Helpu chi i helpu’ch hunan. Beth yw Gyrfa 2000?

Mae cyfeiriadau i’r sefydliad Gyrfa 2000 wedi bod yn mynd o gwmpas y we cymdeithasol. Cer am grwydro o gwmpas y gwefan gyrfa2000.org.uk.

Rwyt ti’n gallu ffeindio holiadur am yrfaoedd ar y gwefan a Facebook (1,497 o ddefnyddwyr Facebook hyd yn hyn) ac o leiaf un cymeriad ar Twitter ag un gwefan arall gyda thema ZX Spectrum sy’n edrych yn gysylltiedig. Paid ag anghofio’r fersiwn Saesneg o’r gwefan chwaith. Mae’r gwefan bron yn berffaith – lawr i’r lluniau GIF animeiddiedig, neges sgrolio, a thagiau <TABLE> hen ffasiwn yn y cod (dim CSS yma!).

Dylet ti anfon ebost at y cyfeiriad ebost ar y wefan… Does dim lot o wybodaeth ar y cofnod WHOIS am yr enw parth chwaith. Dyddiad cofrestru oedd mis Ionawr eleni er bod e’n edrych fel gwefan o’r 90au (heblaw y diffyg www yn yr enw, sy’n ffasiwn eitha diweddar).

Felly pwy sydd tu ôl y peth? Dw i wedi clywed theori neu ddau…

Efallai dylen ni archwilio ychydig mwy ac efallai mwynhau’r dirgelwch am y tro, o leiaf am tuag wythnos arall.