Anturiaethau sinema ym Melffast

Dyma ffilm ddogfen fach ysbrydoledig am lawer o bethau – am ddinas fach o’r enw Belffast (sydd â phoblogaeth llai na Chaerdydd), am ffilm fel celfyddyd, am ffilmiau penodol, am ryfel, am gartref, am ofn ac hiraeth, ac am fod yn ffan o ddiwylliant a diwylliannau.

Mae’r gwneuthurwr ffilm Mark Cousins yn ymddangos o flaen y lens y tro hwn i rannu straeon ei blentyndod yn y 70au ac 80au cynnar – adeg y rhyfel yn Iwerddon – pan nad oedd llawer iawn o bethau eraill i’w gwneud yn ddiogel ond cael ysbrydoliaeth trwy ffilmiau o bob math.

Gadawodd y ddinas yn 1983 yn 18 oed ac mae’n dychwelyd i fyfyrio ar sut mae’r lle a’i hanes wedi cael ei ddefnyddio gan sinema, a sut mae bywyd a phrofiadau wedi ei newid e.

Rhywsut mae’r ffilm ddogfen, sydd ond yn 47 munud o hyd, yn wneud synnwyr gyda sut gymaint o themâu ond roedd rhaid canolbwyntio’n llwyr arni hi a myfyrio.

Dw i yn sicr am wylio gwaith Mark Cousins, artist sydd yn gyfarwydd i mi, yn ogystal â rhai o’r ffilmiau gan eraill mae’n sôn amdanynt.