Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.
Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.
Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!
ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”