Archif cylchgrawn Sothach

Gwychder. Sothach oedd cylchgrawn am roc a phop o Gymru yn gynnwys erthyglau a chyfweliadau gyda Ffa Coffi Pawb, Manic Street Preachers, Jess, Datblygu Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Eirin Peryglus, Recordiau Ankst, Tynall Tywyll, Beganifs, Anhrefn, Jecsyn Ffeif, Steve Eaves, Aros Mae, Daniel Glyn a mwy…

Mae archif cylchgrawn Sothach ar y we gyda rhifynau o 1989, 1992 – a mwy i ddod. Dw i wedi cadw pob PDF ar fy disc heddiw ar gyfer y nosweithiau tywyll. Mae’r cymhariaethau gyda’r sin 2011 yn ddiddorol.

Dyma gofnod blog gan Dafydd sydd yn esbonio mwy am y prosiect digido.

Gweler hefyd: Ffeiliau Ffansin

Pwy yw’r FatBarrels Pops Orchestra?

FatBarrels Pops Orchestra yw allweddellydd a chwaraewr bas Ben o Wrecsam (a’i ffrindiau?). Mae fe’n chwarae tiwns hapus/rhyfedd/gwirion/arbrofol. Dyma fersiwn o’r cân Happiness gan Camera…

Hynny yw, mae Ben yn chwarae bas fel aelod llawn amser o Camera hefyd, sydd yn rhyddhau’r recordiad gwreiddiol Happiness heddiw! Dyma hi:

(O’n i’n arfer gweithio gyda’r band.)

Hot Wax: siop newydd am finyl yn Nhreganna, Caerdydd

finyl

Hot Wax, Treganna, Caerdydd (Canton, Cardiff)

Sa’ i’n cofio’r siop recordiau diwetha yn Nhreganna, unrhyw un? Heblaw pump neu chwech siop elusen sy’n eitha da, yn ystod y dydd mae’n rhywle i brynu cig, caledwedd a chewynnau.

Ond nawr mae’r jyncis finyl o’r ardal yn Gorllewin Caerdydd yn falch i groesawi Hot Wax. Mis newydd hapus.

Es i yna p’nawn ‘ma am y tro cyntaf, mae’r perchennog Dave (efallai byddi di’n sylweddoli fe o’r farchnad yn Bessemer Road) yn dal i drefnu’r stoc a silffoedd. Mae fe’n dal i agora’r siop – gyda llawer mwy o recordiau ychwanegol i ddod.

Mae fe’n cynnig llawer o roc a phop clasur o 60au i 80au ar hyn o bryd, ychydig o funk a jazz, rhai o lyfrau ac addewid o comics yn y dyfodol agos.

Mae bron popeth yn ail-law. Welais i ddim unrhyw CDau yna o gwbl. Bydd finyl yn byw yn hwy na’r CD siwr o fod.

Y ffaith bod rhywun yn agor siop finyl yn yr hinsawdd gyfoes yn anhygoel. Pryna rhywbeth.

Hot Wax
50 Cowbridge Road East
Treganna
Caerdydd
CF11 9DU
Ar agor: dydd Mawrth i dydd Sadwrn (ond weithiau ar agor dydd Llun)

Llun finyl gan fensterbme