Diwrnod yn y Ddinas; Ar Derfyn Dydd

Gweler hefyd: rhan 1 ar cychwyn y mis

Beth oedd arwyddair CNN ar un adeg dwedwch, “Give us a minute and we”ll give you the world”? Wel, os oes ganddoch chi 27 munud, gewch chi Gaerdydd.

Ydy, mae’r dair wythnos o recordio a golygu’r Magnum Opus Diwrnod yn y Ddinas ar ben, a dwi’n nacyrd. Ma’r rhaglen wedi’i chwblhau, a’r oriau ar oriau o seiniau yn llechu rywle y system, gyda swmp helaeth ohonynt wedi’u golygu’n glipiau sain i’r wefan sy’n cydfynd â’r rhaglen, yn ogystal â nifer o luniau dynnais i o’r ddinas a’r cyfranwyr.

Ar un adeg, ro’n i’n meddwl mai encil wirfoddol i lonyddwch lleiandy fyddai cyrchfan fy mreuddwydion, yn dilyn bron i fis o diwnio fewn i seiniau dinas Caerdydd. Ac mae’n wir – fydda i byth yn gallu clywed seiren ambiwlans yn rhuthro heibio heb feddwl, “Cor, odd hwnna’n un da”.

Susan GriffithsOnd y gwir ydy, ma’r cyfnod yma wedi neffro i’n llwyr i un o brofiadau mwyaf synhwyrus fy mywyd. Nid yn unig ydw i bellach yn deall yn union beth yw’r gwahaniaeth rhwng swn alarch a gwydd, colomen a gwylan, ond dwi wedi f’atgoffa cymaint o hiwmor sy’n perthyn i gleber trigolion Caerdydd. Anghofiwch am Gavin and Stacey, jyst treuliwch bach o amser ym Marchnad Caerdydd, Swyddfa Bost Albany Road neu’r bws rhif 52 i Bentwyn, a bydd drafft cynta sit-com ‘da chi mewn chwinciad.

Ydw, dwi’n cyfadde mod i wedi troi’n urban sound-geek, ac os ydych chi’n dymuno dod ar wibdaith soniarus â mi o amgylch y ddinas, mi af â chi i’r union lecynnau sy’n boddi mewn haenau o seiniau gwahanol.

Dwi newydd gyflwyno copi CD gorffenedig i gymydog, cyfaill a chyfranwr i’r rhaglen – Geraint Jarman. Hyd yn oed os nad ydych yn ffans o ddinas Caerdydd (dwi’n gwbod fod na rai ohonoch chi allan yna), hoffwn eich sicrhau chi fod y rhaglen yn werth gwrando arni am y rheswm sylfaenol fod “Nos Sadwrn Bach”, oddi ar ei albwm newydd hirddisgwyliedig, yn un o’r caneuon harddaf i mi ei chlywed erioed, ac ni fydd modd ei chlywed yn unman arall nes caiff yr albwm ei rhyddhau ddiwedd y flwyddyn.

Bu Geraint yn ddigon hael i gynnig y gân i gydfynd â’r rhaglen am ei bod yn cyfleu noson allan ar Womanby Street, sy’n asio’n berffaith gyda rhan ola’ Diwrnod yn y Ddinas.

Dwi’n ddiolchgar tu hwnt am ei haelioni ef, ond hefyd am haelioni pob un o gyfranwyr gwych y raglen fechan hon.

Dechreuais ag amlinellaid o syniad, a braslun o’r ffordd roeddwn am ei chychwyn a’i gorffen, gan gysylltu â ffrindiau, cydnabod, ac enwau cwbwl newydd i mi – yn holi tybed fydde amser ‘da nhw i mi dreulio ychydig amser yn eu cwmni yn recordio’r seiniau o’u cwmpas, a chyflwyniad o’u cornel nhw o Gaerdydd. Cês fy mhlesio’n arw gan yr ymateb, gan i bawb – yn ddi-eithriad – ddod nôl ata i’n syth bin gydag ymateb bositif.

Beth oedd hefyd yn ffantastic oedd y bobol gwrddais i trwy hap a damwain tra’n recordio ar strydoedd y ddinas, sydd bellach yn gymeriadau canolog yn y ddogfen hon, gan gynnwys Magi Roberts o Cathays ac Afzal Mohammad – tad y cyflwynydd Jason – o Gaerau yn Nhrelai.

Afzal MohammadMae’r ddau yn gweithio’n rhan-amser gyda City Sightseeing, y bysus deulawr tô-agored sy’n gadael y Castell bob hanner awr, gyda Magi’n sylwebydd, ac Afzal yn yrrwr yn dilyn gyrfa gyfan yn gweithio gyda Cardiff Bus.

Nid peth hawdd yw sgwrsio’n “naturiol” pan fo meicroffôn o dan eich trwyn,yn arbennig i bobol sydd heb arfer gwneud, ond ymatebodd pawb yn ddifyr a deallus wrth drafod eu Caerdydd nhw, a’r seiniau sy’n ffurfio’u trac sain dyddiol.

Yn wir, ces fy llorio’n llwyr gan ambell arsylwad. Doedd gen i ddim syniad, er enghraifft, fod Caerdydd yn llawer mwy swnllyd na’r un ddinas yn yr Unol Daleithiau, yn cystadlu â Chicago am ei statws fel Windy City, ac fod na un diwrnod o’r flwyddyn lle mae’r ddinas yn gwbl ddistaw.

Roedd hi hefyd yn ddifyr dod i ddeall pa synnau sydd ddim i’w clywed mwya ch yng Nghaerdydd, sy’n brawf fod hyd yn oed seiniau yn gadael hiraeth ar eu hôl.

Gallwn draethu am oriau am eco’r Echo-ebychwr yn nerbynfa’r orsaf ganolog, y grefft o stelcian elyrch a gwylanod heb risk asessment, a ‘nghyfnod byrhoedlog fel ambulance-chaser, ond mae’n mynd yn hwyr, ac mae’r hen leiandy yn galw.

Ond och, beth yw hyn? Gwich neges destun gan fy chwaer, a chorn ei char tu fas yn fy siarsio i i shiglo fy stwmps.

Mae gen i barti i’w fynychui’w cynhesu cartre Llyr a Spencer, cyfranwyr cyntaf y rhaglen, a’r cwpwl cyntaf i symud i’r datblygiad newydd ar hen dir Ninian Park. Fe ddarganfuon nhw’n ddiweddar fod eu ty nhw’n sefyll ar leoliad cawodydd yr hen stafelloedd newid. Waw – jyst dychmygwch yr ysbrydion sy ganddyn nhw…

A bod yn deg, nid mynd i hel bwganod ydw i, ond i ddilyn cyngor doeth iawn dderbyniais i tra’n recordio yn y farchnad bythefnos yn ôl. Wrth basio’r cigydd, gofynais i’r stondinwraig, Susan Griffiths, a gawn i recordio’r peiriant sleisio bacwn ar gyfer fy rhaglen. Roedd hi’n ddigon caredig i rannu sgwrs ddifyr â mi – sydd i’w glywed fel rhan o’r clipiau sain ar wefan BBC Radio Cymru. Ond wnai fyth anghofio’i hymateb cyntaf i’r fath ofyniad;

“If you don’t mind me saying love, you ought to get a different job – or get out a bit more!”

Dwi’n credu y sticiai i da’r job am y tro, Susan. Ond allan â mi, am ragor o brofiadau, yn ninas fechan orau’r byd.

Bydd Straeon Bob Lliw: Diwrnod yn y Ddinas yn darlledu ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sul Medi 26 am 5 o’r gloch yr hwyr, gydag ailddarllediad ar nos Fercher Medi 29 am 6 o’r gloch yr hwyr. I wrando eto ar yr iPlayer, i weld lluniau, ac i glywed sgyrsiau estynedig gyda’r holl gyfranwyr ewch yma.