30 mlynedd o Datblygu

Arddangosfa Datblygu30

Bore yma gwnes i weld yr arddangosfa Datblygu yn Waffle, Caerdydd (63 Heol Clive, Treganna – ddim yn bell o Dafarn y Diwc).

Mae’r perchennog caffi Waffle, Victoria Morgan, wedi bod yn casglu eitemau Datblygu ac mae hi’n croesawi unrhyw fenthyciadau er mwyn ehangu’r casgliad. Wedi dweud hynny, mae’r amrywiaeth o luniau, cloriau, gohebiaeth ac adolygiadau yn wych eisoes, gan fod Victoria yn chwaer i Patricia Morgan o’r band.

Fel mae’n digwydd, eleni mae’r band dylanwadol yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau fel deuawd o Aberteifi – David R. Edwards a T. Wyn Davies. Roedd adolygiadau Y Cymro a Sgrech yn 1982 o’r casét cyntaf Amheuon Corfforol yn ffafriol iawn. Dyma’r cân Problem Yw Bywyd o’r casét:

Ymunodd Patricia Morgan y band yn 1985 ac wedyn wnaeth y band tri albwm ardderchog, pum sesiwn i John Peel ac ambell i fideo i Criw Byw a Fideo9 ar S4C gan gynnwys Santa a Barbara:

A mwy… Ar hyn o bryd mae bwcibo cyf, cwmni y cynhyrchydd Owain Llŷr, wrthi’n creu Prosiect Datblygu (bwcibo 005), sef ffilm ddogfen annibynnol Cymraeg i ddathlu trideg mlynedd o Datblygu. Bydd premiere yn Theatr Mwldan, Aberteifi tua mis Medi 2012.

Tra bod i’n siarad am ffilm dyma clip o Llwch ar y Sgrin am sesiwn Datblygu yn 2008 pan wnaethon nhw recordio’r sengl olaf Can y Mynach Modern (diolch i Pete Telfer a’r Wladfa Newydd, sydd wedi sgwennu erthygl newydd am y dathliad).

Am ragor o wybodaeth am y dathliadau cer i Datblygu30.

Mae Nic Dafis yn rhedeg gwefan (an)swyddogol ynglŷn â phopeth Datblygu.

DIWEDDARIAD: mae Lowri Haf Cooke wedi sgennu lot mwy am yr arddangosfa gyda lluniau hefyd, mmm.

Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988

Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

  • Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.
  • Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.
  • Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.
  • Fideo 9 yn dechrau.
  • Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.

Dewisiad o hoff ganeuon John Peel

John Peel ac Edward H.

Bu farw John Peel, DJ a chyflwynydd, chwe blynedd yn ôl heddiw.

Dyma *rhai* o’i hoff ganeuon fel teyrnged.


Magazine – Definitive Gaze
Band Howard Devoto o’r Buzzcocks yn wreiddiol


Joy Divison – Transmission (fersiwn sesiwn)
o Something Else, BBC 2, mis Medi 1979


Junior Murvin – Police and Thieves
Cynhychwyd y cân gan Lee “Scratch” Perry


Datblygu – Pop Peth
Cer i’r albwm Datblygu Peel Sessions ar Ankst am fersiwn arall a llawer mwy. Mae John Peel a Huw Stephens yn siarad am Datblygu yma.


The United States of America – The Garden of Earthly Delights
Psych penigamp o’r 60au


The Fall – Fiery Jack
O’r albwm Dragnet


Jeff Mills – The Bells
Techno o Detroit


The Orb – Towers of Dub
Dyb anhygoel ac epig, ti angen rig sain am hwn


Young Marble Giants – N.I.T.A (fersiwn teledu)
Mae’r fideo ‘ma bach yn dawel yn anffodus. Gan y band dylanwadol o Gaerdydd


The Three Ginx – On A Steamer Coming Over
Ar 78rpm


The Lurkers – Ain’t Got a Clue
Punk clasur ar goll


The Undertones – Teenage Kicks
Amlwg ond angenrheidiol yma

Mwy: darllediad morladron gan John Peel o 1967 a sesiwn Anhrefn cyntaf o 1986

Diolch i ugain_i_un am y llun