Diolch Gareth Potter am gynhyrchiad wych a’i caniatad i ail-cyhoeddi’r darn o heddiw yn 1992.
Awst y 6ed, 1992
Dwi’n ddauddeg saith a dwi ddim yn teenager rhagor.
Dros y flwyddyn ddwethaf mae Tŷ Gwydr wedi troi yn un o brif atyniadau’r sîn bop Cymraeg. Mae’r sîn ddawns wedi blodeuo gyda grwpiau ifanc fel Diffiniad, Mescalero ac Wwzz yn cadw’r ffydd ac mae crysau t Lugg erbyn hyn yn rhan o wardrob pawb sy’ ‘rioed wedi bod i gig Cymraeg. Da ni’n rhedeg noson rheolaidd o’r enw REU yng Nghlwb Ifor Bach gyda’n mascot, Cedwyn, yn arwain y dawnsio wrth i fi, Lugg ac Ian Cottrell o Diffiniad chware’r tiwns i’r ffyddloniaid chwyslyd.
Ond dyw pethe byth yn para am byth a dwi’n eistedd ar wal ar brynhawn Iau heulog Eisteddfod Aberystwyth yn edrych mas ar Neuadd Pontrhydfendigaid wrth iddi ddechrau llenwi gyda bob math o bobol lliwgar. Mae’n weddol dawel a dwi’n clywed arogl reu yn codi ar yr awel.
Dwi ddim yn siwr pam yn union da ni wedi galw’r parti mawr yma’n Noson Claddu Reu. Roedd e siwr o fod yn swno fel good idea at the time ac mae’r big gesture wastad yn apelio ata i.
Erbyn iddi dywyllu fydd dros 2,000 o rafins, rapscaliwns, shipshwn a pharchusion yr orsedd wedi casglu i ddathlu’n wyllt mewn pentre bach yng Ngheredigion ar lannau’r afon Teifi. Mae system sain anferthol, goleuadau a lazers, Datblygu, Diffiniad, Llwybr Llaethog, Beganifs a ni. Dwi ar bigau drain.
Peder blynedd yn gynt, yn ystod haf 1988, dwi’n cofio sgwrs gyda David R. Edwards tra’n gwylio rhaglen deledu am y sîn acid house. Ar y pryd roedd Dave Datblygu’n hollol ddiystyriol am yr holl beth. Ro’n i’n anghytuno;
Ein punk ni yw hwn. Ac mae’n mynd i dreiddio i bob cornel o’n diwylliant.
medde fi,
Nes ymlaen, dwi ar ochr y llwyfan gyda Dave.
Potter, o’t ti’n fuckin iawn am acid house. I thought it was just a stupid disco craze, but it’s changed our lives! Come here!!
Medde Dave, gan roi coflaid masif i mi.
Ni greodd hwn! Dyma’n amser ni!
Ro’n ni wedi stopio fod yn alternative ac wedi cipio’r mainstream. Beth arall oedd i wneud?
Mae’r sgript Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar gael yn siopau llyfrau, cyhoeddir gan Sherman Cymru. Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar Amazon
Llun gan Kirsten McTernan