Gerallt. Un o’r beirdd hynny a mae’n debyg y byddai pob Cymro Cymraeg yn gallu ei adnabod wrth ei enw priod yn unig. Mae hynny ynddo’i hun yn dweud y cyfan, felly beth all rhywun ei ychwanegu?
Efallai mai yr unig beth alla’ i ei wneud yw adrodd mymryn o fy mhrofiad personol fel bardd a fu yn ddigon lwcus i fod ar dim Talwrn y Beirdd tra bu Gerallt yn feuryn.
Un profiad nad â fyth o ‘nghof yw fy ymddangosiad cyntaf un ar Raglen Talwrn y Beirdd ar gyfer Radio Cymru. Rhyw noson ddigon gaeafol a gwlyb oedd hi yn Llanbrynmair a ninnau, tim Y Glêr, wedi teithio o Aber. Doeddwn i erioed wedi cyfarfod nac wedi bod yng nghwmni Gerallt cyn hynny. Yn naturiol ddigon, roeddwn i’n eithaf petrus am ddarllen fy ngwaith yn gyhoeddus (am ddim ond yr ail waith), heb sôn am y ffaith y byddai Gerallt, o bawb, yn marcio fy ymdrechion allan o ddeg. Y gobaith oedd dod allan ohoni gyda dim llai nac wyth marc a chyfri fy mendithion.
Cân a thelyneg oedd fy nhasgau i y noson honno. O edrych yn ôl ar y ddwy dasg, ymdrechion digon diniwed a bachgennaidd oedd fy rhai i. Hyd heddiw dwi’n meddwl bod pinsiad o dosturi a diplomyddiaeth yn y naw a hanner marc a gefais yn farciau y ddau dro.
Ond wedi i’r recordio ddod i ben y digwyddodd yr hyn sy’n aros yn y cof. Yn y tŷ bach oeddwn i, yn gwneud yr hyn mae dyn yn ei wneud yn erbyn wal y tŷ bach ar ôl tua’r dwsin o baneidiau te defodol wedi Talwrn. Pwy ddaeth i fewn? Neb llai na Gerallt. Swreal, a dweud y lleiaf, oedd sefyll ochr yn ochr mewn tŷ bach gyda’r bardd y mae cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi’u dysgu i roi ei gerddi ar gof; i gydnabod y paradocs rhwng mawredd y geiriau ac eiddilwch y corff. Be ddiawl oeddwn i fod i ddweud a’i wneud mewn sefyllfa fel hyn? Roedd rhyw barchedig ofn wedi treiddio drwof, a phenderfynais, am ryw reswm, mai dweud dim byd oedd orau yn yr amgylchiadau.
Gerallt dorrodd y garw.
“Ew, roedd gen ti rhywbeth” medda fo wrth i mi gau fy malog yn drafferthus.
Heb wybod yn iawn at beth roedd o’n cyfeirio, mi atebais “Yyym, diolch yn fawr”
“Ia, yn y llinell ola’ ‘na… be oedd hi dŵad…’yn sgrialu’n hirddu ar draws y lôn’…. da iawn.”
Roeddwn i’n gegrwth, nid yn unig oeddwn i wedi cael canmoliaeth gan Gerallt, ond roedd Gerallt, llais Gerallt, wedi adrodd llinell o fy marddoniaeth i! Oedd, mi roedd o wedi gwneud hynny yn y recordiad yn gynharach yn y noson, ond rwan roedd o yn gwneud hynny, o’i gof, i mi. Mae pawb yn adnabod llais Gerallt, boed yn darllen ei gerddi ei hun, neu gerddi cenedlaethau o feirdd Cymru ar y radio. Dyna wefr oedd cael clywed fy ngeiriau i yn ei enau o.
Dwi’n meddwl i mi dreulio gweddill y noson, a rhai dyddiau wedi hynny, mewn stad o led-berlewyg. Ond, er gwaetha’r afrealiti, mi roedd hyn wedi digwydd go iawn.
Mi fu’r Glêr yn fuddugol y noson honno a thros weddill y gyfres a thros sawl blwyddyn o recordio wedi hynny cefais farn, anogaeth a chefnogaeth ganddo. A hynny dros baned a chacen gan amlaf. Roedd ychydig eiriau yn mynd yn bell yng ngenau Gerallt.
Mae rhaid i Feuryn ar gyfres y Talwrn y Beirdd BBC Cymru fod yn sawl peth; beirniad, storïwr ac athro i enwi dim ond tri. Mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r Meuryn wrth feithrin beirdd. Fe wnaeth Gerallt y pethau hyn gyda thafod arian a braich gefnogol. Mawr yw fy nyled i iddo. Gwn y bydd llawer iawn o feirdd yn teimlo yr un fath.
Nid ydi hyn o eiriau ond cip ar y dyn. Dwi’n siŵr y bydd rhagor o goffáu dros y dyddiau ac wythnosau nesaf. Ond wrth sôn am y dyn, y bardd, byddwn ni i gyd yn gwybod pwy sydd dan sylw wrth i ni sôn am Gerallt.