Llwyfannu Lleisiau Amgen: Y Gynghrair a Radio Cymru

Gyda’r anghydfod rhwng cerddorion Cymru a’r BBC yn parhau, mae Sianel62 wedi ymestyn gwahoddiad i’n holl gerddorion i ffilmio pwt bach yn esbonio eu safbwyntiau personol. Gyda dadl mor gymhleth â’r un yma, mae sawl barn, sawl stori, sawl llais yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu.

Gweler y ‘Safbwynt’ gyntaf isod gan Sam James o’r band Blaidd (yn gynt o’r Poppies).

Wrth gwrs, nid gwasanaeth newyddion yw Sianel62 – ni allwn redeg ar draws y wlad yn dilyn storïau wrth iddyn nhw dorri. Ond gallwn gynnig llwyfan amgen i’r cerddorion – cyfle i fynegi eu persbectif lle nad oes cyfle i’w gwneud yn y cyfryngau prif ffrwd. Ife dyma fydd Sianel62 yn y dyfodol falle? Llwyfan ategol, rhyw le i gyfoethogi straeon a dadleuon yn unig?

Blaidd, Meic Stevens a Sianel62: Beth yw’r nod?

Tua mis yn ôl, ymwelodd y grŵp Blaidd o Aberystwyth â stiwdio Richard Dunn (cyn-allweddellwr Van Morrison, Geraint Jarman ac eraill) yn Llandaf, ger Caerdydd. Y bwriad oedd recordio sengl gyda’r chwedlonol Meic Stevens yn cynhyrchu. Roedd Sianel62 wedi adnabod y digwyddiad fel rhywbeth werth ei ddogfennu – yr hen feistr profiadol yn trosglwyddo ei ddoethineb i’r llanciau newydd ar y sîn. Heb eisiau swnio fel fwltur cyfryngol, roedd y ‘stori’ yn gyfoethocach hefyd gan fod Meic wedi datgelu i Sam (prif leisydd/gitarydd Blaidd) ei fod wedi dechrau ar gwrs o driniaeth am ganser y gwddf. Fel unigolyn poblogaidd a hoffus iawn ymysg y Cymry Cymraeg, roedd hwn siŵr o fod yn newyddion trist i nifer o bobl. Ond, yn ôl Sam, roedd agwedd Meic tuag at ei salwch yn herfeiddiol ac ysbrydoledig.

Wel, dyna yw cefndir y ffilm.

Y syniad gyntaf felly oedd creu ffilm ‘fly on the wall’ – ffilm epig, hanesyddol, rhyw fath o gyfuniad o Metallica: Some Kind of Monster a This is Spinal Tap. Ond roedd trefnu’r cynhyrchiad yn her yn ei hunain. Gan fod Sianel62 yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, mae adnoddau dynol yn brin ac roedd ffeindio pobl gydag awydd ac amser i fynd lawr i’r stiwdio i ffilmio yn genhadaeth! Yn y diwedd dim ond 2 awr o ffilmio oedd yn bosib ac felly mae’r canlyniad yn llai ‘epig’ ac yn fwy ‘cyfweliad o amgylch bwrdd y gegin’. Er gwaethaf hynny, mae’r ffilm yn llwyddiant – cannoedd o ‘views’ mewn llai nag wythnos, adborth hollol bositif yn y cyfryngau cymdeithasol, a sylw gan Huw Stephens ar Radio Cymru. Pawb yn hapus. Ond…

Mae yna gwestiwn pwysig yn ein hwynebu nawr, sef beth yw pwynt Sianel62? Hynny yw, ble ydy’r sianel yn ffitio mewn i’r cyd-destun darlledu/cynhyrchu ehangach yng Nghymru? Beth ddylai amcanion a chyfrifoldebau’r sianel fod? Rhaid cofio mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd tu ôl i’r fenter – eu gweledigaeth nhw i’w sefydlu, eu buddsoddiad nhw, eu harf nhw. Gan fod cyllid y Gymdeithas yn brin, a ddylem canolbwyntio holl adnoddau’r sianel ar hwyluso, cefnogi, hybu eu gwleidyddiaeth nhw? Sefydliad gwleidyddol yw’r Gymdeithas ar ddiwedd y dydd ac, os yw adnoddau’n brin, gallwn ni fforddio eu ‘gwastraffu’ ar ‘adloniant’ fel ffilm Blaidd a Meic Stevens?

Cyfweliad Ffwff efo Bethan Marlow, ysgrifennwr drama

Dyma cyfweliad efo Bethan Marlow o haf 2012, enghraifft o erthygl o’r ffansin FFWFF. Paypaliwch gyfraniad (o unrhyw swm) at argraffu a postio i daldydin@hotmail.co.uk am eich copi chi.

Be arweinodd ata ti ysgrifennu’r ddrama Sgint?

Na’th Sherman Cymru ofyn i fi fynd i ymchwilio’r syniad i sgwennu drama gair am air a mi gesh i ddau air – ‘pres’ a ‘Caernarfon’. Do’n i’m wrth fy modd hefo’r pwnc ar y dechra’ a bod yn onasd achos mi o’n i ofn o. Do’dd gin i’m llawar o syniad am sefyllfa economaidd y byd felly nesh i gychwyn darllan a holi a chwestiynnu ac o’n i wastad yn dod nol i’r un cwestiwn – be’ ‘di stori’r unigolion sydd tu ôl i bob stategaeth? Yn hytrach na meddwl am rhywun fel ‘gwleidydd’, pwy ydi’r cradur sy’n deffro bob bora i neud y swydd yna? Ma’ hi’n hawdd iawn meddwl am y miloedd o bobol sydd ar fudd-daliadau fel un grŵp enfawr ond ma’ bob un o’r bobol yna hefo stori, taith a gorffennol.

Pam ysgrifennu am Gaernarfon a nid unrhyw dre arall?

Sawl rheswm deud gwir. Mae o’n ardal lle ma’r mwyafrif yn siarad Cymraeg felly mae hi’n hawdd iawn cael hyd i bobol o bob rhan o gymdeithas yno sy’n siarad Cymraeg. Am fod Sgint yn ddrama air am air do’n i ddim ishio gorfod cyfieithu dim un cyfweliad achos yn fy marn i tydio ddim wedyn air am air. Rheswm arall ydi mod i’n dod o Bethel felly Caernarfon ydi’r dre agosa’ i fi ac o’n i’n arfar chwara’ rygbi i dim merched Caernarfon ac yn arfer gweithio yn Paradox felly dwi’n nabod eitha’ dipyn o bobol o Dre felly o’dd o’n fan cychwyn gret.

Mae’r ddrama Sgint wedi ei seilio ar gyfweliadau. Sut broses cynnal y cyfweliadau yma? Mae pobol yn dweud pethau personnol iawn, sut nes di ennyn eu ymddiriaeth?

O’n i’n lwcus uffernol! Mi fedrai ddeud yn hawdd iawn na faswn i wedi medru sgwennu Sgint gystal â ma’r bobol nesh i gyfweld wedi’i deud hi. Roedd y cyfweliadau yn rhan fendigedig o’r broses – recordio ar fy ffôn mewn lolfa, gegin, carafan, caffi ayb. Y broses anodd a phoenus oedd teipio fo i gyd mewn air am air, peswch am beswch, coma am goma! Sgin i’m syniad sud nesh i ennyn ymddiriaeth ynddyn nhw, dim ond mod i wedi trio fy ngora i ga’l sgwrs hefo nhw yn hytrach na chyfweliad.

Sut arweinodd Sgint at y ddrama gymunedol C’laen Ta! a be oedd y gwahaniaethau rhyngddynt i ti’n bersonol?

Mi arwiniodd Sgint at Sgin Ti Syniad, prosiect cymunedol hefo pobol ifanc yn ymchwilio eu perthynas nhw hefo pres mewn ffyrdd creadigol (ffilm fer, strwythyrau 3d, siop wag). A wedyn, ar ôl siarad hefo Arwel [Theatr Genedlaethol], roedd y ddau ohona ni’n awyddus i Theatr Gen barhau y berthynas hefo’r gymuned (Peblig yn enwedig) a rhoi cyfle i bawb ar y stad fod yn rhan o rhywbeth creadigol. Y gwhaniaeth mwya’ wrth wrs ydi nad oedd C’laen Ta! yn ddrama air am air ond yn ddrama nesh i sgwennu ar ôl i bobol y stad rannu eu storia’ a hanes y stad hefo fi. Hefyd, roedd trigolion Peblig yn ran anatod o C’laen Ta! – roeddwn nhw wedi gneud y props, yn actio, dawnsio ar y walia’, yn canu ac yn stiwardio.

Mae Sgint yn gwenud i pobol gwestiynnu rhagfarnau mae’r cyfryngau yn ein bwydo, yn enwedig ynglŷn â ‘benefit scroungers’ merched yn beichiogi er mwyn cael tŷ ayyb. Er bod y ddrama yma yn peri person i ofyn llawer o gwestiynau, a wnaeth gweithio ar Sgint a C’laen Ta! rhoi unrhyw atebion cadarnhaol i ti yn bersonnol ynglŷn â sut allen ni frwydro yn erbyn anghyfiawnderau cymdeithasol?

Mae o’n anodd. Dyna dwi ‘di ddysgu. Mae o’n anodd bod yn fam ifanc, mae o’n anodd ffeindio ‘mynadd’ y fynd i coleg os nad wyt ti wedi cael unrhyw gefnogaeth drwy dy flynyddoedd ysgol, mae o’n anodd bod yn athrawes sydd yn cefnogi os nad ydi’r rhieni yn gneud run fath, mae o’n anodd bod yn riant ‘da’ os ges di fagwraeth anodd, ame o’n anodd bod yn riant ‘da’ beth bynnag! Mae o hefyd yn anodd bod ar y top a gorfod gneud penderfyniada’ os wyt ti mor brysur mewn cyfarfodydd nad wyt ti’n cofio’r tro ola’ i chdi fod ar y stryd yn siarad hefo’r bobol wyt ti’n eu cynrychioli, a pan wyt ti’n cael yr amser, mae o’n anodd os ydi’r unigolion yn gwrthod siarad hefo chdi achos eu bod nhw’n teimlo fod yna ormod o gap rhwng eu bywyda’ nhw a bywyd y gwleidydd. Fel ddudish i ynghynt, tu ôl i bob stategaeth mae yna unigolyn a mae gan yr unigolyn yna stori, cefndir a hanes – dyna sy’n gneud unrhyw broblem cymdeithasol yn anodd – does yna ddim ateb mathemategol gywir. Un ateb cadarnhaol sydd gen i – mae angen i bobol siarad ac yn bwysicach fyth, mae angen i bawb wrando.

Ydi Sgint yn ddrama wleidyddol? (Os yr ateb yw ia neu na, pam?)

Dwi’n ca’l y cwestiwn yma o hyd! Nesh i ddim mynd ati i sgwennu drama wleidyddol ond am ei bod hi’n trafod pres a phobol yna ma’ siwr bod hi’n gorfod bod yndi? Dwn i’m.

Be fasa chdi’n ddweud sydd yn gorthrymu’r cymeriadau yn Sgint?

Sawl peth gwahanol i bob unigolyn gwahanol fel teulu, gwaith a chariad ond yr un mwya’ cyffredin ydi pwysa’ ariannol.

I unrhywun sydd eisiau ysgrifennu dramau, pa gyngor buaset ti’n ei roi? (e.e. Be sydd yn dy helpu di i ysgrifennu?)

Sgwenna! Jysd sgwenna a sgwenna a sgwenna! Ffeindia allan be w’t ti ishio ddeud, pam w’t ti ishio’i ddeud o sud wyt ti ishio’i deud o a wedyn dal dy afa’l arno fo. Paid â newid dy lais er mwyn plesio dy nain neu er mwyn ennill cystadleuaeth neu am dy fod di’n meddwl mai dyna ma’r gynulleidfa ishio glwad – na! Bollocks i hynna! A wedyn, ar ôl darganfod dy lais, ma’r gwaith calad yn cychwyn achos wedyn ti angan dysgu sut ma’ stori yn gweithio- hwn ydi’r rhan anodd ond dal ati i sgwennu sgwennu sgwennu!

Pwy yw dy hoff awduron/artistiaid/cerddorion?

Awduron: Sarah Kane, Harold Pinter, Willy Russell, Aled Jones Williams

Artistiaid: Dali, Diane Arbus

Cerddorion: Dwi’n caru Glee! a Jessie J a Bruno Mars ar hyn o bryd (dwi’n eitha’ cheesy hefo fy ngherddoriaeth!).

Beth sydd nesa i chdi o ran dy stwff creadigol?

Dwi’n gweithio ar gyfres ar-lein newydd sbon ar hyn o bryd a mi fyddai hefyd yn y Maes Gwyrdd ar y Sdeddfod hefo ‘photo booth’ yn gofyn i bobol orffen y frawddeg “hoffwn i weld…” felly dowch draw i gymry’d rhan!

FFWFF! Ffansin newydd

FFWFF!

Yr wythnos hon caiff ffansin newydd anarcha-ffeminyddol ei gyhoeddi, FFWFF! Mae’r ffansin yma am ddim neu am ‘donation’ os yr hoffech gyfrannu at ei barhad.

Yn y rhifyn cyntaf fydd…

Cyfweliad gyda’r anhygoel Patricia Morgan, Datblygu.

Cerdd gan Rhys Trimble, bardd radicalaidd o Fethesda.

Llwyth o gelf, erthygl neu ddau a llawer iawn mwy gan gynnwys cyfweliad gyda’r ddramodwraig Bethan Marlow a ysgrifennodd Sgint a C’laen Ta.

Fe fydd FFWFF! Ar gael ar Faes Gwyrdd yr Eisteddfod dydd Sadwrn, o Lyfrgelloedd, Caffis, Siopau Cebab a Chipis yn ardal Gwynedd (yn rhad ac am ddim i chi gymryd!) ac fe allai bostio copi atoch. Fyddai yn eu dosbarthu yn ystod Pesda Roc hefyd masiwr.

E-bostiwch daldydin@hotmail.co.uk am gopi neu i gyfrannu at rifyn 2!

Oherwydd cost cynhyrchu, nifer cyfyngedig sydd yn cael eu hargraffu ar hyn y bryd, felly grabiwch un cyn iddyn nhw fynd!

Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant

Un o fy hoff categoriau ar Y Twll ydy cyfryngau sydd yn cynnwys podlediadau, blogiau, teledu annibynnol, ffansins a chyfryngau annibynnol o bob math. Fel arfer os ydy rhywun wedi creu ‘brand’ cyfryngau annibynnol yn Gymraeg mae’n tueddu i fod yn dda iawn. Mae sawl enghraifft.

Dyma un syniad da gan Nwdls a Gai Toms: Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant, blog sydd newydd ddechrau dogfennu profiadau o’r gig penwythnos diwethaf – sydd ymhlith y gigs mwyaf cofiadwy (ac efallai dylanwadol) erioed yng Nghymru ers parti coroni Hywel Dda yn y degfed ganrif.

Mae Nwdls wedi dechrau gydag atgofion a meddyliau personol am egni diwylliannol a grym cerddoriaeth:

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth. […]

Mae unrhyw yn gallu cyfrannu felly paid ag aros yn rhy hir nes bod ti’n anghofio manylion pwysig am y penwythnos.