Adolygiad gig: Sweet Baboo a Truckers of Husk

Shape/Function yn cyflwyno
Sweet Baboo, Truckers of Husk
Clwb Ifor Bach
4ydd mis Medi 2010

Oedd yna cyfnod pan allech chi weld y bandiau yma mwy neu lai unwaith bob wythnos yn chwarae yn un o’r lleoliadau ar draws dinas Caerdydd – ac yn wir mi rydw i wedi gweld y ddau grwp sawl gwaith yn y gorffenol. Ond tro yma, ma pethau braidd yn wahanol. Ma Truckers of Husk heb perfformio ers sbel – blwyddyn hyd yn oed – ac wedi newid ffurf y band i gynnwys aelod newydd. A dyma lawnsiad albym Sweet Baboo. Er bo Steve Baboo yn gallu rhoi sioe dda mlaen tra’n perfformio fel unigolyn, pan mae’n trefnu band llawn mae’r canlyniad yn allu bod yn anhygoel. Felly pan daeth yr hysbyseb lan ar fy nhudalen rhwydwaith cymdeithasol, dyma fi’n anghofio fy nghynlluniau bras i fynd i’r Mardi Gras ac yn anelu’n syth am Clwb Ifor Bach.

Oedd y cynulleidfa’n llenwi’r llawr gwaelod cyn i un o’r bandiau hyd yn oed chwarae nodyn. Parch i Shape/Function am drefnu a hybu’r noswaith. Wrth i Truckers of Husk pigo’i offerynnau i fyny dyma dylanwad yr aelod newydd (Kelson Mathias – gynt o Future of the Left) yn amlwg. Bu sain tyn gyda’r band erioed, ond oedd elfen mwy trwm neu fwy o ergyd i’r cerddoriaeth heddiw nag yn yr orffennol. Gyda’r gitar bas a’r drymiau wedi’u amseri a’u syncroneiddio’n berffaith fel ‘se nhw’n dyrnu pob mymryn o aer yn yr ystafell pan yn cytseinio gyda’i gilydd pob pedwar curiad. Er oedd hi’n annodd gweld y grwp o le on i’n sefyll, oedd caneuon fel Awesome Tapes From Africa a Person For The Person yn synion llawn, yn egniol, yn dyn ac yn gyrru’r cerddoriaeth mewn i’r corff yn ffisegol ac yn meddyliol.

Sweet BabooYna tro Sweet Baboo i ddod i’r llwyfan i chwarae caneuon oddi ar ei albym newydd yn egsliwsif. Doedd y dorf dim yn adnabod un o’r caneuon eto ond pan oedd un o’r caneuon yn cyrraedd howdown a’r gitarydd (brawd Steve) yn chwarae un o’i soloau cerddoriaeth gwledig – roedd y dorf cyfan yn gorfod gwrando a symud rhannu o’u cyrff i’r curiad. Oedd y basydd (ar fenthyg o’r Spencer McGarry Season) yn amlwg yn mwynhau wrth iddo fe dawnsio a jammo’r riffau bas. Oedd ol ymarfer ar y band – er bod y caneuon i gyd yn newydd roedd y cemeg a’r cyfeillgarwch rhwng y band yn amlwg i’w weld ar y llwyfan. Ar ôl chwarae traciau’r albym dyma’r band yn gadael y llwyfan ac yn ymateb i alwadau’r dorf i ddod nol i chwarae un o’r ffefrynnau oddi ar yr albym diwethaf Hello Wave o’r enw If I’m Still In Love When I Get Home From Travelling i dorf gwerthfawrogol. Dyw sŵn caneuon y band heb newid yn fawr o ran arddull ers yr albym dwethaf ond mae gan Sweet Baboo dawn am grefftu caneuon o ansawdd ac gwneud iddyn nhw’n swnion braf ar lwyfan – a ni siomwyd heno.

Llun o Myspace Sweet Baboo

Gyda llaw mae Rhodri D yn sgwennu ar Uno Geiriau dyddiau ‘ma. Mwynha.

Adolygiad gig: Neon Indian ym Mhryste gyda Chad Valley ac IDRchitecture

Neon Indian

No Need to Shout yn cyflwyno
Neon Indian, Chad Valley, IDRchitecture
Start the Bus, Bryste
3ydd mis Medi 2010

Oni’n cyffrous cyrraedd y lleoliad yma am y tro cynta’. Oni’di clywed straeon positif am y lle ac yn disgwl mlaen yn arw i weld y band oedd yn clasho ‘da’r Flaming Lips yn Gwyl y Dyn Gwyrdd, sef Neon Indian. Ar ôl cyrraedd a chwilio am y llwyfan oedd flin ‘da fi gweld bo’r llwyfan yn un o’r rheina sy’ ar waelod grisiau a’r gynulleidfa yn sefyll yn uwch na’r bandiau ac yn edrych lawr arnynt. Ta waeth, i’r bar am ddiod ac yna canolbwyntio ar y cerddoriaeth.

Dyma IDRchitecture yn agor y sioe gyda’i synnau’n croesi ffiniau rhwng trefol a breddwydiol. Dyma’r Nord synth a’r ol lleisydd yn daparu melodiau fel ‘se’n nhw’n syrthio’n ysgafn o’r cymylau ond geiriau di-derfyn acennog y brif leisydd yn gwrthgyferbynnu yn awgrymu bod y band yn trial gwneud rhywbeth gwahanol – fel wedodd Huw Stephens (yn ôl tudalen Myspace y band) “Mae’n wahanol i bobeth arall sy’ rownd ar y foment”. Fe wnes i eitha mwynhau’i set – ond dim dyma’r rheswm nes i groesi’r afon Hafren.

Fe wrandawais i ar Chad Valley cyn gadael y ty ac oni’di synnu ar yr ochr orau. Oedd teimlad ymlaciedig i’r ganeuon ac yn neud y gwaed symud o fewn fy nghweithiennau. Mae’n siwr bo’r BPM y peiriant dryms wedi tiwnio mewn a cyfradd curiad fy nghalon. Unwaith daeth y gwr solo i’r llwyfan a dechrau’r peiriant dryms fe ddechreuoedd y teimlad eto a fi methu peidio â tapio fy nhroed ar y llawr. Dyw’r gwr ddim yn edrych yn nodweddiadol fel pop-star ond mae e’i ddefnydd e o lwpiau, ffilterau, synthiau a effeithiau ar ei lais yn digon i drawsnewid person i le pell i ffwrdd fel ma teitlau Portuguese Solid Summer a Spanish Sahara yn awgrymu.

Dyma fi’n dychwelyd i’r bar tra bo fi’n aros i’r brif band dechre a dyma fi’n gweld bachgen digon ryfedd ei olwg yn eistedd ar y soffa yn gaeth – yn syllu, gwenu, teipio – ar ei gyfrifiadur macafal, yn amlwg yn sgwrsio a’i ffrindiau. Dyma fi’n pendronni pwy bydde’n dod i clwb nos brysur ar nos wener a neud a fath beth. Gyda hwff o deipio a gwen mawr arall at y sgrin, dyma fe’n rhoi glep i glawr y gluniadur, yn codi ac yn sgathru tua’r llwyfan. Boneddigion a boneddigesau – dyma Neon Indian.

Y sain cynta’ ni’n clywed yw arpeggiator o’r Juno, a’r lwp yn cyflymu ac yn arafu, y dryms yn clico mewn yn raddol a’r pop-synth yn dod a’r can cyfan at’i gilydd. Dyma patrwm y noswaith o hyn ymlaen. Roedd pob arweiniad a allweiniad yn cynnwys gwahanol casgliadau o sainweddau synth. Dyma’r techneg yma yn rhoi naws electronig a cysondeb a patrwm i’r set. Mae yna bedwar aelod yn y grwp, sef – y brif leisydd yn gyfrifol am y synnau atmosfferig rhwng y caneuon a ambell i offeryn arall fel peiriannau drymiau a theramin, yna’r drymar a’r ferch ar y synthiau arall a ôl lleisiau’n ymuno a bob pennill a cytgan, a’r gitarydd yn strymmo cordiau ac yn smasho solo mas ar mwy neu lai bob can. Er oni’n son bod y arweiniau a’r allweiniau yn creu argraff o lun ar bapur – neu hyd yn oed model tri dimensiwn yn troellu ar sgrin cyfrifiadur – oedd rhan fwyaf o’r set yn creu delweddau yn fy mhen. Oedd y synnau prydferth yn dod o’r ôl-leisydd a’i synth yn cyfunio’n berffaith a’r effeithiau ar y gitar a’r brif llais yn creu cyfanwaith oedd bron yn arallfudol. Chwaraeodd y band am ryw awr – a oedd y cetyn llawr-ddawnsio (a’r grisiau) yn llawn gyda’r cynulleidfa yn dawnsio ac yn mwynhau caneuon fel I Should’ve Taken Acid with You, Deadbeat Summer a Terminally Chill.

Mae’n anodd gwbod faint o’r dorf daeth i weld y band a faint daeth i feddwi ar nos wener – ond wnaeth pawb a wnaeth aros sboi’r diwedd mwynhau’r cerddoriaeth electrotastig. Dwi’n falch bo fi’di dod o hyd i’r lleoliad yma yn Bryste achos ges i’r fraint o weld y bandiau yma i gyd heno a wynhau’n fawar – ond yn ogystal weles i boster am Crystal Fighters yn hwyrach yn y mis – fe wna i’r siwrnau ‘to bryd hynny wi’n siwr!

Llun Neon Indian gan Julio Enriquez

Gyda llaw mae Rhodri D yn sgwennu ar Uno Geiriau dyddiau ‘ma. Mwynha.