Bore yma gwnes i weld yr arddangosfa Datblygu yn Waffle, Caerdydd (63 Heol Clive, Treganna – ddim yn bell o Dafarn y Diwc).
Mae’r perchennog caffi Waffle, Victoria Morgan, wedi bod yn casglu eitemau Datblygu ac mae hi’n croesawi unrhyw fenthyciadau er mwyn ehangu’r casgliad. Wedi dweud hynny, mae’r amrywiaeth o luniau, cloriau, gohebiaeth ac adolygiadau yn wych eisoes, gan fod Victoria yn chwaer i Patricia Morgan o’r band.
Fel mae’n digwydd, eleni mae’r band dylanwadol yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau fel deuawd o Aberteifi – David R. Edwards a T. Wyn Davies. Roedd adolygiadau Y Cymro a Sgrech yn 1982 o’r casét cyntaf Amheuon Corfforol yn ffafriol iawn. Dyma’r cân Problem Yw Bywyd o’r casét:
Ymunodd Patricia Morgan y band yn 1985 ac wedyn wnaeth y band tri albwm ardderchog, pum sesiwn i John Peel ac ambell i fideo i Criw Byw a Fideo9 ar S4C gan gynnwys Santa a Barbara:
A mwy… Ar hyn o bryd mae bwcibo cyf, cwmni y cynhyrchydd Owain Llŷr, wrthi’n creu Prosiect Datblygu (bwcibo 005), sef ffilm ddogfen annibynnol Cymraeg i ddathlu trideg mlynedd o Datblygu. Bydd premiere yn Theatr Mwldan, Aberteifi tua mis Medi 2012.
Tra bod i’n siarad am ffilm dyma clip o Llwch ar y Sgrin am sesiwn Datblygu yn 2008 pan wnaethon nhw recordio’r sengl olaf Can y Mynach Modern (diolch i Pete Telfer a’r Wladfa Newydd, sydd wedi sgwennu erthygl newydd am y dathliad).
Am ragor o wybodaeth am y dathliadau cer i Datblygu30.
Mae Nic Dafis yn rhedeg gwefan (an)swyddogol ynglŷn â phopeth Datblygu.
DIWEDDARIAD: mae Lowri Haf Cooke wedi sgennu lot mwy am yr arddangosfa gyda lluniau hefyd, mmm.
Cyfweliad gwych gyda Dave Datblygu. Dyle ni creu Grwp ar Facebook i gael raglen “Yr Un, Yr Unig……Dave Datblygu”
http://www.bbc.co.uk/newyddion/17740613