Y 20 Gorau Electronica 1989 – 2009

Yn y bôn mae’r term ‘electronica’ yn cyfeirio at unrhyw gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu trwy gyfrwng electroneg. Yn ôl yn y 1950au a’r 1960au roedd cyfansoddwyr fel Karlheinz Stockhausen a Iannis Xenakis yn gwthio’r amlen gyda’u harbrofion mewn musique concrete gan ddefnyddio cyfarpar electroneg gynnar a chwarae o gwmpas efo peiriannau recordio a thâp magnetig (mae’r box set ‘Ohm: The Early Gurus of Electronic Music’ yn gyflwyniad da).

Dechreuodd fy niddordeb i mewn electronica ar ddechrau’r nawdegau. Ro’n i’n ddigon lwcus byw yng Nghaeredin yr un pryd a dechreuad dau glwb dylanwadol o’r enw Pure a Sativa, oedd yn chwarae cerddoriaeth electroneg danddaearol arallfydol ac yn rhoi mlaen artistiaid a DJs fel Derrick May (o Detroit, y dyn a dyfeisiodd y term ‘techno’), Orbital (o Lundain), a Neil Landstrumm (o Gaeredin).

Er bod y term electronica erbyn hyn yn gysylltiadol a cherddoriaeth sy’n addas ar gyfer gwrando adra yn y ty (yn aml gyda sbliff mawr mewn un llaw, neu yn chwarae yn y cefndir yn ystod dinner party), NID dyma yw fy nealltwriaeth i o’r term. Be o’n i’n hoffi, a be dwi dal yn hoffi, am electronica yw’r ffaith ei fod o’n gallu bod yn nifer o bethau hollol wahanol – bron iawn gellir disgrifio electronica fel anti-genre. Cerddoriaeth i ddawnsio iddo fo, cerddoriaeth weird, cerddoriaeth ddistaw chillout, cerddoriaeth swnllyd a gyflym, cerddoriaeth glasurol – mae’r genre yn eang ac yn unigryw.

Dros yr ugain mlynedd ddiwetha’ mae ton ar ôl ton o gynhyrchwyr newydd wedi cario mlaen gwthio’r ffiniau, gan greu cannoedd o sub-genres gwahanol – ond electronica ydy o i gyd i mi yn y diwedd.

Derrick May

Isod dwi wedi rhestru un record o bob un o’r ugain mlynedd diwetha’. Mae’r synau yn amrywio o tecno pur i ambient i electronica clasurol i proto drwm a bas i disco i hip hop offerynnol i dubstep. Yn ogystal, yn y ddau neu tair blynedd cyn y nawdegau fe ryddhawyd trwch o recordiau anhygoel oedd amlwg yn ddylanwadol ar be ddaeth ar ôl hynny – yn aml yn hanu o Detroit neu Chicago – ac maen nhw’n haeddu cariad yma hefyd: traciau fel ‘Can You Feel It’ gan Mr Fingers (1987), ‘Morning After’ gan Fallout (1988), ‘Voodoo Ray’ gan A Guy Called Gerald (1988), ‘Nude Photo’ gan Derrick May/Rhythim Is Rhythim (1987), a ‘Move Your Body’ gan Marshall Jefferson (1989).

808 State – Pacific State (1989)
Campwaith y band o Fanceinion a oedd yn hynod o ddylanwadol ar ddiwedd yr wythdegau, cyn iddynt golli eu mojo a chynhyrchu nifer o albyms masnachol isel eu safon. Yn ôl y son, Gerald Simpson (aka A Guy Called Gerald, a gynhyrchodd y trac chwedlonol ‘Voodoo Ray’ ac un o’r albyms drum n bass gynta ‘Black Secret Tecnology’) oedd genius 808 State a fo hefyd oedd yn gyfrifol am sgrifennu’r trac hon.

LFO – LFO (1990)
Un o recordiau gynta y label electronica chwedlonol Warp, un o’r tracs ‘bleep tecno’ gynta, a’r record gynta electroneg i mi frynu. Mae’r trac hon yn hynod o syml ond effeithiol iawn. Gweler hefyd yr albym ‘Frequencies’ o 1991.

Underground Resistance – Final Frontier (1991)
Un o’r bandiau electroneg mwya diddorol ers Kraftwerk, roedd UR yn gwisgo eu cerddoriaeth nhw fyny mewn dillad gwleidyddol, fel fersiwn tecno o Public Enemy. Hon yw fy hoff drac i o’r cyfnod cynnar, ac mae dal yn anfon ias i lawr fy nghefn bob tro dwi’n gwrando arni.

Aphex Twin – Selected Ambient Works 85-92 (1992/93)
Un o fy hoff albyms erioed. Y chwedl yw bod Richard James wedi recordio’r caneuon hyn ar dâp rhad, ac mai dyna’r unig gopi oedd wedi goroesi – y canlyniad yw swn/mix iffy iawn ar adegau (mae’n anodd iawn gwrando ar hwn yn y car!). Ond mae’r gerddoriaeth yn hollol anhygoel o’r dechrau i’r diwedd.

Jeff Mills – Waveform Transmission Vol. 1 (1992)
Un hanner o Underground Resistance yn wreiddiol, aeth Mills ymlaen i fod yn un o DJs/cynhyrchwyr tecno mwya’r nawdegau. Mae swn yr EP hon yn galed, gyflym a heb gyfaddawd, ond hefyd yn swynol tu hwnt.

Orbital

Orbital – Brown (1993)
Yn ystod y nawdegau cynnar fe dorrodd nifer o fandiau electroneg trwodd i’r siartiau – artistiaid fel The Prodigy a’r Chemical Brothers. Orbital oedd un o’r unig rhai ymysg y criw yma i gadw eu swn yn bur, gan ryddhau The Green Album yn 1991 a’r Brown Album yn 1993. Cerddoriaeth hudol a gynnes iawn.

Global Communication – 76:14 (1994)
Er bod swn yr albym hon wedi dyddio rhywfaint dros y blynyddoedd (gyda rhai darnau’n swnio’n borderline cheesy ar adegau) mae hwn dal yn golosus o gasgliad ym modd ‘ambient’ clasurol y nawdegau, gyda dylanwad cryf Brian Eno i’w glywed.

Neil Landstrumm – Custard Traxx (1995)
O Gaeredin, roedd Neil Landstrumm yn un o griw clwb Sativa y ddinas oedd yn creu cerddoriaeth ‘wonky’ blynyddoedd cyn i’r term ddod yn ffasiynol. Mae hwn yn glasur o drac o’r albym ‘Brown By August’ sy’n dangos ochr caled ac ochr gwirion ei gerddoriaeth. Erbyn hyn mae Landstrumm yn rhyddhau albyms dubstep hynod o ddiddorol ar y label electroneg chwedlonol Planet Mu.

DJ Shadow – Endtroducing (1996)
Y man lle cyfarfu cerddoriaeth hip hop a electronica i greu hip hop offerynnol. Roedd label Mo Wax wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth debyg i hyn ers nifer o flynyddoedd (yn cynnwys rhyddhau recordiau cynnar DJ Shadow ei hun yn y wlad hon), ond heb os yr albym hon oedd apex y symudiad, yn cymysgu hip hop, electronica, electro a thechnegau cut n paste mewn ffordd hynod o wrandawadwy oedd ar yr un pryd yn gwthio’r ffiniau – mae synau’r albym wedi eu samplo yn gyfangwbwl o stwff pobol eraill.

Squarepusher – Big Loada (1997)
Nol yn y nawdegau, cyn i Squarepusher dechrau rhyddhau albyms diri o interminable bas solos, fe ddechreuodd ei yrfa gyda albyms fel ‘Big Loada’, yn orlawn o syniadau a synau oedd yn hollol boncyrs ac yn lot o hwyl.

The Williams Fairey Brass Band – Acid Brass (1997)
Un arall o fy hoff albyms erioed. Syniad gwefreiddiol yr artist Jeremy Deller (a enillodd y Turner Prize yn 2004), a ofynnodd i fand pres Williams Fairey recordio fersiynau brass o draciau Acid House. Mae’r albym hon yn dangos pam mor hyblyg yw cerddoriaeth electronica a pam mor dda mae’n gallu swnio trwy ffilter genre hollol gwahanol o gerddoriaeth. Ar yr un pryd mae’n fuckin’ hilarious. Mynnwch gopi! ayb ayb.

Boards of Canada – Music Has The Right To Children (1998)
Talfyriad o ochr melodig y genre dros yr ugain mlynedd diwetha, mewn un albym. Fel Aphex Twin, mae swn Boards Of Canada yn unigryw a bron iawn wedi troi’n cliche o’i hun erbyn hyn.

Nightmares On Wax – Les Nuits (1999)
Trac syml, hardd, yn cyfuno synau electronica, chill out a soul.

The Avalanches – Since I Left You (2000)
Mae’r band yma o Awstralia ac i ryw raddau mae’r albym hon yn teimlo i mi tu fas i unrhyw ‘sin’ electronica – ac efallai mai dyna’r rheswm ei fod yn albym mor ddiddorol. Yn defnyddio elfennau ‘cut and paste’ a hip hop offerynnol a arloeswyd gan artistiaid hip hop a electro, ac yn hwyrach mlaen gan artistiaid fel Coldcut, DJ Shadow a J Dilla.

Fennesz – Endless Summer (2001)
Mae datblygiadau technolegol wedi bod yn ddylanwad cryf iawn ar electronica dros y blynyddoedd, ac ar yr albym hon gellir clywed pwer cynyddol cyfrifiaduron yn cynhyrchu steil a swn newydd – mae hwn yn swnio’n ‘glitchy’ iawn ar adegau, ac yn defnyddio technegau micro editing. Mae’r swn yn hollol unigryw, yn prosesu synau gitâr ond yn agosach at gerddoriaeth ambient na dim byd arall. Clywir hefyd ei albym gwych ‘Venice’.

Daft Punk – Discovery (2001), Legowelt – Disco Rout (2002), Thomas Bangalter – Outrage (2003)
Reit – nol i gerddoriaeth syml ar gyfer y llawr ddawns. Disco ar gyfer y degawd newydd, yn dangos fod cerddoriaeth electronica yn gallu bod mor hurt â llawn hwyl ac unrhyw genre arall.

Shitmat – Killababylonkuts (2004)
Dyna ddigon o’r disco! Fe ddyfeisiwyd y term ‘nyts’ yn arbennig ar gyfer cerddoriaeth Shitmat aka Henry Collins. Mae’n uffernol o blentynnaidd, mae’n llwyth o hwyl, ac mae’n codi braw arna i. Mae’r albym ‘Full English Breakfest’ hefyd yn cosi fy ffansi o bryd i bryd.

AFX – Analord (2005)
Richard (D) James aka Aphex Twin eto, un o artistiaid electronica mwya dyfeisgar a dylanwadol yr ugain mlynedd diwetha. Ar ôl saib, a nifer o albyms oedd yn llai nag athrylith, fe ddaeth yn ôl gyda’r gyfres anferthol hwn o 11 EPs (41 trac) a’u rhyddhawyd yn ystod 2005. Mae’r swn yn acid, ond hefyd yn electronica pur.

J Dilla – Donuts (2006)
Yr albym hip hop electronica gorau ers degawd (ers ‘Endtroducing’). Roedd James Yancey wedi bod yn cynhyrchu hip hop amgen ers blynyddoedd maith, ond hon oedd yr albym lle daeth popeth at ei gilydd mewn ffordd anferthol, hynod o emosiynol.Andy Stott

Andy Stott – Edyocat (2006)
Un o’r genhedlaeth newydd o artistiaid ifanc sy’n cyfuno dubstep a synau o’r hen ysgol tecno Detroit er mwyn creu pethau arbennig iawn.

Pole – Steingarten (2007)
A jyst er mwyn dangos mae nid yn unig y to ifanc sy’n gallu gwthio swn electronica ymlaen, dyma hen rech o’r Almaen a ddaeth ‘nôl ar ôl saib hir efo’r albym anhygoel hon. Ffaith – clawr y record hon yw’r clawr gorau erioed yn holl hanes cerddoriaeth.

Uusitalo – Karhunainen (2007)
Mae ‘na bethau annaearol a rhyfeddol yn treiddio o ddychymyg Sasu Rippati o’r Ffindir (sydd nawr yn byw ym Merlin, prifddinas electronic y byd). Mae’r dyn yma yn recordio pethau diddorol iawn o dan yr new Vladislav Delay, ond ei brosiect Uusitalo (‘Newhouse’) sy’n mynd a’m mryd i – fel mae’r enw yn crybwyll, cerddoriaeth ‘house’ newydd – melodig, cymhleth, arbrofol a funky.

Martyn – Suburbia (2008)
Un o brif chwaraewyr y sîn dubstep, er nad yw’n cynhyrchu ‘dubstep’ o gwbl i ddeud y gwir – eto, cerddoriaeth ‘house’ yw hwn ond trwy ffilter tecnoaidd, dubby, trwm.

Mae’r detholiadau Y Twll 2009 ar y ffordd.