Ymgyrch Facebook: John Cage 4’33” am #1 Nadolig!

Syniad gwych, chwarae teg.

Beth ydyn ni’n wneud yn yr oes ôl-Cowelliaeth? Yr unig dewisiad!

Ymgyrch Facebook: John Cage 4’33” am Nadolig #1
http://www.facebook.com/cageagainstthemachine

Mwynha’r URL hefyd.

Gyda llaw, John Cage 4’33” os ti erioed wedi clywed e:

Gyda llaw mae’n John Cage, paid â dweud ‘John Cale‘ – byddi di edrych yn dwp, dyw e ddim yn passé eto – tan fis Ionawr 2011 o leia.

(Ti di ymuno’r ymgyrch eto?)

SRG Ddoe a Heddiw

Mici Plwm ac eraill

Roc y Cnapan

Dau o’r lluniau wych yn y grwp Facebook SRG Ddoe a Heddiw.

Meddai’r gweinyddwr:

Plis ychwanegwch eich llunie, fideos, sylwadau a tagiwch fel ffyliaid! Peidiwch bod yn shei!
Mi fydd y lluniau a’r fideos yn cael eu rhoi mewn albums (ar gais cwpwl ohonach chi o’r grwp gwreiddiol) a felly yn gwneud hi’n hawdd dod o hyd i luniau penodol….gobeithio!

Gyda llaw, paid anghofio’r grwp Flickr Roc Cymraeg chwaith.

Gadael Yr Ugeinfed Ganrif: Darn Awst 1992 o’r sgript gan Gareth Potter

Diolch Gareth Potter am gynhyrchiad wych a’i caniatad i ail-cyhoeddi’r darn o heddiw yn 1992.

Awst y 6ed, 1992

Dwi’n ddauddeg saith a dwi ddim yn teenager rhagor.

Dros y flwyddyn ddwethaf mae Tŷ Gwydr wedi troi yn un o brif atyniadau’r sîn bop Cymraeg. Mae’r sîn ddawns wedi blodeuo gyda grwpiau ifanc fel Diffiniad, Mescalero ac Wwzz yn cadw’r ffydd ac mae crysau t Lugg erbyn hyn yn rhan o wardrob pawb sy’ ‘rioed wedi bod i gig Cymraeg. Da ni’n rhedeg noson rheolaidd o’r enw REU yng Nghlwb Ifor Bach gyda’n mascot, Cedwyn, yn arwain y dawnsio wrth i fi, Lugg ac Ian Cottrell o Diffiniad chware’r tiwns i’r ffyddloniaid chwyslyd.

Ond dyw pethe byth yn para am byth a dwi’n eistedd ar wal ar brynhawn Iau heulog Eisteddfod Aberystwyth yn edrych mas ar Neuadd Pontrhydfendigaid wrth iddi ddechrau llenwi gyda bob math o bobol lliwgar. Mae’n weddol dawel a dwi’n clywed arogl reu yn codi ar yr awel.

Dwi ddim yn siwr pam yn union da ni wedi galw’r parti mawr yma’n Noson Claddu Reu. Roedd e siwr o fod yn swno fel good idea at the time ac mae’r big gesture wastad yn apelio ata i.

Erbyn iddi dywyllu fydd dros 2,000 o rafins, rapscaliwns, shipshwn a pharchusion yr orsedd wedi casglu i ddathlu’n wyllt mewn pentre bach yng Ngheredigion ar lannau’r afon Teifi. Mae system sain anferthol, goleuadau a lazers, Datblygu, Diffiniad, Llwybr Llaethog, Beganifs a ni. Dwi ar bigau drain.

Peder blynedd yn gynt, yn ystod haf 1988, dwi’n cofio sgwrs gyda David R. Edwards tra’n gwylio rhaglen deledu am y sîn acid house. Ar y pryd roedd Dave Datblygu’n hollol ddiystyriol am yr holl beth. Ro’n i’n anghytuno;

Ein punk ni yw hwn. Ac mae’n mynd i dreiddio i bob cornel o’n diwylliant.

medde fi,

Nes ymlaen, dwi ar ochr y llwyfan gyda Dave.

Potter, o’t ti’n fuckin iawn am acid house. I thought it was just a stupid disco craze, but it’s changed our lives! Come here!!

Medde Dave, gan roi coflaid masif i mi.

Ni greodd hwn! Dyma’n amser ni!

Ro’n ni wedi stopio fod yn alternative ac wedi cipio’r mainstream. Beth arall oedd i wneud?

Mae’r sgript Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar gael yn siopau llyfrau, cyhoeddir gan Sherman Cymru. Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar Amazon

Llun gan Kirsten McTernan