Chwildroadau cerddorol yn y 80au cynnar

Geiriau craff gan Rhys Mwyn am yr 80au fel rhan o erthygl am lyfr newydd Geraint Jarman:

O ran cyd-destun yr 80au cynnar, fe welwyd twf o grwpiau Cymraeg newydd, yn eu plith Tynal Tywyll (grp Ian Morris a gyfeiriwyd ato uchod) a grwpiau fel Y Cyrff, Yr Anhrefn wrth gwrs, Elfyn Presli, Traddodiad Ofnus. Ar y pryd doedd na fawr o neb allan yna yn rhoi unrhyw gymorth na chefnogaeth i’r grwpiau yma. Do fe gafodd Y Cyrff gefnogaeth Toni Schiavone a chriw’r Gymdeithas yng Nghlwyd ond fel arall doedd yna neb yna i drefnu gigs na recordio Tynal Tywyll neu Datblygu felly daeth yr holl grwpiau at ei gilydd i recordio’r LPs ‘Cam o’r Tywyllwch’ a ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ – casgliadau amlgyfrannog o’r grwpiau newydd yma.

Rwan dyma fy safbwynt i wrth gwrs. Gwrthodwyd chawarae’r recordiau yma gan nifer o gynhyrchwyr radio ar y pryd oherwydd eu “safon”. Roedd y cynhyrchwyr radio yn gyn aelodau o grwpiau Cymraeg, gwrthodwyd recordio’r grwpiau yma gan y Labeli Cymraeg a heblaw am Gell Clwyd fe wrthodwyd gigs i’r grwpiau yma gan drefnwyr y dydd. Ar ben hynny roeddwn i dan ddylanwad Francis Bacon a Malcolm McLaren ac o’r farn mai’r ffordd orau ymlaen fyddai creu Byd Pop Cymraeg newydd drwy chwlau’r hen fyd pop traddodiadol Gymraeg.

Ti’n gallu darllen y gweddill yr erthygl yn y Daily Post yma.

Wrth gwrs mae pethau wedi newid gymaint ers yr 80au… Trafodwch.