Maes E.
Wrth gwrs mae lot o bobol Y Twll yn gyfarwydd ar y cân ond wyt ti wedi gweld y fideo?
Cafodd y cân ei rhyddhau yn 1992 yn wreiddiol ar finyl 7″ ac wedyn ar drydydd albwm Datblygu, Libertino.
Yn diweddar rydyn ni wedi bod yn cwestiynu retromania ond dw i ddim yn siŵr os ydy e’n cyfrif yn union fel retromania os wyt ti erioed wedi ei gwylio o’r blaen. Dyma beth sydd yn ddiddorol am lot o fideos a phethau pop Cymraeg / SRG sydd ddim wedi cyrraedd YouTube neu y we eto (diolch i Victoria Morgan am rannu’r fideo heno).
Ffaith: mae lot o gyfeiriadau diwylliannol yn y cân ond mae’r un mwyaf cryptaidd am ‘cig’ (3:35) wedi dod, o bosib, o’r ffaith bod David R. Edwards yn llysieuwr.
Diolch am rannu. Roedd fersiwn arbennig (wedi ei gymysgu ganTystion) gynnai i hefyd rhyw dro, ar CD Croeso ’99 dwi’n meddwl, ond mae wedi diflannu. 🙁
Rhys, mae gen i gopi o Maes E 1999, ond diolch i DRM Apple (do, mi brynes i fe!) dw i’n methu ei lanlwytho. Mae ar gael ar iTunes.