Adolygiad o Little Brother gan Cory Doctorow

Cory Doctorow - Little Brother“But you must remember, my fellow-citizens, that eternal vigilance by the people is the price of liberty, and that you must pay the price if you wish to secure the blessing.”

Dyma oedd geiriau Andrew Jackson, seithfed Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei anerchiad ffarwelio ym 1837.

Beth sy’n digwydd pan fo gwyliadwraeth yr awdurdodau yn tramgwyddo ar ryddid y bobl? A oes unrhyw derfyn i’r camau y dylai llywodraethau eu cymryd er mwyn diogelu eu pobl eu hunain? Dyma’r cwestiynau sy’n gefndir i’r nofel afaelgar hon gan Cory Doctorow sy’n dechrau gydag ymosodiad terfysgol ar San Fransisco rhywbryd yn y deng mlynedd nesaf ac ymateb Llywodraeth yr Unol Dalaethiau iddo.

Fe ddes i ar draws Cory Doctorow am y tro cyntaf ar bodlediad This Week in Tech yn rhoi sylwadau ar ddatblygiadau diweddaraf yn y byd technolegol. Yn ogystal ag ysgrifennu nofel, mae Doctorow yn gyd-olygydd y wefan dechnolegol Boing Boing ac yn cadw gwefan debyg ei hun o’r enw Craphound.

Mae diddordeb Doctorow mewn technoleg gyfrifiadurol i’w weld yn gryf ar y nofel Little Brother. Cyflwynir y stori o safbwynt y prif gymeriad Marcus Yallow, bachgen 17 oed sy’n ymddiddori mewn gemau cyfrifiadurol ac yn hacio yn ei amser hamdden. Heb ddatgelu gormod, mae Marcus yn cael profiad annymunol wedi iddo gael ei garcharu yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllun. Am weddill y nofel, mae’r darllenydd yn dyst i ymdrechion Marcus i danseilio’r awdurdodau llawdrwm yn San Fransisco ac i adfer ei hawliau o dan gyfansoddiad yr Unol Dalaethiau.

Mae’n stori uchelgeisiol a llwydda Doctorow i’w chyflwyno mewn dull gafaelgar. Gellir gweld rhywfaint o debygrwydd rhwng Little Brother a gwaith George Orwell Nineteen Eighty-Four. Ond nid yw Doctorow yn ymylu ar ysgrifennu campwaith fel ag y gwnaeth Orwell.

Mae gan Little Brother gwpl o wendidau amlwg. Dyma ddau ddaeth i’r meddwl yn syth.

Mae Doctorow yn symud yn rhy gyflym ar ddechrau’r nofel, heb roi digon o amser i ddod i adnabod y cymeriadau cyn y digwyddiad sy’n siapio gweddill y stori. Erbyn tua’r hanner ffordd, mae’r cysylltiad rhwng y darllenydd a Marcus yn teimlo’n llawer mwy cyflawn ac mae’r stori yn cryfhau yn yr ail hanner. Serch hynny, does dim byd yn annisgwyl am y diweddglo.

Nid yw’r agwedd dechnolegol o’r nofel yn mynd i apelio at bawb. Mae Doctorow yn mynd i drafferth ar adegau i geisio esbonio sut yn union y llwydda’r cymeriadau i gyrraedd eu hamcanion, ac fe allai fod yn ddigon i ambell ddarllenydd golli diddordeb yn y nofel.

Wedi dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, consyrn dros ymateb llywodraethau i’r bygythiad o ymosodiad terfysgol, ac yr ydych yn chwilio am nofel ddarllenadwy, rwy’n siwr y cewch chi flas ar hon.

Daw Slavoj Žižek i Gaerdydd

zizekAr Ddydd Mercher , Mawrth 3ydd 2010, caiff Brifysgol Caerdydd y fraint o groesawi Slavoj Žižek, un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd athroniaeth fodern i’r ddinas er mwyn trafod ei lyfr newydd First as Tragedy, Then as Farce. Mae Žižek, yn wreddiol o Slovenia, nid yn unig yn enwog am ei gyfraniad helaeth i’r byd academaidd sy’n cylchynu ‘psycho-analysis’, ffilm, gwleidyddiaeth a diwylliant, ond hefyd am ei bersonoliaeth egsentrig a’i allu i wneud theori cymhleth yn berthnasol i fywyd cyfoes. Gwelir dylanwadau cryf o Lacan, Hegel a Marx yn ei waith ac fe’i ddisgrifwyd gan The Times fel ‘the Elvis of cultural theory’.

Yn ei lyfr diweddara, trafodir yr argyfwng economaidd rhyngwladol o bersbectif Neo-Marcsaidd. Ar ôl i utopia’r gorllewin datblygiedig ffrwydro ymysg digwyddiadau 9/11, ac eto o ganlyniad i’r argyfwng economaidd rhyngwladol, credir Žižek bod angen i ddiwedd hanes, fel y disgrifiwyd gan Francis Fukuyama yn y nawdegau, digwydd dwywaith.

Cyn yr argyfwng, ein prif flaenoriaethau oedd datrys problemau megis cynhesu byd eang, AIDS a’r hawl i feddyginiaethau, bwyd a dŵr glan, ond serch hynny, fe gohurwyd unrhyw gamau penodol gan lywodraethau’r byd datblygedig. I’r gwrthwyneb, arllwyswyd cyfansymiau anghredadwy i fewn i’r sector ariannol er mwyn ceisio achub y sefyllfa heb unrhyw ystyriaeth am yr ‘hen’ flaenoriaethau a chysgodwyd o ganlyniad. Mae Žižek felly yn dadlau fod dirywiad ariannol ac economaidd y Gorllewin yn 2008, sydd wedi gadael miliynau o bobl yn ddiwaith, yn dystiolaeth bod y ffantasi o economi cyfanfyd a’i rhesymeg ansefydlog ar fin dod i ben.

Fe fydd y ddarlith yn cymryd lle ar Ddydd Mercher 3ydd o Fawrth 2010 yn Adeilad Julian Hodge, Prifysgol Caerdydd am 7 o’r gloch y.h.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: zizekconference@cardiff.ac.uk

Hywel Teifi Edwards – Cawr o Gymro

Hywel Teifi EdwardsTrist iawn oedd clywed am farwolaeth Hywel Teifi Edwards, cawr o Gymro a gyfrannodd ei oes tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg.

Roedd Hywel Teifi Edwards yn un o’r enghreifftiau prin hynny o feirniaid diwylliannol Cymraeg a oedd â holl gynhysgaeth hanes a diwylliant Cymru yn berwi trwy ei wythiennau. Deuai hynny’n glir i bawb a gafodd y fraint o wrando arno’n areithio mewn raliau wrth iddo gyfeirio at wahanol adegau mewn hanes a chyffelybu â’r sefyllfa bresennol. Nid rhywbeth sych oedd hanes iddo ond rhywbeth a allai roi goleuni i’n llywio yn ein presennol a thuag at y dyfodol.

Y rali Cymdeithas yr Iaith cyntaf i fi ei mynychu erioed oedd rali ynghylch dyfodol cymunedau Cymraeg tua 2002, a bu araith Hywel Teifi Edwards yn gymaint o ysbrydoliaeth fe ymunais â’r mudiad. Sôn yr oedd e’ bryd hynny y mae y Cymry fel cenedl yn tenacious ac fe ddefnyddiodd y gair Saesneg oherwydd fod y gair mor addas i’n disgrifio (yr unig le roeddwn i wedi clywed y gair o’r blaen oedd wrth wrando ar gerddoriaeth Tenacious D – cofiwch mai deunaw oeddwn i ar y pryd). Mae’r gafael hwn sydd gyda ni ar ein hanes a’n diwylliant, y cof cenedl tenacious hwn, yn bwysig iawn meddai Hywel Teifi Edwards.

Yn ei gyfrol olaf, The National Pageant of Wales, fe adroddodd hanes perfformio pasiant mawr yn dathlu hanes Cymru drwy’r oesoedd yng nghysgod Castell Caerdydd, gyda dros 5000 o bobl yn cymryd rhan o bob dosbarth o gymdeithas. Yn y dyfyniad hwn, dengys sut y gwelai perthnasedd y digwyddiad hwn gyda’r angen am addysgu pobl Cymru am hanes eu gwlad ynghyd â’r sefyllfa wleidyddol bresennol:

If only we had his like again in 2009 to script a National Pageant (or better still an epic film) to tell the Welsh, who are awaiting yet another referendum to test their readiness for “a proper parliament”, what he told them in the wake of the Cymru Fydd collapse in 1896. Quite simply, as Barack Obama put it on the night of his election victory, when he confronted the difficulties to be overcome, ‘Yes, we can.’

Meddylfryd neu seicoleg y Cymry oedd ei ddiddordeb mawr, ac er y dywedai fod hyn o ganlyniad i imperialaeth Lloegr yng Nghymru roedd hefyd yn awyddus i’r Cymry adfer yr hyder ynddynt eu hunain ac ymladd y seicoleg hwn. Ysgrifennodd yn helaeth am Frad y Llyfrau Gleision er enghraifft gan sôn sut y trodd y ‘sgarmesi’ ynghylch yr iaith ‘yn faes rhyfel cartref’ wrth i’r feddylfryd fod angen addysg drwy gyfrwng y Saesneg i lwyddo yn y byd ymledu tra gwthiwyd a cyfyngwyd y Gymraeg i’r aelwyd a’r capel. Y neges i wyrdroi ein hanes a’n seicoleg am yr iaith Gymraeg oedd ei gri yn ei araith mewn rali fis Mai 2009, a oedd yn galw am ddatganoli pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru: ‘Ni ein hunain sydd i iachau y wlad ma lle mae’r iaith yn y cwestiwn’ meddai, ‘drwy ein cynrychiolwyr yng Nghaerdydd.’ Cyfeiriodd at allu’r genedl i reoli ei hun yn wâr a theg drwy gyfraith Hywel Dda yn y gorffennol gan ddweud am y presennol: ‘ni’r Cymry biau’r busnes yma.’ Nid oedd pwyslais Hywel Teifi ar ymyrraeth Lloegr â Chymru, ond ar yr hyder sydd angen ei adfeddiannu i ryddhau o’r feddylfryd o israddoldeb ynghylch yr iaith Gymraeg.

Nid dyn dweud yn unig oed Hywel Teifi Edwrads, ond dyn gwneud. Rhai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwrando ar ei feirniadaeth befriog yn y Pafiliwn o gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ac fe ddywedodd fel hyn: ‘Pe bae pawb sy’n bresennol yn y pafiliwn yn prynu chwech neu saith llyfr Cymraeg y flwyddyn fe fyddai gennym ni chwyldro yn y wasg Gymraeg.’ Nes i feddwl – WOW – ma hynna’n wallgo! Ers hynny rwyf wedi gwneud yn siwr fy mod i’n prynu o leia’r nifer hynny o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn.

Ni all unrhyw Gymro gwneud llai nag edmygu ei ymroddiad a’i gyfraniad i Gymru. Dangosodd mai dim ond ni ein hunain all godi Cymru unwaith eto a bod angen torri’n rhydd o’r feddylfryd israddol am yr iaith Gymraeg. Hefyd, roedd ei wybodaeth a’i allu hudolaidd i draethu am ystod eang o bynciau hanesyddol a diwylliannol yn rhywbeth i ni fel cenhedlaeth ifanc ei edmygu, fel y gallwn edmygu llawer o haneswyr diwylliannol rydym ni’n prysur eu colli. Gan obeithio y bydd ein cenhedlaeth ni mor frwd â pobl fel Hywel Teifi Edwards i ddal cyfoeth y dychymyg Cymraeg ar lafar gwlad!

Llun gan dogfael