Mae cyfle i weld y rhaglen ardderchog Prosiect: Rhys Ifans ar S4C Clic ar hyn o bryd lle mae fe’n sôn am ei rôl newydd, Y Fadfall yn y ffilm Spiderman newydd, ymysg pethau eraill. Diolch Daniel Glyn am rhannu fideos ychwanegol o sgwrs gyda Rhys Ifans. Dyma un mewn tacsi yn Efrog Newydd am bywyd a gwaith actor ac mae lot mwy ar YouTube.
Tag: Efrog Newydd
RIP Rammellzee, arloeswr hip-hop
Bu farw Rammellzee (neu RAMMΣLLZΣΣ) yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd wythnos yma.
Oedd e’n rhan bwysig o’r sin hip-hop (y sin gynnar yr 80au yn enwedig) fel cerddor ac artist graffiti. Mae’r fideo yn dangos e ar y llwyfan yn rapio yn y ffilm Wild Style.
Mae fe’n enwog am y can Beat Bop o 1983 gyda K-Rob. Mae cefnogwyr hip-hop yn galw’r record 12″ y holy grail o recordiau hip-hop achos mae pobol yn fodlon talu prisiau gwallgof amdano fe. Mae pob copi yn dod gyda chlawr sydd wedi cael ei pheintio gan Jean Michel-Basquiat.