Retromania ac ailgylchu diwylliant pop, oes gormod?

Dyma un o fy hoff lyfrau o lynedd, Retromania gan Simon Reynolds. Tybed os oes unrhyw bobol Cymraeg eraill wedi ei darllen hefyd? Os oes gyda ti unrhyw ddiddordeb mewn diwylliant pop fel newyddiadurwr, DJ neu artist mae’n hanfodol yn fy marn i.

Mae’r llyfr yn manylu ein obsesiwn gyda’r oes pop a fu. Roedd wastad rhyw elfen o ddiddordeb mewn y gorffennol ond bellach mae lot mwy o enghreifftiau fel: bandiau yn ailffurfio, ail-creu neu ailgymysgu hen gerddoriaeth, ail-rhyddhau clasuron enwog a choll, artistiaid fel Duffy, Amy Winehouse, White Stripes, Girl Talk a Primal Scream ac amgueddfeydd pop o gwmpas y byd.

Mae Reynolds hefyd yn awgrymu gwreiddiau’r sefyllfa: argaeledd hen gerddoriaeth ar YouTube, Spotify ac MP3 (oedd ein 60au trwy’r dosbarthu yn hytrach na’r arddulliau cerddorol a genres newydd?), llwyddiant y diwydiant hanes pop fel busnes, gwahaniaethau gwleidyddol rhwng y 60au a nawr, hyd yn oed pethau fel diwedd Ras Ofod, diwedd moderniaeth a’r golled diddordeb mewn ‘Y Dyfodol’ fel cysyniad (e.e. diffyg ffuglen wyddonol) neu golled gobaith mewn beth sydd ar y gweill yn gymdeithas yn gyffredinol.

Beth sy’n digwydd pan fydden ni wedi ailgylchu popeth o’r gorffennol? Ydy’r obsesiwn yn bygythiad i arloesi a seiniau newydd nawr? Oedd y 60au ac ati yn arbennig ac unigryw mewn ffordd? Fydd gobaith o ysbrydoliaeth newydd yn ein degawd, oes ffordd mas?

Dw i’n bwriadu sgwennu cofnod neu dau neu tri ar Y Twll pan fyddi i’n gallu ffurfio meddyliau. Prif ffocws Reynolds yw diwylliant a diwydiant Anglo-Americanaidd sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn ar Gymru wrth gwrs. Heblaw darn am Andy Votel a sôn bach am Welsh Rare Beat fel enghraifft does na ddim lot am Gymraeg yn uniongyrchol ond dw i’n meddwl bod mewnwelediadau i ein cerddoriaeth hefyd, naill ail SRG, pop o Gymru neu pa bynnag categori ti eisiau ystyried. Felly gwnaf i drio awgrymu syniadau cynnar am ei pherthnasedd i ein pop hefyd.

Gweler hefyd:

Un awgrym ar “Retromania ac ailgylchu diwylliant pop, oes gormod?”

Mae'r sylwadau wedi cau.