Wele gân serchus yn yr iaith Saesneg a ddaeth i mi tra’n synfyfyrio tra’n trwsio fy radio – pam ysgrifennu hon yn y Saesneg? Wel – ysdywed Dafydd Iwan: pam ma’ eira yn wyn gyfaill? Pwy a wyr beth sy’n gyfrifol am awen adloniant ysgafn mor afreolus.
Ta waeth – ysgrifennwyd y gân – a dyma hi a siawns y bydd y nesaf yn y Gymraeg.
Heb unhryw arbenigedd gwleidyddol wrth gwrs y tu hwnt i wleidyddiaeth ac economeg canu pop – teimlaf rywsut – yn y funud sydd ohoni – fod gwell gobaith i’r Cymry ac i amgylchedd Cymru o fewn yr UE.
Yn amlwg mae angen diwygio y gyfundrefn afiach anemocrataidd bresennol sydd ym Mrwsel ond ddim yn y ffyrdd yr awgrymwyd gan Cameron a’i griw elitaidd ond efallai yn debycach i beth o syniadaeth yr economegydd penfoel o Roeg Yanis Varoufakis sydd a gwell profiad o drin ac effeithiau eithafol y ‘Troika’ ar wlad gymharol fach.
Dwi di bod yn bwrw golwg ar wefan y mudiad ifanc diem25.org sy’n awgrymu ffyrdd ymlaen pan-Ewropeaidd all gynnal y gobaith heddychlon a fu’n rhan o’r ysgogiad dros ffurfio’r Undeb yn y lle cyntaf, a’i ategu a democratiaeth dryloyw sy’n parchu sofraniaeth ddiwyllianol dros rym y cwmniau gor-anferth sy’n debygol o fygwth ein traddodiad o lywodraeth lês os caiff erchyllderau cytundebol fatha TTIP eu pasio gan senedd Ewrop.
Cychwyn ymgyrch felly fydd y refferendwm – nid ei diwedd hi.
Yn amlwg ma’n boen fod hyn yn digwydd ynghanol tymor etholiadol ein gwlad ond efallai ei fod on gyfle i ddiffinio ein gwleidyddiaeth hefyd.
Ta waeth, does na’m byd gwaeth weithia’ na cantorion pop gor-ddifrifol yn trafod erchyllderau’r byd felly dyna ddigon o falu, yn ôl a mi at y canu…
UE Dros Gymru!
Un awgrym ar “Gruff Rhys: pleidleisiwch UE”
Mae'r sylwadau wedi cau.
Newydd wrando ar hwn rwan (wrthi’n gwrando ar bron pob fideo YouTube/can Soundcloud a bostiwd at Y Twll yn ddiweddar – diolch Carl) am y tro cyntaf, ac am gan hyfryd. Mae’n hawdd deud hynny a minnau’n rhannu’r un teimladau a fo, ond dychmygwch unrhyw un arall yn y byd yn ceiso canu can, am aros yn yr UE, ei adael, neu pa bynnag bwnc gwleidyddol, a byddai’n crinj pur.