Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals

Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.

Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.

Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu  ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!

ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”

3 sylw ar “Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals”

  1. Albwn epig, yn sicr! Un o fy hoff recordiau erioed.

    A dw i’n meddwl bod Mwng fy hoff SFA albwm. Dadleuol, dw i’n gwybod! Dw i’n hoffi ei symlrwydd…

  2. Waw – 10 mlynedd! Bydd rhaid i fi wrando arni heddiw. Dwi’n cofio prynu 2 gopi o 7″ Ysbeidiau Heulog rhag ofn bydd hi’n werth ffortiwn rhyw ddydd…amau hynny ond mae’n diwn gwych.

Mae'r sylwadau wedi cau.