FIDEOS! Gulp/Ewan Jones Morris, Gwenno/Ian Watson&Hywel Evans, Canolfan Hamdden/Javier Morales

Dyma’r fideo anhygoel newydd gan Ewan Jones Morris ar gyfer Vast Space, y gân gan Gulp (Guto Pryce a Lindsey Leven). Rydym wedi rhannu sawl fideo gan Ewan ar Y Twll o’r blaen ac mae rhan fwyaf wedi cael eu creu ar y cyd gyda Casey Raymond megis fideos i DJ Shadow, Human League, Cate Le Bon a John Grant. Mae Ewan yn dod o Raeadr Gwy yn wreiddiol.

Mae Gwenno wedi cyfrannu at sawl prosiect cerddorol dros y blynyddoedd mewn sawl iaith ond yn creu’i gwaith gorau erioed ar hyn o bryd. Byddai unrhyw un sydd wedi gweld hi yn fyw yn ddiweddar yn gyfarwydd gyda’r gân hon, Chwyldro. Roedd yr artistiaid Ian Watson a Hywel ap Leonid Evans wrth y llyw cynhyrchu ar y fideo.

Dyma diwn gan Canolfan Hamdden o’r albwm Allemma Rag (sy’n cyfieithu o’r Gernyweg i rywbeth fel ‘O Hyn Ymlaen’). Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys Gwenno Saunders, Haydon Y Pencadlys, Rhys Jakokoyak a Patricia Morgan. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys llais y bardd a’r ieithydd Cernyweg Tim Saunders. Mae Recordiadau Peski yn rhyddhau nifer cyfyngedig o gasetiau o’r albwm newydd a recordiwyd yn fyw yng nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd ar 14 Chwefror 2014 fel rhan o’r ŵyl From Now On. Dw i ddim yn gwybod pam mae fe dim ond ar gaset. Mae’r fideo swynol gan Javier Morales.

FIDEOS! Jamie Bevan a’r Gweddillion/Greg Bevan, Losin Pwdr/Siôn Mali, Yucatan/Eilir Pierce

Mae llwythi o miwsig fideos gwych ar hyn o bryd. Dyma dri newydd o 2014.

Mae’r gwaith cyntaf gan Greg Bevan (sy’n rhan o’r Twll ac wedi cyfrannu sawl cofnod am ffilm). Y gân yw Bron gan Jamie Bevan a’r Gweddillion o’r Bach yn Ryff EP. Fideo annibynnol oedd e gyda dosbarthiad tanddaearol trwy becyn diwylliant Fersiwn1 yn wreiddiol ond mae fe wedi cael ei ddarlledu ar Heno yr wythnos hon.

Mae’n siŵr bod unrhyw wyliwr S4C wedi gweld gwaith Siôn Mali fel golygydd teledu o’r blaen ond dyma’i début fel cyfarwyddwr, fideo trawiadol iawn a gomisiynwyd gan Ochr1 ar gyfer Losin Pwdr, arallenw Mini (gynt o Texas Radio Band). Yr actorion yw Lois Jones a Rhodri Trefor.

Yn olaf mae’r campwaith Eilir Pierce ar gyfer Cwm Llwm gan Yucatan a gomisiynwyd gan Ochr1 wedi bod o gwmpas ers mis Mai eleni ond rhag ofn eich bod chi wedi ei fethu, dyma fe (dolen allanol). Elin Siriol a Lisa Erin yw’r actorion.

yucatan-eilir-pierce-fideo

…O ddyfnderoedd uffern – Tribulation ’99 gan Craig Baldwin

Ffilm collage arbrofol gan Craig Baldwin yw Tribulation ’99 – Alien Anomalies Under America. Rhagosodiad y ffilm yw bod rhywogaeth estron wedi byw yng nghrombil y ddaear ers canrifoedd, a’u gweithgareddau rhyfedd nhw sydd yn arwain at y Rhyfel Oer. Mae Baldwin wedi dethol ei ddelweddau o adnodd enfawr o ddeunydd archifol, ffilmiau-B ffuglen wyddonol, diagramau a mapiau er mwyn cyflwyno cyfres o ddamcaniaethau cynllwynio. Mae’r delweddau a dilyniannau yn cael eu rhwygo o’u cyd-destunau gwreiddiol a’u gosod mewn fframwaith naratif newydd. Yn gynnar yn y ffilm, yr ydym yn gweld deunydd archifol o bont grog enfawr yn ysgwyd yn wyllt ac yna’n cwympo i’r afon islaw. Mae’n rhesymol i dybio efallai mai daeargryn, corwynt neu drychineb naturiol arall sydd yn gyfrifol am y delweddau trychinebus mewn gwirionedd; fodd bynnag, mae union achos y dymchwel, y ffeithiau cadarn, ar goll.

Mae’r dilyniant yn dechrau (03:35) gyda theitl mewn llythrennau fawr: ‘EARTH’S CREATURES FLEE IN TERROR’ wrth i weithgaredd yr estroniaid dan ddaear sbarduno cyfres o ffenomenau annaturiol, tra bod morgrug a gwenyn mileinig, corynod enfawr yn ymddangos: ‘DEMONS RELEASED FROM THE DEPTHS OF HELL’. Gwelwyd tân, mwg, waliau yn dadfeilio – arwydd bod yr estroniaid wedi dechrau ‘tyrchu i fyny drwy’r pridd gan achosi tirlithriadau a llyncu pentrefi cyfan…yn treiddio cyflenwadau dŵr a systemau charthffosiaeth [yr Unol Daleithiau]'(04:10). Gwelwyd nawr y bont yn siglo, yn ei gyd-destun newydd, ac felly mae’n ganlyniad uniongyrchol o ymddygiad yr estron maleisus. Mae’r dilyniant yn dod i ben gyda delwedd o greigiau yn ffrwydro: ‘THESE ARE THE END TIMES’ (04:52).

Wrth gwrs, mae’r naratif newydd yn rhyfeddol, anghredadwy, dychanol – ond mae’r fframio cyd-destunol yn ail-gymell y delwedd o’r bont yn dymchwel ac yn ailfywiogi’r deunydd gwreiddiol; ond wrth rhwygo delweddau o’r bont o’u cyd-destun gwreiddiol, nid ydynt yn gwbl rhydd o’r ystyr a grëwyd gan y digwyddiad ei hun, ac mae hyn yn fantais i Baldwin. Mae’r cwymp ei hun yn drawiadol. Mae’r màs concrid enfawr yn ysgwyd ac yn chwipio’n wyllt cyn i’r gwifrau dur tynhau a snapio wrth i’r bont syrthio. Mae Baldwin yn cadw pŵer gweledol dramatig y digwyddiad; er bod y cyd-destun naratif wedi newid, mae priodweddau ‘affeithiol’ cynhenid y delweddau yn parhau.

Un arbrawf enfawr…dad bedydd avant-garde America

Yn wreiddiol o Lithuania, ymfudodd Jonas Mekas i Efrog Newydd yn 1949 ac fe ddechreuodd gwneud ffilmiau arbrofol o fewn pythefnos o gyrraedd yno. Ers y 60au cynnar, mae e wedi canolbwyntio ar themâu personol o fewn cyd-destun athronyddol gan ddefnyddio dull dyddiadurol i ddogfennu ei bywyd. Yn gyntaf ar ffilm, wedyn ar fideo ac erbyn hyn gyda chamerâu digidol, mae Mekas yn gyfrifol am gannoedd o ffilmiau ac arbrofion.

Mae Walden: Diaries , Notes a Sketches (1969) yn gyfansoddiad o syniadau ac arsylwadau ar fywyd cyfoes ar strydoedd Efrog Newydd. Mae Mekas yn tueddu cyhoeddi a dosbarthu ei ffilmiau (neu gofnodion) fel eitemau annibynnol neu rannau o gasgliadau, ond nid yw gwerth na photensial y deunydd ar gau ar ôl hynny. Mae Mekas yn ail-ddefnyddio neu ailgylchu ei ffilmiau ei hunain er mwyn creu ffilmiau newydd.

https://www.youtube.com/watch?v=jdXae-JD2Ps

Yn rhedeg dros 5 awr, mae As I was Moving Ahead Occasionaly I Saw Brief Glimpses of Beauty (2000) yn gyfansoddiad newydd sydd yn ail-gymysgu ac ail-gyddestynnu ei ffilmiau o’r 30 mlynedd flaenorol.

Fel a awgrymir gan y teitl, mae’r ffilm ddiweddar Out-takes from the Life of a Happy Man (2012) yn gwneud rhyw beth tebyg wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Mae Mekas yn gweld ffilm fel ffordd o ailddefnyddio digwyddiadau yn y gorffennol a’u liwio gydag ystyron newydd yn y presennol. Ei bywyd yw’r arbrawf felly, a’r ffilmiau yw’r ddogfennaeth o sut mae person yn newid dros amser, sut mae ei bersbectifau a safbwyntiau yn newid gyda phrofiad, beth yw natur y cof ac hunaniaeth, beth ydy hi’n bosib dysgu am fywyd cyn y diwedd?

Mae sawl un o ffilmiau a phrosiectau Mekas ar gael ar ei wefan bersonol (www.jonasmekas.com)

Mae’r 365 Day Project yn enwedig yn werth treulio amser yn archwilio.

Ffilmiau Collage a’r Awdur

“Meaning does not reside, in a simplistic way, in the image; the capacity of the image to serve as historical evidence lies in the contextual framing of the image, what we have been told (or what we recognize) about the image” (Zryd, 2003).

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae datblygiadau diwydiannol a thechnolegol, yn ogystal â newidiadau yn y tirlun cymdeithasol a wleidyddol, wedi chwyddo ‘r nifer ac amrywiaeth o ddelweddau gweledol ffeithiol. Dros ddegawd yn ôl, ysgrifennodd John Corner am y cyfnod ôl-ddogfennol, h.y. fod datblygiadau yn ffurf ffilmiau dogfen, eu defnydd o dechnegau sydd yn perthyn (yn draddodiadol) i fformatiau a genrau eraill, yn golygu ei fod yn fwy anodd nag erioed i gategoreiddio ffilm dogfen, yn rhannol oherwydd nad yw ‘golwg’ estheteg ffilm ddogfen bellach yn gallu sicrhau’r gwirionedd. Maent wedi benthyg o’r opera sebon, y sioe gem, y sitcom a’r ddrama, gan arwain at groesrywedd o ffurfiau a fformatiau. Ond dyle ni ddeall diffiniad Corner fel newid diwylliannol yn hytrach nag un creadigol; cyfnod ôl-ddogfennol sydd wedi gweld newidiadau radical yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd cyfoes yn ymwneud, nid yn unig gyda ffilmiau a rhaglenni dogfen, ond gyda syniadau o ddilysrwydd a chynrychiolaeth yn gyffredinol.

Yn deillio o’r gair Ffrangeg am ‘gludo’, mae collage yn gasgliad o wahanol elfennau nad ydynt yn gysylltiedig, pob un â’i set ei hun o dynodyddion a chodau, ac wedi eu cydosod i greu cyfansoddiad amgen gydag ystyr newydd. Mae collage yn awgrymu deunyddiau sydd wedi cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau heb ystyriaeth o’r gwead materol – ffotograffau, toriadau o gylchgronau, llyfrau lliwio plant, tudalennau wedi eu rhwygo o gatalogau a thaflenni – mewn gwirionedd, mae gwahaniaethau’r gweadau ffisegol a materol yn rhan hanfodol o gyfoeth y testun a lluosogrwydd yr ystyron posib. Mae collage yn mynnu cael ei ddehongli. Mae collage, gan bwysleisio cysyniad a phroses dros y cynnyrch terfynol, yn gyfansoddiad hunanymwybodol cynhenid . Mae’r gwyliwr yn deillio gwybodaeth ac ystyr drwy ddehongli’r berthynas rhwng y cydrannau sydd yn aml yn anghydweddol ac yn ymddangos yn amherthnasol.

Wrth gynhyrchu cyfansoddiadau digidol megis ffilmiau ddogfen, gall y gwahaniaethau hyn o ran ansawdd gwead cael eu cymharu i raddau gwahanol o ffilm neu fideo o wahanol gamerâu, deunydd sydd wedi bod trwy wahanol brosesau o gywasgu, trosi, ailfeintio a hidlo, mewn rhai achosion yn fwriadol. Yn yr un modd, gall ansawdd y deunyddiau sain amrywio’n sylweddol, a gall olygu ychydig mwy na darnau gydag ymylon sydd wedi torri neu rwygo. Mae’n bosib cyfosod delweddau a sain yn fras neu’n drwsgl, ond hefyd yr esgeulustod amlwg yma sy’n awgrymu dynodyddion ychwanegol a chyfathrebiadau unigryw.

Sut gall iaith y ffilm ddogfen esblygu drwy neilltuo arferion ac egwyddorion collage? Yn benodol, sut gall y cysyniad a’r ymarfer o collage cynorthwyo’r gwneuthurwr ffilm sydd yn edrych i greu portreadau mynegiannol a farddonol o’r byd? Gall collage helpu i archwilio realiti mewnol, goddrychol neu haniaethol?