Shape/Function yn cyflwyno
Sweet Baboo, Truckers of Husk
Clwb Ifor Bach
4ydd mis Medi 2010
Oedd yna cyfnod pan allech chi weld y bandiau yma mwy neu lai unwaith bob wythnos yn chwarae yn un o’r lleoliadau ar draws dinas Caerdydd – ac yn wir mi rydw i wedi gweld y ddau grwp sawl gwaith yn y gorffenol. Ond tro yma, ma pethau braidd yn wahanol. Ma Truckers of Husk heb perfformio ers sbel – blwyddyn hyd yn oed – ac wedi newid ffurf y band i gynnwys aelod newydd. A dyma lawnsiad albym Sweet Baboo. Er bo Steve Baboo yn gallu rhoi sioe dda mlaen tra’n perfformio fel unigolyn, pan mae’n trefnu band llawn mae’r canlyniad yn allu bod yn anhygoel. Felly pan daeth yr hysbyseb lan ar fy nhudalen rhwydwaith cymdeithasol, dyma fi’n anghofio fy nghynlluniau bras i fynd i’r Mardi Gras ac yn anelu’n syth am Clwb Ifor Bach.
Oedd y cynulleidfa’n llenwi’r llawr gwaelod cyn i un o’r bandiau hyd yn oed chwarae nodyn. Parch i Shape/Function am drefnu a hybu’r noswaith. Wrth i Truckers of Husk pigo’i offerynnau i fyny dyma dylanwad yr aelod newydd (Kelson Mathias – gynt o Future of the Left) yn amlwg. Bu sain tyn gyda’r band erioed, ond oedd elfen mwy trwm neu fwy o ergyd i’r cerddoriaeth heddiw nag yn yr orffennol. Gyda’r gitar bas a’r drymiau wedi’u amseri a’u syncroneiddio’n berffaith fel ‘se nhw’n dyrnu pob mymryn o aer yn yr ystafell pan yn cytseinio gyda’i gilydd pob pedwar curiad. Er oedd hi’n annodd gweld y grwp o le on i’n sefyll, oedd caneuon fel Awesome Tapes From Africa a Person For The Person yn synion llawn, yn egniol, yn dyn ac yn gyrru’r cerddoriaeth mewn i’r corff yn ffisegol ac yn meddyliol.
Yna tro Sweet Baboo i ddod i’r llwyfan i chwarae caneuon oddi ar ei albym newydd yn egsliwsif. Doedd y dorf dim yn adnabod un o’r caneuon eto ond pan oedd un o’r caneuon yn cyrraedd howdown a’r gitarydd (brawd Steve) yn chwarae un o’i soloau cerddoriaeth gwledig – roedd y dorf cyfan yn gorfod gwrando a symud rhannu o’u cyrff i’r curiad. Oedd y basydd (ar fenthyg o’r Spencer McGarry Season) yn amlwg yn mwynhau wrth iddo fe dawnsio a jammo’r riffau bas. Oedd ol ymarfer ar y band – er bod y caneuon i gyd yn newydd roedd y cemeg a’r cyfeillgarwch rhwng y band yn amlwg i’w weld ar y llwyfan. Ar ôl chwarae traciau’r albym dyma’r band yn gadael y llwyfan ac yn ymateb i alwadau’r dorf i ddod nol i chwarae un o’r ffefrynnau oddi ar yr albym diwethaf Hello Wave o’r enw If I’m Still In Love When I Get Home From Travelling i dorf gwerthfawrogol. Dyw sŵn caneuon y band heb newid yn fawr o ran arddull ers yr albym dwethaf ond mae gan Sweet Baboo dawn am grefftu caneuon o ansawdd ac gwneud iddyn nhw’n swnion braf ar lwyfan – a ni siomwyd heno.
Llun o Myspace Sweet Baboo
Gyda llaw mae Rhodri D yn sgwennu ar Uno Geiriau dyddiau ‘ma. Mwynha.