y neuadd yn ‘gyfrwng Cymraeg’ yn hytrach nag ‘ar gyfer siaradwyr Cymraeg?’
e.e. rwyt ti wedi dysgu Cymraeg trwy Bantycelyn a’r Brifysgol ayyb. Dyna un agwedd o’r neuadd sydd ddim yn amlwg i bobl.
Pa mor hawdd yw e i berson ‘di-Gymraeg’ geisio am le yn Neuadd Pantycelyn?
Hefyd oes unrhyw glem pa ganran sydd ddim yn siarad (neu ddim yn rhugl) yn Gymraeg ar y ffordd i mewn?
Dw i’n chwilfrydig, ‘na gyd.
Mae’n flin gyda fi am fethu’r protest. Pob lwc i chi a’r ymgyrch.
Dyma drawsgrifiad o’i ymateb:
Diolch Carl. Ie, Neuadd Cyfrwng Cymraeg ydyw. Mae’n reit hawdd ddod mewn fel dysgwr: nes i jyst dweud bo fi eisiau byw yno ac eisiau dysgu Cymraeg! Mae sawl un bob blwyddyn sy’n dod mewn yn ddi-Gymraeg ac yno ddysgu, ond dw i ddim yn hollol siwr o’r canran sori. Mae nifer hyd yn oed fyw [fwy] sy’n dod mewn yn ail-iaith ac yno gwella’u Cymraeg
Roedd y Daily Post yn gywir yn yr ystyr bod pobl yn gadael Pantycelyn fel siaradwyr Cymraeg.
Ond dw i ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o ‘brawf ieithyddol’ ar y ffordd i mewn.
Wrth gwrs dyna sut mae cymunedau cyfrwng Cymraeg fod gweithio, ‘na i gyd sydd angen ydy cefnogaeth go iawn ac adnoddau digonol.
Mae bygythiadau gan Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn, Neuadd Cymraeg y Brifysgol, wedi cael ymateb ffyrnig. Islaw, dwi’n manylu ar fy mhrofiad i o fyw ym Mhantycelyn er mwyn dangos pwysigrwydd y Neuadd.
Pan gyrhaeddais Neuadd Pantycelyn yn 2007, ro’n i’n di-Gymraeg a swil iawn. Dwi’n dod o dde-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, lle na siaredir Cymraeg, ac mae gen i syndrom Asperger, sy’n tarfu ar fy nealltwriaeth o sut i gymdeithasu ac ati.
Bu hyn yn newid yn gyflym! Cymraeg yw’r iaith bob dydd ym Mhantycelyn, ac ro’n i’n clywed e bobman – yn y coridorau, yn y Lolfa Fawr, yn y Ffreutur a mewn digwyddiadau cymdeithasol. Des i nabod lawer o bobl: mae’r ffurfweddiad yr adeilad, gyda choridorau agored ac ystafelloedd cymunedol, yn hwyluso cymdeithasu, ac yn hytrach na byw mewn fflat ble fyddai’n nabod efallai pump o bobl eraill, ces i gyfle gwych i fyw mewn cymuned bywiog o dros 200 o bobl. Roedd hynny’n profiad addysgol hefyd – des yn ffrindiau gyda phobl o bob ran o Gymru a thu hwnt, gydag amrwyiaeth helaeth o brofiadau, acenion a thafodiaethau. Dyma Cymru o dan un tô!
Mae’r ffurfweddiad y Neuadd hefyd yn hybu gweithgareddau, fel Corau, grwpiau eisteddfotol, Cymdeithas Taliesin (llenyddiaeth Cymraeg) a llawer mwy. Mae lleoli’r rhain yn yr un adeilad a’r llety yn arwain at llawer iawn yn mynychu’r fath cymdeithasau: mae dros 100 o fyfyrwyr yn y Côr Mawr yn aml. O fy safbwynt i fy hunan, bues yn cerdded heibio’r stafelloedd lle oedd y rhain yn digwydd, a nes i ymuno â llawer ohonyn nhw wedyn. Felly, dyma fi’n dysgu lawer am ddiwylliant Cymru, rhywbeth fyse fi fyth yn cael dysgu fel rhan o fy nghwrs academaidd.
Dw i ddim yn unig yn y fath bethau. Mae llawer o fyfyrwyr wedi dod i Bantycelyn o gefndir di-Gymraeg ac yno wedi gadael y Neuadd yn rhugl yn y Gymraeg. I lawer o Gymry hyd yn oed, sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol, mae byw ym Mhantycelyn yw eu profiad gyntaf o’r Gymraeg fel iaith fyw, dydd i ddydd. Yn Rali Fawr Pantycelyn, a gynhaliwyd yn mis Chwefror 2014, bu Adam Price yn ymhelaethu ar sut naeth ei frawd ddod i Bantycelyn a dysgu Cymraeg, gan ddweud bod hynny wedi ysbrydoli fe hefyd i ddysgu’r Gymraeg. Dychmyga pa mor wahanol fyddai gwleidyddiaeth Plaid Cymru pe tasai rywun mor ddylanwadol ag Adam Price ddim wedi dysgu Cymraeg! Mae’r Neuadd wedi newid llawer o fywydau, gan gynnwys iaith, diwylliant ac hwyluso cymdeithasu ac annog pobl i gymryd rhan.
Mae Pantycelyn wedi newid fy mywyd yn llwyr, ac wedi agor llawer o ddrysau i mi. Ac yn wir, dyna beth yw addysg. Dw i wedi dysgu gymaint – Y Gymraeg, y diwylliant Cymreig, sgiliau cymdeithasol – nad oedd gennyf cyfle i ddysgu (o leiaf i lefel uchel) fel rhan o fy nghwrs yn y Brifysgol. Dyma efallai’r swyddogaeth mwyaf mae prifysgol yn gallu cyflawni: darparu’r fath addysg drwy brofiadau, drwy’r ochr llety, ochr yn ochr gyda’r darpariaeth academaidd safonol.
Mae’r Brifysgol yn gorfod rhoi ystyriaeth arbennig i’r Gymraeg, o dan ei siarter frenhinol (4.5):
“rhoi sylw arbennig, gan weithredu ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag eraill, i anghenion addysgol Cymru, gyda golwg ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, datblygiad economaidd a thraddodiadau cymdeithasol Cymru.”
Mae’r Brifysgol hefyd yn dweud eu bod yn awyddus i denu mwy o fyfyrwyr o Gymru i’r Brifysgol.
Mae Pantycelyn yn cyflawni’r amcanion yma fel y mae! Mae’n darparu profiad addysgol o’r Gymraeg ni cheir un rhywle arall yn y byd; mae’n Neuadd enwog ac eiconig sydd yn tenu darpar-fyfyrwyr o draws Cymru i’r Brifysgol. Yn aml, dydy darpar-fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ddim yn sôn am mynd i Aberystwyth, mae’n nhw’n sôn am mynd i Bantycelyn. Dyma sy’n dangos pa mor pwerus o arf recriwtio a marchnata yw Neuadd Pantycelyn. Hefyd, mae gan y Brifysgol cyfrifoldebau arbennig, fel yr unig Prifysgol sydd yng nghanol Cymru, ddim yn bell o’r ffin rhwng gogledd a de, ac fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, i gynnal a chadw’r iaith Gymraeg yn y Brifysgol a’r genedl. Felly pe fyddai Prifysgol Aberystwyth yn cau Neuadd Pantycelyn, byddan nhw’n tanseilio’u strategaethau eu hunain ac wfftio eu cyfrifoldebau.
Beth sydd angen ei wneud felly? Cydnabyddir bod angen gwaith adnewyddu mawr ar Bantycelyn, er enghraifft y tô a’r ffenestri, tra’n cadw’r strwythur a chymeriad sydd yn wneud yr adeilad yn hwb i’r iaith a diwylliant Cymraeg. Mae’r Neuadd yn haeddu’r fath buddsoddiad, gan bod hyd yn oed awdurdodau’r Brifysgol yn cyfaddef bod diffyg buddsoddiad yn y Neuadd wedi bod ers blynyddoedd. Felly mae angen gosod amserlen pendant i wneud y gwaith yma. Tan hynny, mae angen cadw’r Neuadd ar agor, i sicrhau na chollir y cymuned arbennig sydd ynddi.
Fel hyn, mae’r Brifysgol yn gallu gweithio tuag at gyflawni ei hamcanion a’i chyfrifoldebau, ac mae pobl fel fi’n gallu cael profiad anhygoel. Hyd nes bod hynny’n digwydd, mae’r brwydr Pantycelyn yn parhau.
Rydym wedi gofyn i bobl gwahanol am eu hatgofion o John Bwlchllan a fu farw yr wythnos hon. Yn ogystal ag atgofion mae detholiad o ddyfyniadau sy’n dod o’r cyfryngau cymdeithasol – gyda chaniatad yr awduron.
Gruffudd Antur:
Yng nghornel fach, fach ei fyd – anwesai
bob hanesyn llychlyd
yn ei gof, a’u ffeilio i gyd
yn hofel ei ben hefyd.
Guto Dafydd:
Y peth trawiadol ynghylch y rhaglen deledu ddiweddar am John Davies oedd y gwahaniaeth rhwng y ddelwedd o hanesydd – yr awdurdod cadarn, gwybodus, cyhyrog ei ryddiaith – a’r dyn ei hun. Roedd y ffilm yn dangos dyn llwyd, disylw, gyda’i ddillad cyffredin a’i arferion smala. Ie, dyn ffraeth, dymunol, llawn arabedd – ond dyn nad oedd ei ymddangosiad yn awgrymu iddo gyfoethogi bywyd ei genedl yn y fath fodd. Heddiw, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n fwy amlwg byth: efallai fod y dyn wedi marw, ond bydd ei waith a’i gyfraniad yn parhau’n allweddol am flynyddoedd i ddod.
Bwlch-llan Gwirionedd y Galon: John Davies, S4C, 29/12/2013
Fe’u gweli di nhw’n aml, heb sylwi:
y dynion sy’n llwyd fel ffenestri arosfannau bysiau,
ac sy’n crwydro’r ddinas – o fainc i dŷ teras
i gornel siop lyfrau – gan afael mewn bagiau plastig.
Mi ddalian nhw’r drws i ti yng nghysgod canolfan siopa,
â chyfarchiad bach llachar; mi safant o’r neilltu
yn siop gornel Ashghani, â fflach yn eu llygaid;
ei dithau heibio ar frys, gan wenu’n swil
ac anadlu pnawniau o gwrw cynnes
yn llwch tafarnau sy’n gweld eisiau oglau’r mwg.
Beth pe bai gan un o’r rhain
hanes gwlad yn gyflawn yn ei ben
a thŷ tu hwnt i’r ddinas lle mae’r awyr yn lanach:
sylwet ti?
Yr Athro Daniel G. Williams:
Atgofion am rannu sawl peint gyda John yn y Cwps, Aberystwyth, sydd gen i yn bennaf, ac mi fyddai’r nosweithiau hynny yn arbennig o hwylus petai Hywel Teifi yn digwydd bod yn ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol, neu Phil Williams wedi bod yn ymarfer ei sax fyny’r grisiau gyda’r band cymunedol JazzWorks.
Am Gymro ‘cenedlaethol’ roedd John yn wahannol i Hywel am nad oedd yn gapelwr na ganddo ddiddoreb mewn chwaraeon, ac yn wahannol i Phil am nad oedd cerddoriaeth o fawr bwys iddo ychwaith. Roedd John yn unigryw.
Roedd synnwyr digrifwch iach ganddo, a fy hoff anecdot o Hanes Cymru yw pan mae’n sôn am ‘ymddangosiad phenomen newydd yn y 30au sef Cymry dosbarth canol hyderus eu Cymreictod’ gyda W J Gruffydd a’i coterie yn Rhiwbeina. ‘Fe allai’r dosbarth hwn fod yn hynod bell oddi wrth brofiadau trwch y Cymry’ nododd John gan ddyfynu W J Gruffydd ychydig wedi methiant y Streic Cyffredinol: ‘Blwyddyn ddu fu 1926 i Gymru. Nid oeddem ond yn prin ddysgu cynefino â cholli y Prifatho [Thomas] Rees pan fu farw y Prifathro J H Davies’.
Hanesydd oedd John Davies wrth ei alwad a’i alwedigath. Fel noda fy nhad Gareth Williams sydd â meddwl uchel iawn o John Bwlchllan, roedd John yn anarferol o gyffyrddus wrth ddelio gyda cymlethdodau tir ddaliadaeth, rhenti, prydlesi, morgeisi a’r manylion dyrus cyfreithiol ac economaidd. Dyna hanfod ei lyfr ar Gaerdydd a’r Butes ac hefyd ei waith ar fachlud y meistri tir ganrif yn ôl.
Roedd ei adnabyddiaeth o Gymru a hanes Ewrop yn eang. Dywedodd wrtha’ i unwaith ei fod wedi ymweld â phob plwyf a llan yng Nghymru, ac hawdd credu hynny. Yn wahannol i sawl hanesydd o genedlaetholwr, roedd John yn sicr mai’r ffaith bwysicaf yn hanes Cymru oedd y chwyldro diwydianniol a phrofiad y de-ddwyrain, yn arbennig twf – a dirywiad – y maes glo.
Mae hyd yn oed Gwyn Alf Williams yn When Was Wales yn treulio hanner ei lyfr ar y cyfnod cyn 1536. Ar echel yr 1770au y mae hanes Cymru yn troi i John, ac mae bron hanner ei gampwaith Hanes Cymru yn delio â’r cyfnod wedi hynny.
Gyda Janet ei wraig wrth gwrs yn dod o Flaenau Gwent roedd e wastad yn cyffroi pan fyddai Sioned fy ngwraig yn ei atgoffa bod hithau yn dod o Rhymni. Creodd stori genedlaethol amgen i’r un Llafuraidd. Ond stori genedlaethol oedd hon a osodai profiad mwyafrif y Cymry yn ei chanol. Dyna, i’m tyb i, ei gyfraniad arhosol.
Siôn Jobbins:
Teimlo gwacter wrth feddwl bod Dr John Davies wedi marw. Roedd wastad yn barod iawn i siarad a rhannu ei wybodaeth efo fi pan oeddwn yn ei ffonio i holi am rhyw bwynt ar gyfer un o fy erthyglau. Roeddwn am ei holi am awgrymiadau i fy llyfr nesa ar faner Cymru, ond mae’n rhy hwyr bellach. Roedd yn esiampl o academydd democrataidd yn hael ei wybodaeth.
Roedd hefyd yn hael efo pobl – yn deall ein bod i gyd â beiau, gwendidau, nwydau a rhinweddau. Dyn democrataidd iawn ac esiampl o genedlaetholwr dyngarol.
Dwi’n gwenu wrth feddwl amdano hefyd. Ers 20 mlynedd pob tro byddwn yn cwrdd ag e, byddai’n dweud, “Sut mae’ch tâd, Alan Jobbins, bachan da. Boi da yw’ch tad, Jobbins Senior. Cofiwch fi ato.”
Ni ‘di colli rhywun arbennig. Ac roeddwn i dal yn ‘chuffed’ ei fod yn barod i siarad ‘fa fi, rhyw stiwdant mediocre o Bantycelyn. Pob nerth i’r teulu.
Lowri Haf Cooke:
Gyda thristwch mawr y clywais i’r newyddion p’nawn ddoe am farwolaeth Dr John Davies. Roedd yn ddyn a wnaeth gyfraniad aruthrol i’r iaith Gymraeg, gan gynnwys ym maes darlledu.
Dwi’n cofio cwrdd ag e gyntaf ar gyfer rhaglen gelf i Radio Cymru yn ei fflat ger tafarn y Cŵps yn Aberystwyth. Roedd yn wybodus, yn ddifyr ac yn annwyl tu hwnt – roedd hi wastad yn wefr i’w groesawu i swyddfa Radio Cymru, ar bob achlysur.
Fe, yn naturiol, oedd y go-to-guy ar gyfer unrhyw eitem hanes, ond dwi’n ei gofio’n siarad yr un mor angerddol mewn slot fasiwn rhywdro am hanes ei wasgod bysgota.
Roedd e hefyd yn gyfrifol am drobwynt mawr yn fy hanes i, wrth ddeffro’r diddordeb yn fy ninas. Fe oedd gŵr gwadd cyntaf cangen Cyncoed Merched y Wawr yn ystod tymor Hydref 2011, ac ro’n i yno i recordio pwt ar gyfer seinlun o Gaerdydd – rhaglen radio o’r enw Diwrnod yn y Ddinas.
Roedd e’n ddiawledig o hwyr yn cyrraedd, ond doedd dim ots gan neb, gan iddo fwrw mlaen i draethu’n ddi-dor am dros ddwyawr, heb sgrapyn o bapur o’i flaen. Hoeliwyd ein sylw ni i gyd, o’i agoriad rhagorol, yn adrodd hanes ei ‘fedydd’ yn yr afon Tâf wrth syrthio i gamlas yr Aes yn blentyn bach. Fe daniodd e fflam yndda i, fel siaradwraig Cymraeg o Gaerdydd, i ymhyfrydu yn hanes – a dyfodol – fy ninas.
Arweiniodd y rhaglen at wahoddiad gan wasg Gomer i sgrifennu’r teithlyfr cyfoes Canllaw Bach Caerdydd, a dwi heb edrych yn ôl ers hynny. Ond fel dwi’n dweud yn y gyfrol, ‘Os oes dim ond digon o le i un llyfr yn eich bag llaw, yna wfft i’r Canllaw Bach; gadewch ef wrth erchwyn y gwely, rhowch flaenoriaeth i i lyfr rhagorol Dr John Davies, Cardiff: A Pocket Guide (Gwasg Prifysgol Cymru), a chofiwch ei gadw gyda chi bob amser.’
Mared Ifan
Cefais y fraint o gwrdd â Dr. John ym mis Mehefin y llynedd yn nathliad pen-blwydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn 40 oed. Roedd Neuadd Pantycelyn hefyd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu fel Neuadd Gymraeg y flwyddyn honno a chawsom ginio mawr yng nghwmni cyn-lywyddion UMCA a chyn-wardeniaid Pantycelyn.
Roedd hi’n hynod o bwysig bod ef yno gyda ni’n dathlu, fe wedi’r cwbl oedd wedi sicrhau llwyddiant Pantycelyn fel neuadd Gymraeg. Roedd e’n rhan fawr o’r frwydr i sefydlu’r neuadd fel un i fyfyrwyr Cymraeg ers y cychwyn cyntaf a thrwy ei rôl fel prif warden y neuadd am dros ddeunaw mlynedd, creodd y diwylliant a’r teimlad o gymuned glos hynny sy’n perthyn i’r neuadd hyd heddiw.
Doeddwn ni ddim yn ddigon ffodus i fod yn fyfyrwraig ym Mhanty yng nghyfnod Dr. John ond wrth wrando ar straeon myfyrwyr ar hyd y blynyddoedd, mae’n amlwg mai fe fu’n gyfrifol am greu ysbryd Pantycelyn. Roedd e’n nabod pob myfyrwyr, a’i gof anhygoel yn cofio eu henwau ac enwau eu teuluoedd hyd yn oed, blynyddoedd ar ôl iddynt adael y coleg. Roedd e’n gwmni i’r myfyrwyr, yn ffrind mawr i bob un ohonynt a hefyd yn ddarlithydd penigamp. Mae sawl un wedi dweud wrthyf nad oedden nhw’n gallu ysgrifennu’r un gair yn ei ddarlithoedd, dim ond eistedd a gwrando a gadael i Dr. John ddod â’r hanes yn fyw.
Ar noson y dathlu, dyma wahodd Dr. John i ddweud ychydig o eiriau a dyma ei ddawn o siarad yn dod yn fyw i’r ystafell unwaith eto. Ni wnai fyth anghofio’r teimlad o’i glywed e’n siarad mor dyner ond eto’n mor angerddol am ei gyfnod ym Mhantycelyn. Y gymuned oedd wedi bod yn rhan mor bwysig o’i fywyd, ac yn ôl ef, oedd wedi rhoi’r hyder a’r ysbryd iddo orffen ei gampwaith, Hanes Cymru. Llenwyd yr ystafell ag emosiwn ac roedd lwmp yng ngwddf sawl un ohonom.
Roedd yn ffrind ac yn arwr i gymaint ac roedd ei gyfraniad i Gymru gyfan yn anferth.
Angharad Blythe:
Mi ddudodd John Davies fod o di ystyried rhoi’r gorau i sgwennu Hanes Cymru ar ôl siom refferendwm ’79 am fod o’n ofni nad oedd Cymru’n haeddiannol o’i hanes ei hun. Diolch byth fod o di dyfalbarhau. Amhosib mesur ei gyfraniad. Cydymdeimladau dwysaf i’r teulu ac i’w gydnabod.
Colin Nosworthy:
Atgofion melys o’r cyfleoedd ges i siarad gyda John Davies. Rwy’n cofio fe’n sôn wrtha i mewn cwis cell Caerdydd am yr apêl ariannol a fuodd e’n trefnu er mwyn talu am brotest gyntaf y Gymdeithas yn Aber yn 1963. Cafodd e siec yn ôl i’w gyfeiriad yn Nhrelluest gan Saunders Lewis gyda chyfraniad o £20 at y costau. Yn rhyfedd oll, roedd Saunders wedi gwneud ei daliad i’r “The Welsh Language Society” – gan iddo sgwennu’r siec yn uniaith Saesneg.
Rhys Mwyn
Yr hyn lwyddodd John Davies i’w gyflawni oedd i wneud Hanes Cymru yn rhywbeth poblogaidd, yn perthyn i’r werin bobl yn ogystal â’r ysgolheigion a myfyrwyr, a peth da yw hynny. Pa werth i’r Hanes onibai fod trwch y boblogaeth yn cael manteisio ar y cyfle i ddeallt mwy am pwy ydyn nhw a lle mae nhw’n byw. Edrychaf ar John Davies fel athrylith o’r un angerdd, ysbryd ac o’r un brethyn a Hywel Teifi – yn gallu cyfathrebu gyda phawb a ddim ofn dweud eu dweud. Amlygir y parodrwydd yma i gyfathrebu yn y ffaith fod John Davies yn barod i wneud ‘gig’ yng Ngŵyl Arall tu allan i furiau saff y sefydliadau ysgolheigaidd. Bydd colled!
Huw Dylan Owen:
Bwlch
Amrwd yw ei Hanes Cymru – heb un
Bennod i ddadlennu
Cenedl a’i gwâr alaru
A’r cof ddeil am athro cu.