Astroid Boys yn saethu fideo yng Nghaerdydd – angen torf heddiw

Os wyt ti yng Nghaerdydd heddiw a ti eisiau bod yn y fideo newydd Astroid Boys, cer i Glwb Ifor Bach am 6PM heno. Neu wedyn yn y maes parcio aml-lawr ar diwedd y stryd, wedyn tua 7:15PM ar Northcote Lane tu ôl Milgi. Mae’r criw grime o Gaerdydd wedi gwahodd nifer eitha da o bobol yn barod yn ôl bob sôn.

Os dwyt ti ddim yn gyfarwydd ar Astroid Boys, yn ôl Kaptin os oedd grime arferol o Lundain yn Public Enemy maen nhw yn debyg i’r Beastie Boys – yn hytrach na grime difrifol gyda themau tywyll ac ymosodol maen nhw yn dod gyda grime am dy barti. (Gyda llaw cer i’u blog Chrome Kids i ddilyn datblygiadau yn dubstep, hip-hop a seiniau Caerdydd.)

Dyma’r fideo diwethaf, cyfarwyddiwyd gan Tim Fok:

blog Astroid Boys
Astroid Boys grwp Facebook
Astroid Boys ar Soundcloud

Disgo Dydd i’r Di-waith, Caerdydd

Disgo Dydd i’r Di-waith
The Rocking Chair, Glanyrafon, Caerdydd
20ain mis Ionawr 2011

Mewn bar Caribïaidd yng Nglanyrafon, ar brynhawn yn ystod y lleuad lawn – yr oedd pobol di-waith Caerdydd yn dod at ei gilydd am i ddawnsio a llawenhau! Am bob swydd wag yng Nghaerdydd mae 9 person di-waith yn ôl ystadegau’r llywodraeth. Mae’r syniad gwych yma gan Adam Johannes a’i trefnwyd gan Bronwen ‘Little Eris’ Davies a’i chriw yn un penigamp! Dyma ffordd wych o chwalu’r agwedd afiach fod pobol ddi-waith rhywsut i’w beio am eu sefyllfa druenus. Pwy goblyn fuasai’n dewis byw mewn tlodi?!

Dywed erthygl ar wefan y BBC fod pobol ddi-waith fwy tebygol o ddatblygu salwch meddwl megis pruddglwyf neu bryder. Dydi’r bobol yma ddim yn ‘wan’, adwaith naturiol buasai meddylfryd o iselder mewn sefyllfa anobeithiol lle nad ych yn teimlo bod cyfeiriad i’ch bywyd. Mae’r di-waith yn llythrennol heb reswm i godi yn y bore. Dychmygwch y diflastod a syrffed – pob dydd yn wag, cael eich gwrthod gan gyflogwyr un ar ôl y llall, dim arian i wneud unrhyw beth hwyl yn eich amser sbâr sydd mewn gormodedd…

Mae hyn yn broblem ddifrifol a ni allwn ddisgwyl i’r llywodraeth ein hachub, i’r gwrthwyneb – fe ymddengys fod y llywodraeth yn fwy na pharod i’n CON-DEMio! Maent am waethygu’r sefyllfa’n enbyd, rhagwelaf ddioddef a chynni economaidd yn nheuluoedd ar draws Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac anobaith i bobol ifanc sydd eisiau dechrau allan yn y byd. Rhaid i bobol trefnu pethau eu hunain ac mae disgo i’r di-waith yn ffordd syml o ddechrau hyn. Os yr hoffech drefnu disgo yn eich ardal mae canllaw gan Bronwen ar Facebook.

Nid yw’n or-gymleth, byddwch yn barod i weithio’n galed i’w hysbysebu a’i drefnu a gall fodd yn wych! Yn enwedig gan fod gymaint o bentrefi bychain tawel yng Nghymru, dyma ffordd i greu cynnwrf! Ar yr 20fed o Ionawr bu’r ail ddisgo dydd i’r di-waith yng Nghaerdydd. Bydd yn ddigwyddiad misol felly os yr ydych yn yr ardal dewch i’r un nesaf mis Chwefror!

Y gobaith yw bydd y disgo yn ysbrydoli pobol di-waith i gymryd rhan, pam ddim iddynt gyfansoddi rap/cerdd a’i berfformio? Efallai eu bod yn giamstar ar Logic neu Reason ac eisiau Djio rhai o’u caneuon? Neu efallai eisiau rhannu eu chwaeth mewn cerddoriaeth a DJio eu hoff draciau! Efallai bod rhai yn dysgu neu yn gallu chwarae offeryn? Mae llwythi o bosibiliadau – dechreuwch un rwan!

Yr oedd disgo mis Ionawr yn wych, i ddechrau yr oedd barddoniaeth. Yr oedd arddull pob bardd yn unigryw, rhai yn rheibus wleidyddol ac yn bregethwrol. Eraill yn ysgafnach, bu perfformiad gwych gan Mab Jones oedd yn gymysgedd o gomedi/farddoniaeth. Yr oedd un rapiwr/fardd ifanc, nid yn unig efo ffordd eifo’i eiriau ynd yn ynganu mewn modd arbenig basa ddim o’i le ar drac hio hop a basa wedi gwneud tiwn go dda dwi’n meddwl. Rapio yn erbyn y codiad ffioedd yn Lloegr ydoedd ar ôl iddo gael ei synnu ar ôl darllen maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod wedi gaddo fel polisi chwalu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl o fewn chwe blynedd! A be sy’n digwydd rwan ond maent yn codi’n uwch na’r nefoedd wrth condemio myfyrwyr tlawd yn y dyfodol i uffern o gynni.

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd set electroneg Skimatix. Uchafbwynt arall oedd gwrth-werin Jasmine Jackdaw. Bu’n canu’n swynol gyda’i gitar acwstig ynglyn â phynciau mwyaf gwyrdroëdig/ddoniol! Yr oedd rhywbeth Gwibdaith Hen Franaidd iawn yn naws ei cherddoriaeth. Oedd ei merch fach druan yn dwyn y meicroffon tra oedd ei mam yn ceisio perfformio! Llwyddodd hi ambell dro ac yr oedd pawb yn ceisio ei swyno ffwrdd o’r meicroffon ond heb lawer o lwc! Yr oedd rhaid i mi adael ar ôl Jasmine Jackdaw ond buaswn wedi bod wrth fy modd petawn i wedi gallu aros yn hirach. Oleiaf gennyf ddisgo’r mis nesaf i edrych ymlaen ato!

Y gobaith yw bod hyn yn ysbrydoli pobol ifanc di-waith i gymryd eu tynged i’w dwylo eu hunain. Fel y dywedais canwaith eisoes yn yr erthygl yma-trefnwch ddisgo yn eich ardal chi. Peidiwch â gadael swildod eich llethu, rhaid i chi fynd amdani, dim ond unwaith foch chi’n fyw! (Wel efallai fydd yr Hindwiaid yn ailymgnawdoli yn ôl eu crefydd ond pwy a wyr! Efallai dod ‘nôl fel sarff a fasa hi dipyn anoddach wneud pethau bryd hynny!)

Dewch draw i’r disgo nesaf ar y 18fed mis Chwefror 2011 yn y Rocking Chair o 2 y.h. ymlaen.

Little Eris: cyfweliad coethedig cerddoriaeth

Holaf Bronwen Davies ynglun a’i phrosiect Little Eris. Os yr wyf wedi dallt y dalltings credaf cafwyd y brosiect ei henwi ar ôl ‘corrach blaned’ o’r un enw, un a fu’r sybol Ryfeinaidd am Anrhefn. Mae’r berfformwraig a chyfansoddwraig o Gaerdydd ac y mae hi hefyd yn trefnu Disgo Dydd i’r Di-waith misol yn y ddinas.

Mae ei cherddoriaeth yn hynod diddorol ac mynd llaw yn llaw a fideos a phefformiadau gwreiddiol a chofleidiai eich synhwyrau. Dyma flas ohoni, un o fy ffefrynnau. Os nad oedd y trac yna at eich dant peidiwch a poeni (er buaswn yn argymell eich bod yn mynd i weld doctor clyw…). Mae naws ei chaneuon yn amrywio’n aruthrol, o Digital Psychosis – bwystfil o drac dreisgar i hwynagerddi electroneg fel hyn. Dyna ddigon o fy rwdlian, dyma’r cyfweliad.

Hel: Beth yw Little Eris a’r Molecules?

Bron: Little Eris yw fy prosiect cerddoriaeth electroneg solo. Rwy’n ysgrifennu a recordio caneuon wedyn chwarae’n fyw, gyda’r sioeau byw , fel arfer, mae performwyr yn perfformio gyda fi a rhein yw’r Molecules! Maent yn amrywiaeth o bobol creadigol sy’n ymuno gyda fi drwy ddawnsio, canu and chwarae offerynnau ac ati.  Mae Johnny Nigma yn ymuno a fi ym mhob gig hefyd ac mae’n ddod a’r gadgets a goleuadau.

Mae yna lwythi o fideoau ar YouTube o dy befformiadau… mae fideos gwych a gwallgof i fynd efo dy draciau, mae celf i weld yn elfen gryf iawn o brosiect Little Eris. Gwelais fideo Catmoth a ryddhaest Noswyl Nadolig, be ydi’r hannes ty ôl y stori yna?

Catmoth!!! Wel helpais i drefnu parti ar fynydd rhwng 2005 – 2009 o’r enw Vegstock! Un yr un dwethaf clwyodd fy ffrind a fi rhywun yn gweiddi ‘look out it’s a catmoth!’. Roedd y syniad yma’n ddigri iawn i mi! A roedden ni’n chwerthin am hyn!! Y diwrnod nesaf roedden ni’n chwarae gig a chwareis gan newydd, un heb eiriau ac yn sydyn daeth Catmoth i fy meddwl a dechrauais ganu ‘what do you get when you cross a cat with a moth – CATMOTH!’ a dyna sut dechreuodd y gan.

Yna roedd artist o’r enw Kieron Da Silva Beckerton yn perfformio gyda Little Eris fel Molecule ac wedyn out of the blue penderfynodd Kieron wneud model o Catmoth ac ei animeiddio fe! A dyna sut cafodd yr animeiddiad ei eni! Cafom ni lawnsiad ar gyfer yr animeiddiad ym mis Medi er mwyn dangos y ffilm. Yna ar Noswyl Nadolig aeth Catmoth ar y we i bawb ei weld 😀

Ooo cwl! Oedd mi oedd yn wych, y gan yn fachog a’r animation yn debyg i greadur o’r ffilm Nightmare Before Christmas (ond lot lot delach!).

Wyt ti wedi rhyddhau trac Catmoth ar albym eto? Beth yr wyt ti wedi ei ryddhau hyd yn hyn?

Rwy’n gobeithio rhyddhau albym eleni – wnes i barataoi albym demo yn 2009 o’r enw Molecules R Us, 13 cân recordiais fy hyn! Bydd rhai o’r caneuon hyn yn mynd ar yr albym newydd, gan gynnwys Catmoth. Mae Molecules R Us ar gael am ddim.

Gwych! Edrychaf ymlaen at yr albym nesaf. Bydd gigs Little Eris yn y dyfodol agos yng Nghaerdydd?

Bydd, y 23ed o Ionawr gyda John Farah yn Ten Feet Tall. Mae John Farah o Ganada ac mae’n chwarae piano clasurol dros gerddoriaeth electroneg. Hefyd bydd gig ar y 12eg o Fawrth yn Coal Exchange, Caerdydd. Gyda llawer o fandiau gwych!! Bydd Eat Static, Here and Now a Llwybr Llaethog yn chwarae – enw’r gig yma yw’r Wreck and Roll Cirkus. Ond un peth – mae gen i audition ar y 6ed o Ionawr i ganu gyda band sy’n mynd i deithio’r byd felly os yw hyn yn digwydd bydd Little Eris a’r rew am y flwyddyn!!!!! Mae’r daith gyda band wedi ei ffryntio gan Steve Ignorant o’r band enwog tanddearol pynk Crass. epic famous :/

Swnio’n dda! Un cwestiwn arall. Beth sydd yn dy ysbrydoli di? O le ti’n cael yr awen?

Awen!! Yay! Wel rwy’n hoff iawn o greu amgylchedd a naws drwy sain a’r gweledol felly rwy’n denu ysbrydoliaeth o lefydd rwy’n gallu bod fi fy hyn and bod yn rhydd. Gwyliau, partioedd tanddearol – rwy’n caru systemau sain! Rwy’n hoff iawn o grisialau hefyd – a hoffi creu tonfeddi sydd yn atseinio ar lefel arbenning. Hefyd cyfathrebu tonfeddi o ddirgryniant uchel (high vibrational frequencies) a cariad.

Cofiwch ychwannegu Little Eris ar Myspace neu Facebook, stwff gwerth chweil.

Hot Wax: siop newydd am finyl yn Nhreganna, Caerdydd

finyl

Hot Wax, Treganna, Caerdydd (Canton, Cardiff)

Sa’ i’n cofio’r siop recordiau diwetha yn Nhreganna, unrhyw un? Heblaw pump neu chwech siop elusen sy’n eitha da, yn ystod y dydd mae’n rhywle i brynu cig, caledwedd a chewynnau.

Ond nawr mae’r jyncis finyl o’r ardal yn Gorllewin Caerdydd yn falch i groesawi Hot Wax. Mis newydd hapus.

Es i yna p’nawn ‘ma am y tro cyntaf, mae’r perchennog Dave (efallai byddi di’n sylweddoli fe o’r farchnad yn Bessemer Road) yn dal i drefnu’r stoc a silffoedd. Mae fe’n dal i agora’r siop – gyda llawer mwy o recordiau ychwanegol i ddod.

Mae fe’n cynnig llawer o roc a phop clasur o 60au i 80au ar hyn o bryd, ychydig o funk a jazz, rhai o lyfrau ac addewid o comics yn y dyfodol agos.

Mae bron popeth yn ail-law. Welais i ddim unrhyw CDau yna o gwbl. Bydd finyl yn byw yn hwy na’r CD siwr o fod.

Y ffaith bod rhywun yn agor siop finyl yn yr hinsawdd gyfoes yn anhygoel. Pryna rhywbeth.

Hot Wax
50 Cowbridge Road East
Treganna
Caerdydd
CF11 9DU
Ar agor: dydd Mawrth i dydd Sadwrn (ond weithiau ar agor dydd Llun)

Llun finyl gan fensterbme

Diwrnod yn y Ddinas; Ar Derfyn Dydd

Gweler hefyd: rhan 1 ar cychwyn y mis

Beth oedd arwyddair CNN ar un adeg dwedwch, “Give us a minute and we”ll give you the world”? Wel, os oes ganddoch chi 27 munud, gewch chi Gaerdydd.

Ydy, mae’r dair wythnos o recordio a golygu’r Magnum Opus Diwrnod yn y Ddinas ar ben, a dwi’n nacyrd. Ma’r rhaglen wedi’i chwblhau, a’r oriau ar oriau o seiniau yn llechu rywle y system, gyda swmp helaeth ohonynt wedi’u golygu’n glipiau sain i’r wefan sy’n cydfynd â’r rhaglen, yn ogystal â nifer o luniau dynnais i o’r ddinas a’r cyfranwyr.

Ar un adeg, ro’n i’n meddwl mai encil wirfoddol i lonyddwch lleiandy fyddai cyrchfan fy mreuddwydion, yn dilyn bron i fis o diwnio fewn i seiniau dinas Caerdydd. Ac mae’n wir – fydda i byth yn gallu clywed seiren ambiwlans yn rhuthro heibio heb feddwl, “Cor, odd hwnna’n un da”.

Susan GriffithsOnd y gwir ydy, ma’r cyfnod yma wedi neffro i’n llwyr i un o brofiadau mwyaf synhwyrus fy mywyd. Nid yn unig ydw i bellach yn deall yn union beth yw’r gwahaniaeth rhwng swn alarch a gwydd, colomen a gwylan, ond dwi wedi f’atgoffa cymaint o hiwmor sy’n perthyn i gleber trigolion Caerdydd. Anghofiwch am Gavin and Stacey, jyst treuliwch bach o amser ym Marchnad Caerdydd, Swyddfa Bost Albany Road neu’r bws rhif 52 i Bentwyn, a bydd drafft cynta sit-com ‘da chi mewn chwinciad.

Ydw, dwi’n cyfadde mod i wedi troi’n urban sound-geek, ac os ydych chi’n dymuno dod ar wibdaith soniarus â mi o amgylch y ddinas, mi af â chi i’r union lecynnau sy’n boddi mewn haenau o seiniau gwahanol.

Dwi newydd gyflwyno copi CD gorffenedig i gymydog, cyfaill a chyfranwr i’r rhaglen – Geraint Jarman. Hyd yn oed os nad ydych yn ffans o ddinas Caerdydd (dwi’n gwbod fod na rai ohonoch chi allan yna), hoffwn eich sicrhau chi fod y rhaglen yn werth gwrando arni am y rheswm sylfaenol fod “Nos Sadwrn Bach”, oddi ar ei albwm newydd hirddisgwyliedig, yn un o’r caneuon harddaf i mi ei chlywed erioed, ac ni fydd modd ei chlywed yn unman arall nes caiff yr albwm ei rhyddhau ddiwedd y flwyddyn.

Bu Geraint yn ddigon hael i gynnig y gân i gydfynd â’r rhaglen am ei bod yn cyfleu noson allan ar Womanby Street, sy’n asio’n berffaith gyda rhan ola’ Diwrnod yn y Ddinas.

Dwi’n ddiolchgar tu hwnt am ei haelioni ef, ond hefyd am haelioni pob un o gyfranwyr gwych y raglen fechan hon.

Dechreuais ag amlinellaid o syniad, a braslun o’r ffordd roeddwn am ei chychwyn a’i gorffen, gan gysylltu â ffrindiau, cydnabod, ac enwau cwbwl newydd i mi – yn holi tybed fydde amser ‘da nhw i mi dreulio ychydig amser yn eu cwmni yn recordio’r seiniau o’u cwmpas, a chyflwyniad o’u cornel nhw o Gaerdydd. Cês fy mhlesio’n arw gan yr ymateb, gan i bawb – yn ddi-eithriad – ddod nôl ata i’n syth bin gydag ymateb bositif.

Beth oedd hefyd yn ffantastic oedd y bobol gwrddais i trwy hap a damwain tra’n recordio ar strydoedd y ddinas, sydd bellach yn gymeriadau canolog yn y ddogfen hon, gan gynnwys Magi Roberts o Cathays ac Afzal Mohammad – tad y cyflwynydd Jason – o Gaerau yn Nhrelai.

Afzal MohammadMae’r ddau yn gweithio’n rhan-amser gyda City Sightseeing, y bysus deulawr tô-agored sy’n gadael y Castell bob hanner awr, gyda Magi’n sylwebydd, ac Afzal yn yrrwr yn dilyn gyrfa gyfan yn gweithio gyda Cardiff Bus.

Nid peth hawdd yw sgwrsio’n “naturiol” pan fo meicroffôn o dan eich trwyn,yn arbennig i bobol sydd heb arfer gwneud, ond ymatebodd pawb yn ddifyr a deallus wrth drafod eu Caerdydd nhw, a’r seiniau sy’n ffurfio’u trac sain dyddiol.

Yn wir, ces fy llorio’n llwyr gan ambell arsylwad. Doedd gen i ddim syniad, er enghraifft, fod Caerdydd yn llawer mwy swnllyd na’r un ddinas yn yr Unol Daleithiau, yn cystadlu â Chicago am ei statws fel Windy City, ac fod na un diwrnod o’r flwyddyn lle mae’r ddinas yn gwbl ddistaw.

Roedd hi hefyd yn ddifyr dod i ddeall pa synnau sydd ddim i’w clywed mwya ch yng Nghaerdydd, sy’n brawf fod hyd yn oed seiniau yn gadael hiraeth ar eu hôl.

Gallwn draethu am oriau am eco’r Echo-ebychwr yn nerbynfa’r orsaf ganolog, y grefft o stelcian elyrch a gwylanod heb risk asessment, a ‘nghyfnod byrhoedlog fel ambulance-chaser, ond mae’n mynd yn hwyr, ac mae’r hen leiandy yn galw.

Ond och, beth yw hyn? Gwich neges destun gan fy chwaer, a chorn ei char tu fas yn fy siarsio i i shiglo fy stwmps.

Mae gen i barti i’w fynychui’w cynhesu cartre Llyr a Spencer, cyfranwyr cyntaf y rhaglen, a’r cwpwl cyntaf i symud i’r datblygiad newydd ar hen dir Ninian Park. Fe ddarganfuon nhw’n ddiweddar fod eu ty nhw’n sefyll ar leoliad cawodydd yr hen stafelloedd newid. Waw – jyst dychmygwch yr ysbrydion sy ganddyn nhw…

A bod yn deg, nid mynd i hel bwganod ydw i, ond i ddilyn cyngor doeth iawn dderbyniais i tra’n recordio yn y farchnad bythefnos yn ôl. Wrth basio’r cigydd, gofynais i’r stondinwraig, Susan Griffiths, a gawn i recordio’r peiriant sleisio bacwn ar gyfer fy rhaglen. Roedd hi’n ddigon caredig i rannu sgwrs ddifyr â mi – sydd i’w glywed fel rhan o’r clipiau sain ar wefan BBC Radio Cymru. Ond wnai fyth anghofio’i hymateb cyntaf i’r fath ofyniad;

“If you don’t mind me saying love, you ought to get a different job – or get out a bit more!”

Dwi’n credu y sticiai i da’r job am y tro, Susan. Ond allan â mi, am ragor o brofiadau, yn ninas fechan orau’r byd.

Bydd Straeon Bob Lliw: Diwrnod yn y Ddinas yn darlledu ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sul Medi 26 am 5 o’r gloch yr hwyr, gydag ailddarllediad ar nos Fercher Medi 29 am 6 o’r gloch yr hwyr. I wrando eto ar yr iPlayer, i weld lluniau, ac i glywed sgyrsiau estynedig gyda’r holl gyfranwyr ewch yma.