Roxejam Caerdydd: celf newydd yn yr awyr agored

Cynhaliodd grŵp o artistiaid gŵyl celf stryd Roxejam yn orllewin Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf. Wedi dweud ‘celf stryd’ roedd y digwyddiad ym Mharc Sevenoaks yn hytrach na’r stryd.

Ta waeth, mae’r canlyniadau yn arbennig o dda. Er wnes i golli dydd Sadwrn a’r holl hwyl, DJs a’r broses gelfyddydol mae’r canlyniadau ar y wal hir ger y rheilffordd am flwyddyn arall. Es i drwy’r parc prynhawn dydd Sul ac roedd dau artist wrthi’n gorffen gweithiau gyda chynulleidfa fach.

Mae Roxejam yn digwydd bob blwyddyn yn ystod yr haf ym Mharc Sevenoaks, Trelluest, Caerdydd. Bob blwyddyn mae’r wal yn troi yn ddu yn ystod yr wythnos ac mae’r gweithiau i gyd yn diflannu er mwyn creu lle ar gyfer y flwyddyn newydd.

Mae’r grŵp Roxe (mae e’n odli gyda ‘Sevenoaks’) wedi bod ers pum mlynedd bellach. Cafodd e ei sefydlu er cof am yr artist ifanc diweddar Bill Lockwood.

Dim ond flas bach sydd ar y cofnod blog yma. Ac mae’r arddangosfa yn parhau am flwyddyn ac yn werth ymweliad.

Celf gan artistiaid amryw

Skamma: curiad ar dy ffans fel Cantona

Falle rwyt ti wedi gweld Skamma mewn fideos lle mae fe’n cynrychioli Cymru yn y brwydrau braggadocio hiphop Don’t Flop (iaith ansaff ar gyfer y swyddfa) ym Mhryste a thu hwnt.

Yn ei gân newydd hon, sydd wedi derbyn nifer parchus o 4000 o wylwyr fideo ar YouTube mewn wythnos, mae fe’n troi ei odlau at gynhyrchiad 2-step miniog gan cynhyrchydd Stagga o Dreganna, Caerdydd (gynt o’r criw DJo Optimus Prime). Nid hon yw’r cydweithrediad cyntaf y ddau. Dechreuodd y bartneriaeth achlysurol gyda’r tiwn drom Sick As Sin yn 2009.

O ran y boi Skamma mae fe’n dod o’r Barri ym Mro Morgannwg fel cewri eraill y genedl fel Derek Brockway a Gwynfor Evans. Mae fe wedi bod yn rapio ers tro. Ydy’r plant yn deall ei gyfeiriad i Eric Cantona yn y gân tybed? Ta waeth, joia’r salwch.

Odlgymix vs. y ffagl Olympaidd

Odlgymix

Wyt ti’n chwilio am y gwrthwenwyn i’r holl busnes ffagl Olympaidd?

Dyma tiwn hiphop newydd sbon o’r enw Straffagl gan yr artist newydd Odlgymix.

“Pa mor hawdd yw diffodd fflam / yn arbennig un di warchod gan mygs y Met bob cwr bob cam”

Mae Odlgymix yn rapiwr a chynhyrchydd o Gymru sydd yn byw yn Nghantre’r Gwaelod yn ôl ei thudalen Soundcloud. Ei dylanwadau tebyg yw llyfrau Asterix, y ffilm The Usual Suspects a’r band Public Enemy – dw i’n cymryd.

Y greadigaeth o Kreayshawn

Kreayshawn yw rapiwr sy’n dod o Ddinas Oakland, Califfornia, UDA. Er bod hi’n cyfeirio at labeli fasiwn Gucci, Fendi, Louis a Prada yn y cân yma ac yn dawnsio o flaen eu siopau mae hi’n mynnu dyw hi ddim yn eu gwisgo. Ar YouTube ti’n gallu gweld lot fawr o barch/casineb yn y sylwadau, rhai o’i fideos a ffilmiau ar gyfer artistiaid eraill a chyfweliad gyda Nardwuar lle mae hi’n siarad am hip-hop, crunk, band punk ei fam a jazz gan Sun Ra. Well i ni beidio cymryd ei geiriau 100% o ddifri, fel Jeremy Clarkson.