Location Baked yw llysenw Justin Toland, cerddor gludwaith ‘looptop’ (ei gair fe) sy’n byw yng Nghaerdydd.
Rydyn ni’n clywed seiniau natur, adar ac offerynnau amrywiol o hen recordiau; piano, gitâr o bob math; hyd yn oed rhythmau achlysurol.
Fel y mae’r enw yr artist yn awgrymu mae fe’n licio llefydd: cyntaf yn y teitlau, pob cynhyrchiad o’r ffurf Lle (bwlch) Blwyddyn, ac yn ail yn y samplau o leisiau fel dolenni. Mae’r deunyddiau ffynhonnell yn chwareus yn hytrach na rhywbeth uber-difrifol gan Steve Reich. Fel Barry 1972.
Pan dw i’n gwrando ar Guangzhou 2007 dw i’n meddwl efallai cymhariaeth deg a chyfoes fydd Person Pitch gan Panda Bear er bod Location Baked yn rhydd o strwythur caneuon.
Yn seico-daearyddiaeth Location Baked mae bron pob llefydd yn dychmygol. Dyw e ddim yn ail-ymweld llefydd fel Hawaii 1958; mewn ffordd mae fe’n adeiladu llun clywedol ar sail atgofion a chofnodion pobol eraill. Mae’r pedal steel yn Hawaii 1958 yn atgoffa fi o Chill Out gan KLF, fel road movie ti’n gallu hanner cofio.
London 1944. Ond mae’r seiren rhybudd yn golygu rhywbeth gwahanol ddyddiau yma (dw i’n meddwl am rave tiwns o’r 90au neu ganeuon gan Public Enemy).
Nes i golli ei gig ddiwethaf gyda Juffage. Tro nesaf efallai achos bydd e’n neis i weld yr adwaith i’r rhythmau toredig yma.
Manylion am albwm Location Baked sydd ar gael trwy ei Bandcamp.
Gweler hefyd: y mudiad hauntology, erthygl gan k-punk