ti’n gweld yn glir¿

Edrych ymlaen yn arw at gael moment i wrando ar albwm newydd skylrk:

Heddiw, ar y 25ain o Hydref, mae skylrk. yn rhyddhau ei albwm gyntaf, ‘ti’n gweld yn glir¿’, drwy’r label annibynnol, INOIS. Mae’r albwm yn mynd yn erbyn ei sŵn arferol gan greu bydysawd sonig unigryw a’n adeiladu byd dirdynnol i’r gerddoriaeth a’r delweddau fodoli ynddo. Yn cyd-fynd gyda’r albwm, mae cynnyrch ffisegol, cyfres o ffilmiau a hefyd taith o amgylch Cymru.

Mae skylrk. yn artist hip hop Cymraeg sydd wedi bod yn brysur o fewn y sin gerddoriaeth Gymraeg ers iddo ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2021. Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i berfformio a rhyddhau yn gyson, yn un o griw Forté yn 2022 a hefyd wedi perfformio fel rhan o Gig y Pafiliwn 2023 gyda cherddorfa’r Welsh Pops.

Eglura Hedydd Ioan (skylrk.): “Fe gafodd yr holl ganeuon eu ‘sgwennu, ac wir, yn adrodd hanes y pum mlynedd dwytha’ yn fy mywyd. Er recordio gymaint o demos, doedd y teimlad iawn byth yna. Wedi perfformio’r set o ganeuon efo band am ddwy flynedd, dyma fi ac Elgan, gitarydd y band, yn eistedd lawr un noson i ymarfer. Dyma fi’n recordio’r sesiwn, ac wrth wrando nôl dyma fi’n sylwi bod ni wedi llwyddo i ddal yr union deimlad o ni’n chwilio am. Mewn un noson odda ni wedi llwyddo i grynhoi y pum mlynedd. Y mwya o amser o ni’n dreulio efo’r prosiect o ni’n sylwi, dyma fo, dyma di’r albym.”

Yn ogystal â bod yn gerddor, mae Hedydd yn artist sy’n gweithio ar draws ffilm, celf a pherfformio. Wrth edrych ar ei holl waith, mae’n gwneud synnwyr felly bod ‘ti’n gweld yn glir¿’ yn amlygu ei hun i fod yn fwy ‘nag albwm sy’n cael ei ryddhau ar blatfformau ffrydio yn unig. Mae’r albwm ar gael i’w brynu ar CD ac ar feinyl cyfyngedig yma.

“Mae’r ffaith fod y gerddoriaeth yn rhywbeth mae pobl yn gallu ei ddal a’i gadw yn anhygoel o bwysig i mi,” meddai Hedydd. Yn gyfarwyddwr ffilm, mae Hedydd yn dweud ei fod o’n bwriadu adeiladu byd gweledol i gyd-fynd a’r gerddoriaeth. Ychwanegai: “Dim ond rhan o’r byd ydi’r gerddoriaeth, mae’r rhannau arall yn y celf, y ffilmiau a’r perfformiad byw.”

Bydd ‘ti’n gweld yn glir¿’ yn cael ei lansio yn Oriel Brondanw yn Llanfrothen heno.

01. yr ochr draw i’r enfys.
02. colli.
03. weithia.
04. machlud.
05. geiriau.
06. marmor.
07. hiræth.

O.N. Penblwydd hapus i wefan Y Twll, 15 mlynedd oed heddiw.