Gwrandewch ar hanes hynod un bywyd gangster ar y rhaglen radio BBC Radio Cymru Straeon Bob Lliw.
Hyd yn hyn does dim llawer o drafodaeth wedi bod ar-lein am y rhaglen a ddarlledwyd heddiw ond mae hi’n werth eich amser am ei sylwadau, heb sôn am unrhyw beth arall:
“[…] yn y gêm drugs, os ti’n soft, ma’ pobl yn mynd i gymryd y piss – softie ydw i – ond odd raid i fi i fod yn gwerthu drugs a gneud lot o bres o’dd raid i fi ddechra’ mynd i gym, a steroids a cal tattoos just i ‘neud y look – ti’n gwbod, ma hwn chydig bach o nytar ia. Ifanc ac yn stiwpid ia. […]”
“[…] o ni’n dreifio rownd efo ceir posh. Oedd gen i Astra VXR, ges i Audi TT, ges i Mini Cooper, ges i BMW One Series, ges i motobeics… efo cash straight. O ni’n byw fatha king am two and a half years. […]”
Mae Cymru Fyw wedi cyhoeddi erthygl sy’n cynnwys cyfweliad gyda’r boi, Jason o Ddeiniolen, hefyd.
Llun: poster gan Y Twll ar gyfer addasiad ffilm dychmygol o Gangster Cymraeg