Adolygiad gig: Cyrion, Crash.Disco!, Messner, DJ Meic P

Cyrion, Crash.Disco!, Messner, DJ Meic P, poster gan Huw EvansCyrion
Crash.Disco!
Messner
DJ Meic P
Clwb Ifor Bach
20fed mis Tachwedd 2010

Ar ôl mwynhau Cyrion yn arw ar ôl eu clywed yn Wa Bala ychydig fisoedd yn ôl yr oeddwn wedi cynhyrfu ar ddeallt eu bod am chwarae yng Nghlwb Ifor Bach. Pan cyrhaeddais oedd Crash.Disco! wrthi’n gwneud set gwych. Be oedd y gynulleidfa yn ei wneud? Yr rhyw 30 ohnynt yn sefyllian fel lemons! Yr wyf yn sicr oedd pawb yn gwerthfawrogi’r cerddoriaeth – pam arall buasant wedi talu 6 phunt i ddod i mewn? Hefyd credaf fod noson o gerddoriaeth mor ‘sbesiffig’ a hyn yn debygol o fod a chynelleidfa o phobl sydd yn dallt yn iawn pwy yw’r artistiaid ac yn hoff ohonynt eisioes. Ond yno yr oedd y gynelleidfa, yn sefyll yn barchus ar gyrion yr ystafell (pardon the pun!) fel llygod bach ofn i rhyw gath fawr eu llarpio!

Ni wellodd pethau ar ôl i’r Cyrion ddechrau eu set – er iddynt chwarae tiwns gwefrus oedd yn adweithio a’r glust yn bleserus ac yn peri awch aruthrol i ddawnsio – segur a diflas oedd y gymellaidfa i weld. Mae hyn dipyn o siom ond nid yw’n un rhywbeth newydd yn ‘sin gerddoriaeth electroneg Gymraeg’ o be welaf i. Yr wyf yn cofio noson cyffelyb pryd oedd Lembo efo set yn noson ‘Nyth’ yn Gwdihw y flwyddyn diwethaf.

Cerddoriaeth gwych ond oedd naws diflas yr ystafell a segurdod swil y cynelleidfa yn ei sbwylio braidd, ac er yr oeddwn braidd yn benwan ar ôl yfed potel o win stel o Lidl yr oeddwn dal yn teimlo chydig yn lletwith wrth ddawnsio! I ddweud y gwir dawnsiais fel dipyn o ‘dit’ gwyllt yn noson y Cyrion hefyd, dim ond fi ac fy 2 ffrind oedd i weld yn symyd ein cyrff o gwbwl. Mae’n drueni ac siwr o wneud i’r artistiaid deimlo’n chydig yn rhwystredig.

Er mawr gwilydd i mi yr wyf yn dueddol i feddwi’n gaib cyn mynd i’r nosweithiau electroneg cymraeg mwy nac yr wyf mewn noson cyffredin- efallai yn fy isymwybod yr wyf yn ymwybodol fydd y profiad yn un rhwystredig a lletwith ir eithaf o orfod sefyll yn llonydd a chymedrol os fyddaf yn ddi-feddw. Mae’n rhyfedd iawn gan fod naws nosweithiau dawns megis C.Y.N.T. yng Nghaerdydd mor wych a gwallgo, pam ellith nosweithiau cerddoriaeth electronig cymraeg fo yr un fath? Ydym ni’r cymru’n rhy parchus? Ydi cymleth y taeog efo gymaint o afael ynom ein bod ddim efo’r yder dawnsio mewn noson gymraeg electtroneg fel fyddwn yn C.Y.N.T?

Mae’n cael ei alw’n cerddoriaeth DDAWNS am reswm, dim cerddoriaeth sefyll-yn-llonydd-efo-eich-breichiau-wedi-eu-croesi mohono fo!

Cefais CD am ddim gan y Cyrion yr oeddynt yn ei roi i bawb, yr wyf yn ddiolchgar iawn amdano – Surrounded yw enw’r albwm. Maent yn haeddu cymaint mwy o sylw nag y maent yn ei chael. Lle goblyn oeddynt yn yr Eisteddfod Glyn Ebwy yr haf yma? Dydw i ddim yn teimlo fod y sefydliadau cymraeg yn rhoi llwyfan deg i cerddoriaeth o’r math yma. Mae mwy o bwyslais ar yr hyn sydd yn draddodiadol, ceidwadol ac mae hyn wedi bod yn broblem chymreig erioed- (fel y dysgais mewn darlith) adwaith naturiol yw ceidwadaeth y ‘Pethe’ Cymraeg i fygythiad mae’n gynebu fel diwylliant lleaifrifol. Er gallwn ddealt pam fod bandiau prif ffrwd Cymraeg mor hen ffash, credaf rhaid i ni ddeallt os mae’r Gymraeg i gyfoesi rhaid cael dipyn o bob dim a bod yn deg wrth rhoi llwyfan i yr holl genres gwahanol.

Noson ardderchog, arhosom i glywed chydig o fiwsig ffynci gan Mr Potter am sbel, yna ma adref, cael bwyd, panned yna gwely. Cefais noson go lew, cerdoriaeth gwych a gobeithiaf bydd rhagor o nosweithiau cyffelyb yn cael eu trefnu!

Mae Heledd Melangell Williams yn casglu fideos rhyngwladol diwyllianau lleafrifol ar ei flog myndiawlmundial.

Awdur: Heledd Melangell Williams

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn hoff o hip-hop a cherddoriaeth electroneg yn bennaf. Yr wyf hefyd yn blogio yn Saesneg i Radical Wales ynglŷn â gwleidyddiaeth adain chwith.

3 sylw ar “Adolygiad gig: Cyrion, Crash.Disco!, Messner, DJ Meic P”

  1. Tip am artist electronica: ti’n gallu hyrwyddo dy set fel ‘gig yn fyw’ neu ti’n gallu hyrwyddo fe fel ‘noson clwb’/’DJ set’. Does dim ots. Ond mae pobol yn dawnsio am yr ail, dyw pobol ddim yn dawnsio llawer yn ‘gigs’. Gwir.

  2. Cytuno nad ydi cerddoriaeth fel hyn yn cael proffeil fel bandiau eraill. Welsoch chi rioed dudalen flaen Selar i gerddor electronig? Dwi’m yn cofio un. Ella bod o’n cael ei ystyried yn rhy niche, sy’n eironig am sîn gwbl niche! Ma’r ‘sin Gymraeg’ os oes na ffasiwn beth yn dueddol o fod yn cael ei arwain gan gitars er buodd na gyfnod diweddar gyda hip hop yn dylanwadu.

    O ran dawnsio ma na ffasiwn yn mynd a dod. Rhai adegau gei di lot, rhai adegau mae dawnsio jest ddim the done thing. Dwi’n ddawnsiwr. Na’i ddawnsio i’r cloc yn ticio. Roedd gigs nos Iau Steddfod (sdwff electronig) yn y 90au yn llawn dawnsio…neu jest fi oedd fanna fyd?

Mae'r sylwadau wedi cau.