Fideo hunllefus Casey + Ewan i “Head and Shoulders” gan Leftfield & Sleaford Mods

Dw i wedi sôn am fideos Casey Raymond ac Ewan Jones Morris sawl gwaith o’r blaen.

Dyma hunllef o flaen eich llygaid, eu fideo i’r gân Head and Shoulders gan Leftfield/Sleaford Mods.

Mae’r cyfuniad rhwng y delweddau a’r geiriau yn berffaith.

‘Dyn ni’n gweld rhyw fath o Pac-Man erchyll yn bwyta pob darn o jync ar hyd ei daith mewn dinas o salwch, bwyd crap, dyled ddrud, gwleidyddion twyllodrus a Bargain Booze.

Gallen ni wedi bod ar unrhyw stryd yng Nghaerdydd fel Heol y Porth neu Heol y Bontfaen efallai neu unrhyw le yn Llundain. Wedyn mae’r olygfa yn chwyddo mas i’r byd i gyd.

Gŵyl CAM: Datblygu, Ela Orleans, Ann Matthews, Agata Pyzik…

gwyl-cam-2015

Digwyddiad newydd sbon o drafodaethau, ffilm a gigs fydd Gŵyl CAM ac mae’r cyfan yn digwydd yng Nganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 25ain o Ebrill 2015 o 12 hanner dydd ymlaen.

Mae CAM yn gyrchfan aml-gyfrwng sy’n cael ei churadu a’i ddatblygu gan Peski. Mae’n cynnig platfform i gerddoriaeth arbrofol a ffilmiau anturus o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i artistiaid o amgylch y byd sydd o’r un brethyn creadigol. Mae CAM yn gweithredu fel rhaglen radio wythnosol, yn guraduron ffilmiau a rhaglenni dogfen blaengar, yn gylchgrawn digidol ac yn gyfres o ddigwyddiadau byw – yn hafan i feddwl amgen.

Mae dim ond 300 o docynnau ac yn ôl y sôn maen nhw yn gwerthu yn dda. Bydd nifer cyfyngedig ar gael wrth y drws. Fel arall mae modd mynychu rhai o’r pethau am ddim heb docyn.

Ond bydd rhaid i chi brynu tocyn i fynychu’r gigs. Mae’n synnu fi nad oedd unrhyw straeon o gwbl yn y cyfryngau prif ffrwd, hyd y gwn i, am ddychweliad Datblygu i’r llwyfan. Dw i’n cyffroi ac hefyd yn teimlo bach yn nerfus am y peth.

Trefnwyr Gŵyl CAM yw’r pobl ysbrydoledig tu ôl i’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch; Gwenno Saunders, Rhys “Jakokoyak” Edwards a Garmon Gruffydd. Mae Rhys a Garmon yn rhyddhau cerddoriaeth o’r radd flaenaf trwy Recordiau Peski ers rhywbeth fel 12 mlynedd hefyd. Diolch o galon iddynt hwy!

Bitter Lake gan Adam Curtis: steil yn cuddio tyllau mawr

adam-curtis-bitter-lake-aderyn

Dwi wedi bod yn ddilynwr o raglenni dogfen Adam Curtis ers i mi ddod ar draws The Mayfair Set rhai blynyddoedd yn ôl. Fe ddangosodd bod gwleidyddiaeth Thatcher wedi selio gyda’r genhedlaeth y chwedegau. Hoffai sut mae’n gosod pethau ar y cychwyn ‘This is a story…’ a defnydd helaeth o luniau, ffilm a cherddoriaeth i roi awyrgylch a naws unigol iawn.

Fe gafodd llwyddiant arall gyda The Century of Self ond mae ei ymgeision yn ddiweddar wedi gadael fi ar goll. Roedd y rhaglen All Watched over by Machines of Loving Grace wedi gwneud i mi grafu fy mhen…

Ond mae Curtis yn ôl nawr gyda ffilm newydd sydd wedi cael ei rhyddhau ar BBC iPlayer. Yn ei ffilm Bitter Lake, esbonnir fod gwleidyddion ac elitwyr wedi troi pynciau pwysig a wynebir yn y byd mewn storiâu syml rhwng da a drwg. Ond ar y diwedd, doeddwn ddim yn gallu helpu mai’r person sydd yn ceisio symleiddio pynciau yw Adam Curtis ei hun.

adam-curtis-bitter-lake

Yn y ffilm, mae’n esbonio mai Saudi Arabia sydd yn gyfrifol am beth ddigwyddodd allan yn Affganistan, gan eu bod wedi noddi dilynwyr Wahabism i droi’r wlad mewn i gymdeithas sydd â sail moslem ceidwadol. Cyn hynny, fe aeth yr Undeb Sofietaidd i mewn i geisio creu cymdeithas gomiwnyddol yn y wlad. Ar ôl ymosodiadau terfysgol yn 2001, fe aeth y Gorllewin i wyrdroi’r wlad i ddemocratiaeth fodern. Esboniai Curtis yn y diwedd fod y tair gwlad wedi cael ei hun yn y gors wrth ddelio gydag ymladd rhwng twmpathau a llwgrwobrwyaeth remp. Ond nid yw Curtis yn siarad am Bacistan wrth sgwrsio am yr annibendod Affganaidd. Nid yw’n sôn am y cyswllt dyfn a hirdymor rhwng Pacistan a’r wlad oherwydd y bobl Pashtun.

Wrth gwrs nid rydych yn sylweddoli’r tyllau mawr yn ei ddadl neu ddiffyg cyd-destun, gan fod ei ddefnydd o gerddoriaeth, lluniau yn swyno chi. Mae ei defnydd o hen raglenni a lluniau yn hynod o effeithiol, tydwym yn gwadu hynny. Ond yn Bitter Lake, sylweddolais ei fod yn gorddibynnu ar y steil. Er enghraifft, fe rodd ddadl ein bod ni o dan reolaeth y bancwyr a gwleidyddion ac yn sydyn fe ddaeth lluniau dynes dew yn dawnsio mewn clwb nos. Ar foment arall fe ddangosai milwr yn chwarae gydag aderyn mewn cae yng nghanol Affganistan. Sgennaim syniad pam.

Dwi yn hoff iawn o edrych ar raglenni Adam Curtis. Fe grëir gwaith unigryw ond dwi yn ffeindio fy hun yn meddwl bod ei ddadl weithiau yn rwtsh llwyr. Mwynhewch y stori, ond peidiwch chymered o ddifrif.

Iesu Grist mewn ffilm: Scorsese, Pasolini a Python

The Last Temptation of Christ

Efallai taw un o’r cymeriadau mwyaf anodd i’w bortreadu mewn ffilm o safbwynt actor, cyfarwyddwr neu sgriptiwr ydy Iesu Grist. Pwy a wyr achos dw i erioed wedi creu ffilm nodwedd ond dw i wedi gwylio rhai.

Dyma dair o’r ffilmiau mwyaf cofiadwy i mi sy’n cynnwys Mab y Dyn. Rhestr derfnyol dyw hi ddim o bell ffordd, dim ond tair ffilm sydd wedi creu argraff arnaf i.

The Last Temptation of Christ (1988)

Un thema cryf mewn gwaith Martin Scorsese ydy’r cwymp o fawredd a cholled o’r hyn sy’n dod gyda llwyddiant – cyfoeth, enwogrwydd, statws, clod ac ati. Dw i’n meddwl am Henry Hill ar ddiwedd Goodfellas, cymeriad DiCaprio ar ddiwedd The Wolf of Wall Street, De Niro fel Jake LaMotta yn ei wregys yn Raging Bull, salwch Howard Hughes (DiCaprio eto) yn The Aviator ac yn y blaen.

Mae hefyd elfennau ysbrydol i lawer o ffilmiau Scorsese a chyfeiriadau cryf at demptasiwn, moesoldeb a phechod ar hyd ei yrfa ond does dim un sydd mor amlwg gyda’r themau hynny â The Last Temptation of Christ. Fyddwn i byth wedi dyfalu taw fe oedd creuwr y ffilm hon a dweud y gwir. Dwyt ti ddim hyd yn oed yn cael gweld Joe Pesci yn ymddwyn yn gas at bobl eraill.

Di-angen ydy’r ymwrthodiad sy’n ymddangos ar ddechrau’r ffilm i esbonio dyw hi ddim yn seiliedig yn uniongyrchol ar yr efengylau. Cwestiwn celfyddydol dychmygol am y Duwdod ydy’r ffilm. Mae hi’n ymwneud â dynoliaeth Iesu Grist a beth fyddai’n digwydd pe tasai fe’n ildio i demptasiwn, gwadu ei brif genhadaeth ar y groes a byw bywyd fel dyn arferol.

Mae pob perfformiad yn gryf yn enwedig Willem Dafoe yn y prif rhan.

Yn ôl beth dw i wedi clywed mae’r ffilm yn addasiad weddol agos o’r nofel 1953 gan Nikos Kazantzakis. Yn fy marn i mae’r ffilm yn gampwaith ac yn unigryw ar rhestr ffilmiau’r cyfarwyddwr.

Ystyriodd Martin Scorsese yn ifanc gyrfa fel offeiriad ond roedd rhaid iddo fe adael y coleg offeiriadol yn Efrog Newydd am fethu ei arholiadau – yn ôl ei eiriau fe yn y cyfweliad hwn.

Mae’r sgriptiwr Paul Schrader yn ffafrio iaith lafar gyfredol sy’n helpu cynnig rhywbeth ffres i bobl sydd yn hen gyfarwydd gyda’r dyfyniadau Saesneg safonol o’r Beibl. Mae’r sgyrsiau rhwng yr Iesu a phobl eraill fel Paul, a Pilate (David Bowie!) yn gofiadwy iawn oherwydd hynny.

Il Vangelo secondo Matteo / Yr Efengyl yn ôl Mathew (1964)

Mae aesthetig y ffilm hon gan Pier Paolo Pasolini jyst yn gweithio yn well na llawer iawn o ffilmiau drud Hollywood-aidd sy’n trio cyfleu’r Iesu (fel yr un Mel Gibson). Dyw hi ddim yn ffilm amrwd fel y cyfryw ond mae hi’n edrych yn fwy credadwy fel darlun o’r cyfnod, diolch i’r dillad, lleoliadau a’r gwaith camera. Does dim llawer o effeithiau arbennig, dim ond golygu.

Tystiolaeth i dalent Pasolini fel cyfarwyddwr yw’r ffaith bod y perfformiadau gan bobl normal yn hytrach nag actorion proffesiynol, e.e. gofynodd Pasolini i’w mam Susanna Pasolini wneud rhan Mair yn hen.

Doedd Pasolini ddim yn credu mewn bodolaeth Duw nag unrhyw dduwiau. Mae’n ymddangos bod e wedi dewis y stori yma yn arbennig, o’i wirfodd, ac mae fe’n dilyn yr efengl Mathew o’r geni i’r atgyfodiad gan gynnwys y ddeialog, gwyrthiau ac ati.

Mae rhai o’r stwff dw i wedi darllen yn dweud bod yr Iesu yma yn ‘broto-Marcsaidd’ ond dw i ddim yn gweld unrhyw bwyslais arbennig ar Gomiwnyddiaeth heblaw am y pethau rydym yn gallu dehongli fel ‘Sosialaidd’ neu chwyldroadol yn y llyfr Mathew gwreiddiol (Iesu yn gofyn i’r dyn cyfoethog ifanc roi eiddo i’r tlawd, Iesu yn stopio’r newid arian y deml ac ati). Wrth wylio’r ffilm, o’n i ddim yn meddwl am fateroliaeth ddilechdidol yn enwedig, yn fwy nag arfer, mae’n rhaid cyfaddef. Byddwn i’n croesawu’ch sylwadau chi.

Mae’r gyllideb isel yn helpu’r gerddoriaeth hefyd. Mae trac sain gwreiddiol ar adegau ond yn bennaf dewisodd Pasolini lwythi o diwns o gwmpas y byd fel Odetta, Blind Willie Johnson ac offeren oddi ar y record Missa Luba o’r Congo.

Monty Python’s The Life of Brian (1979)

Ffaith: mae Sue Jones-Davies sy’n chwarae Judith Iscariot yn y ffilm Monty Python’s The Life of Brian bellach yn gynghorydd tref Plaid Cymru yn Aberystwyth.

Mae’r comedi yn wneud hwyl ar ben lot o bethau, megis: ffilmiau epig, crefydd, pobl crefyddol, gwleidyddiaeth chwyldroadol a mwy.

Yn ôl cyfweliadau gyda chriw Python doedd dim ym mywyd yr Iesu i’w ddychanu yn y pen draw. Fel canlyniad, roedd rhaid newid y cysyniad cynnar a’r teitl dros dro Jesus Christ: Lust For Glory i rywbeth fwy cymryd-y-pis-adwy.

Mae’r cymeriad Iesu Grist dim ond yn ymddangos yn y stabl drws nesaf am eiliad ar y dechrau ac am gwpl o funudau am y Bregeth ar y Mynydd.

Mae gweddill y ffilm yn dilyn hanes Brian Cohen, dyn sy’n cael ei dderbyn yn ddamweiniol fel y Meseia gyda chanlyniadau hilariws. Wel mae rhai ohonynt yn ddoniol. Dw i wedi rhoi sawl tro ar gyfresi a ffilmiau Python a dydy’r hiwmor ysgol fonedd ailadroddus ddim cweit at fy nant personol ond mae’n rhaid cydnabod bod nhw yn ddylanwadol iawn a phoblogaidd ymhlith eraill. Does dim pwynt cael dadl drosto fe!

Tair ffilm am y Rhyfel Byd Cyntaf go iawn

Mae unrhyw bortread o’r Rhyfel Byd Cyntaf heb y ffolineb, trais ac erchylldra yn gelwydd.

Dyma dair ffilm sy’n agosach i realiti y Rhyfel Byd Cyntaf nag unrhyw ‘ddathliad’ swyddogol gan wleidyddion heb sôn am unrhyw hysbyseb.

Nid detholiad terfynol yw hwn, dim ond rhestr fach o ffilmiau dw i eisiau eu hargymell er mwyn cynnig safbwyntiau eraill i’r rhai yn y cyfryngau prif ffrwd.

Paths of Glory (1957)

Mae bron pob un gwaith gan Stanley Kubrick yn gampwaith gan gynnwys hon, ei bedwerydd ffilm nodwedd sy’n seiliedig ar nofel o’r un enw gan Humphrey Cobb. Mae’r stori yn ymwneud ag adran o fyddin Ffrainc sy’n derbyn gorchymyn amhosib ac a fyddai’n gyfystyr â hunanladdiad oherwydd uchelgais y cadfridog. Rydych chi’n gwybod bod e’n ddrwg i’r carn achos mae craith fawr ar ei wyneb ond heblaw am y consensiwn hynny i semiotig Hollywoodaidd, mae’r ffilm hon yn soffistigedig iawn. Kirk Douglas yw’r corporal egwyddorol sy’n ceisio gwneud y gorau o’i gefndir fel cyfreithiwr i amddiffyn tri miliwr ar honiadau o lwfrdra.

Roedd athrylith Kubrick fel cyfarwyddwr yn dechrau dod i’r amlwg yn y cyfnod hwnnw yn ogystal â’i berffeithiaeth. Llwyddodd i gael perfformiadau cadarn mas o’r actorion ac mae’r siots tracio yn y ffosydd yn ardderchog.

Yn anffodus heblaw am ecstras mae dim ond un cymeriad benywaidd yn Paths of Glory (sydd ychydig yn well na’r diffyg menywod llwyr yn Lawrence of Arabia). Ta waeth, mae ei golygfa hi yn gofiadwy a phwerus iawn.

Un peth sydd ar goll yn yr erthyglau dw i wedi darllen am y ffilm ydy’r hiwmor tywyll yn y deialog, megis:

‘These executions will be a perfect tonic for the entire division. There are few things more fundamentally encouraging and stimulating than seeing someone else die.’

Dyma elfen a ddatblygwyd gan Kubrick saith mlynedd yn ddiweddarach yn ei ffilm Dr Strangelove yn nghyd-destun rhyfel niwclear.

Joyeux Noël (2005)

Ffilm dairieithog – Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg – am ddathliadau Nadolig ar dir neb yn 1914 yw hon.

Mae’n rhaid bod crewyr yr hysbyseb Sainsbury’s di-chwaeth yn ymwybodol iawn ohoni hi wrth edrych ar yr arddull ond peidiwch ag osgoi’r ffilm oherwydd hynny.

Mae ‘na dueddiad tuag at y sentimental efallai ond mae’r ffilm gan y Ffrancwr Christian Carion yn llwyddo i gyfleu pa mor resymol oedd Nadolig 1914, un diwrnod o ddynolrwydd mewn hunllef gwaedlyd.

Hedd Wyn (1992)

Yn gyntaf, mae’r prif gymeriad yn cael ei fwrw gan siel farwol yn yr eiliad agoriadol o’r ffilm hon. Dyna sy’n dod â’i yrfa fel y ‘Jerry Hunter’ gwreiddiol i ben.

Dydy’r gair ‘sboilyr’ ddim yn berthnasol achos nid dyma yw’r math o ffilm sy’n dibynnu ar blot fel y cyfryw o gwbl. Nid goroesiad Hedd Wyn yw’r cwestiwn na phwy yn union fydd enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917. Mae’r canlyniadau yn anochel.

Yn hytrach mae’r ffilm am fanylion penodol y sefyllfaoedd a’r cymeriadau ac wrth gwrs creulondeb a thwpdra y Rhyfel. Ond rhywsut rydym yn pryderu am y gystadleuaeth farddonol. Er ein bod ni’n cymryd yr hanes y ganiataol, rydym wedi buddsoddi gymaint yn y cymeriad i gael boddhad pan mae’r swyddog yn datgelu wrth ein harwr y bydd y cais yn gadael Fflandrys heb gael ei sensro wedi’r cyfan.

Ellis Humphrey Evans sy’n cael y clod mewn ffilm er ysgrifennodd yr awdl fuddugoliaethus Yr Arwr cyn iddo fe gael unrhyw brofiad o ymladd. Ysgrifennodd R. Williams Parry, Cynan, Saunders Lewis ac eraill am y Rhyfel Byd Cyntaf o brofiad uniongyrchol yn y fyddin. Pam nad oes portreadau ohonynt mewn ffilmiau eponymaidd?

Un rheswm posibl ydy’r diffyg isadeiledd a chyllideb i greu cymaint o ffilmiau Cymraeg, mater am gofnod blog arall. Mewn gwirionedd mae cymeriad R. Williams Parry yn ymddangos yn y ffilm hon hefyd, yn ystod yr eisteddfod leol – ond sôn ydw i am y prif reswm am ‘fuddugoliaeth’ Hedd Wyn dros y beirdd eraill: i’r Cymry, mae marw yn gynnar yn warant o ragolygon da am eich gyrfa. Rydym jyst yn caru ein merthyron.

Pa brif gymeriad sy’n fwy addas i gyfleu arswyd rhyfel na’r bardd, croniclwr ein bywyd, pencampwr o’r nodwedd sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel cenedl, ein hiaith ni? Mae Hedd Wyn ei hun yn fodel o wareiddiad uwch a’r gorau sy’n bosib o ran bywyd creadigol – a’r gwastraff ac anghyfiawnder mewn rhyfel di-bwynt. Gwnaeth y rhyfel hon ddrwg anhygoel i gymunedau Cymraeg, ffaith torcalonnus sy’n amlwg wrth ddarllen yr enwau ar gofcolofnau mewn sawl pentref yng Nghymru.

Mae cymaint o bethau gwych yn y ffilm yma ac mae’n haeddu’r enwebiad Oscar (am ‘Best Foreign Language Film’). Mae’r sgript gan y cyfarwyddwr Paul Turner a’i gyd-ysgrifennwr Alan Llwyd yn gredadwy iawn ac mae’r sinematograffeg gan Ray Orton o’r radd flaenaf yn enwedig golygfeydd y frwydr ei hun. Mae’n rhaid canmol perfformiadau’r actorion i gyd (gan gynnwys Ceri Cunnington fel brawd ifanc Hedd Wyn). Mae’r olygfa dril yn dipyn o draddodiad mewn ffilmiau rhyfel ac mae’r Saeson cas sy’n rheoli’r fyddin yn gofiadwy iawn. Dw i hefyd yn hoff iawn o elfennau bach fel y daith i’r sinema ‘moving pictures’ cynnar.

Dydy’r Ysgwrn, hen dŷ Hedd Wyn, ddim yn bell o’r A470 os ydych chi’n pasio ardal Trawsfynydd ac eisiau cael cipolwg. O ie, dyna beth ddylwn i fod wedi ei ddweud – mae’r stori i gyd yn wir! Fe oedd ‘na Hedd Wyn go iawn ac yn ystod haf hynod anffodus aeth e i’r maes anghywir. Wel, dyna lle mae’r cwestiynau yn dechrau. Yn ôl rhai doedd e ddim yn gymaint o ferchetwr ag y mae’r ffilm yn honni. Ai dyna oedd angen er mwyn hyrwyddo fe fel chwedl? Dw i ddim yn siŵr am gymeriad yr awen chwaith. Ond gwyliwch y ffilm.