I’r rhai ohonom ni a oedd yn rhy ifanc neu rywle arall pan oedd Y Cyrff yn eu hanterth dyma hen raglen ddogfen Cofia Fi’n Ddiolchgar am y grŵp roc o fri o Lanrwst.
Mae hi’n cynnwys fideos ac hen glipiau eraill o’r archif gan gynnwys cyfweliadau gyda chyn-aelodau o’r grŵp – a’i cyn-athro daearyddiaeth dylanwadol Toni Schiavone. Hebddo fe byddai’r Cyrff wedi bod yn wahanol iawn – cynigiodd e gig cynnar iddynt ar yr amod eu bod nhw yn canu yn Gymraeg.
Mae teimlad y rhaglen yn syml gyda thestunau ar y sgrîn yn hytrach nag unrhyw droslais.
Darlledwyd y rhaglen gan gwmni cynhyrchu Pop 1 ar S4C yn 2000 yn wreiddiol. Mae testun ar y dechrau yn nodi bod y rhaglen yn deyrnged i’r gitarydd Barry Cawley a fu farw yn yr un flwyddyn mewn damwain ffordd.
Os ydych chi’n chwilio am fwy o fideos mae pobl yn rhannu ffilmiau am gerddoriaeth ar Twitter trwy’r dydd gyda’r hashnod #doccerdd. Diolch i Nwdls am y syniad ac i Siôn Richards am y ddolen i’r rhaglen am Y Cyrff.
Mae blog John Robb wedi cael y première ar ffeithiau am albwm newydd Datblygu – yn Saesneg!
Ta waeth, mae hyn i gyd yn newyddion mawr. Dw i’n edrych ymlaen at weld y band ar gloriau bob cyhoeddiad yng Nghymru o’r Cymro i’r Selar i Golwg i Planet i, err, Barddas.
Porwr Trallod yw enw’r albwm, mae llun clawr gan Ani Saunders ac mae Ankst Musik wedi rhannu ffrwd (a WAV!) o’r clasur instant o gân Llawenydd Diweithdra.
Fel o’n i’n dweud yn y darn ar ôl y gig mae’r band wedi diweddaru’r ffyrdd o gynhyrchu curiadau a sain er bod ‘na cysondeb o ran themâu.
Yn gyffredinol os ydych chi’n cynhyrchu cerddoriaeth electronig mor minimol mae’n rhaid bod hi’n anodd gwybod pryd i stopio a datgan bod y cyfansoddiad wedi gorffen.
Tro yma mae anghyflawnder y trefniant yn rhan bwysig o’r peth – yn enwedig y diffyg cic sydd yn cyfleu ystyr o ddiffyg momentwm y diweithdra i mi yn berffaith, diolch i Pat mae’n debyg.
Gellid dweud ein bod ni’n ail-fyw’r 1980au yn yr oes bresennol neu o leiaf bod ein hoes yn atsain o’r degawd hwnnw o ran yr economi, anghyfartaledd, polisïau o San Steffan ac ati.
Os yw hynny yn wir efallai taw dyna sy’n wneud i ddychweliad Datblygu a’r gân hon deimlo mor addas.
Mae geiriau Dave bron a bod fel cyngor gyrfa amgen i’r ifanc (rhywbeth mae fe wedi cynnig o’r blaen); rant am swyddi di-bwynt, Hall & Oates ac efallai dirfodaeth.
[…] Mae Llawenydd Diweithdra yn well na unrhyw gaethweithdra (?) sy’n cael ei gynnig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae Llawenydd Diweithdra yn curo bob gwaith mewn swyddfa neu unrhyw swydd ffatri gallai feddwl amdano […]
Mewn newyddion hollol annisgwyl mae Stewart Lee. sydd yn curadu gŵyl ATP ym Mhrestatyn ym mis Ebrill 2016, i weld yn ffan o Datblygu… Mae fe wedi dewis y band am gig yn yr ŵyl yn ogystal â Sleaford Mods, The Raincoats, Boredoms ac eraill.
Nid y Fall Cymreig ydyn nhw, pwy ddyfeisiodd y fath twpdra? Maen nhw yn well na’r Fall.
Dyma hunllef o flaen eich llygaid, eu fideo i’r gân Head and Shoulders gan Leftfield/Sleaford Mods.
Mae’r cyfuniad rhwng y delweddau a’r geiriau yn berffaith.
‘Dyn ni’n gweld rhyw fath o Pac-Man erchyll yn bwyta pob darn o jync ar hyd ei daith mewn dinas o salwch, bwyd crap, dyled ddrud, gwleidyddion twyllodrus a Bargain Booze.
Gallen ni wedi bod ar unrhyw stryd yng Nghaerdydd fel Heol y Porth neu Heol y Bontfaen efallai neu unrhyw le yn Llundain. Wedyn mae’r olygfa yn chwyddo mas i’r byd i gyd.
Dyma adolygiad gan Bethan Williams o raglen ddogfen Geraint Jarman a ddarlledwyd ar S4C ym mis Mai 2015. Ar hyn o bryd, dydy’r rhaglen ddim ar gael trwy ddulliau trwyddededig.
Dilyn Geraint Jarman a chyfweld ag e wrth iddo berfformio gigs a recordio’i albwm ddiweddara mae’r rhaglen.
Mae’n amlwg taw cyfansoddi a cherddoriaeth yw bywyd Jarman. Mae’n dweud ei fod yn mwynhau recordio a chyfansoddi o hyd, a’i fod yn un o’r pethau yn ei fywyd nad ydy e wedi mynd ‘yn ffed up ohono’.
Dechreodd ysgrifennu fel ‘outlet’ i’w agwedd o wrthod cydymffurfio a mitsio o’r ysgol ac mae’n dal ati achos ‘Be wnawn i heblaw am be ‘sgen i?’.
Mae’n amlwg yn llwyddo i dynnu pobl i’w gerddoriaeth – y fenyw mae’n sôn amdani sy’n gwrando ar ei recordiau bob dydd; y cerddorion rydyn ni ei weld e’n cydweithio â nhw fel ffrindiau; ei ferched, sy’n canu ar yr albwm ddiweddaraf a hyd yn oed diwylliant!
Wrth ganu reggae, diwylliant sy’n sôn am gam-drin a chael eich gwrthod, roedd e’n teimlo fod y diwylliant hwnnw’n uniaethu â’r Gymraeg – drwy gerddoriaeth.
Mewn cyfweliad o’r 70au am ddylanwad reggae mae’n dweud fod neges ei ganeuon wedi’i chlymu gyda’r diwylliant Cymraeg a dyna pam ei fod yn canu reggae yn Gymraeg.
Un o’r pethau mwyaf dwi’n ei gysylltu gyda Jarman yw’r sbecs haul, hyd yn oed mewn lleoliadau tywyll mae’r sbecs tywyll yn aros. Mae’n esbonio ei fod wedi dechrau gwneud am nad oedd e am i’r gynulleidfa i’w weld e, achos nyrfs – ac yn cyfaddef fod y nyrfs yn dal i ddod cyn gigs. Yn ystod y rhaglen mae’r sbecs tywyll yr un mor amlwg.
Wrth fynd nôl i ardal ei fagwraeth a sôn am brofedigaeth a gafodd yn fachgen ifanc er enghaifft mae’n gwisgo’r sbecs; ond wrth drafod cerddoriaeth mae’r sbecs ar goll.
Falle mai fi sy’n darllen gormod i hynny ond roedd e’n fwy parod a chyfforddus wrth siarad am gerddoriaeth. Roedd rhywbeth arall yn digwydd tu ôl i’r sbecs, heb yn wybod i’r gynulleidfa, ond bydd rhaid i chi wylio i weld beth!