Diwrnod yn y Ddinas

Diwrnod Pethau Bychain Hapus! Os fydd heddiw unrhywbeth fel ddoe, mae gen i brofiad a hanner o’m mlaen i. Dwi newydd ddechrau recordio rhaglen ddogfen ar gyfer y radio sy’n cynrhychioli diwrnod yn y brifddinas. Cerddlun o Gaerdydd fydd y raglen hon, yn cynnig portread o’r ddinas trwy gyfrwng seiniau a lleisiau lleol.

Doedd dim angen cloc larwm arna i ben bore ddoe; diolch i grawcian gwylanod Penylan, nes i godi cyn cwn Caerdydd, oedd yn hynod handi, gan i mi ddechrau yng nghwmni pooches Parc Buddug, a’u perchnogion, toc ar ôl saith. Yna, ymlaen i Benarth am sgwrs â rhai o’r twristiaid o Tseina oedd yn tynnu lluniau o banorama’r Bae ger yr hen Billy Banks, cyn mwynhau paned ger y Pier yng nghwmni’r diddanwr stand-yp Frank Honeybone – dyn sydd â digon i ddweud am ei ddinas fabwysiedig.

Eglwys Gadeiriol LlandafYna, profiad cwbl newydd i mi, a’r rhan fwyaf o ddinasyddion dybiwn i- gwibdaith ar y bws tô-agored sy’n gadael y Castell bob hanner awr, a chael modd i fyw diolch i sylwebaeth Mike a Magi – dau o’r ardal sy’n adlonni ymwelwyr yn ddyddiol- cyn gorffen am y tro mewn heddwch pur yng ngerddi’r Eglwys Gadeiriol yn Llandaf – un o ddihangfeydd dyddiol dinesydd arall. Eto, roedd hwn yn fangre cwbl anghyfarwydd i mi, er bod fy swyddfa lai na chwarter milltir i ffwrdd, a minnau’n wreiddiol o’r brifddinas.

Megis dechrau ydw i, gyda phythefnos gorlawn o recordio o’m mlaen i geisio cynrhychioli cymaint o seiniau, ardaloedd a phrofiadau i grisialu “diwrnod” yn y ddinas cyn i mi feddwl dechrau ar y gwaith golygu.

Ie, pythefnos i gyfleu diwrnod- boncyrs yn wir, ond mae gen i ofn mai one man band yw hi o ran tîm cynhyrchu, a bydde angen nifer fawr o Lowri Cooke’s i geisio gwneud cyfiawnder ag enhangder y ddinas mewn un diwrnod yn unig – yn enwedig ‘rôl profi trallod y tagfeydd traffic sy’n parhau i i greu cythrwfl, diolch i’r gwaith adeiladu o flaen y Castell (cue sain driliau, cement-mixers a Jac Codi Baw).

Stryd WomanbyYdyn, mae’r haenau o seiniau sydd i’w clywed ar hyd a lled y ddinas yn ddi-ddiwedd, o’r llonyddwch lloerig sydd i’w brofi ym Mharc y Rhath ar doriad gwawr, hyd at adar amrywiol Adamsdown, traffig byddarol Death Junction, llif cyson Nant Lleucu, ‘smygwyr siaradus Stryd Womanby, a’r fflicran di-baid rhwng gorsafoedd radio mewn cerbydau ledled Caerdydd.

Dwi’n gobeithio cofnodi’r rhain oll a llawer iawn mwy dros y dyddiau nesa ma. Braint o’r mwya ydy cael cyfnod o wrando mor astud ar fy ninas ar gyfer prosiect o’r fath, felly da chi, os welwch chi fi a fy ffrind bach fflyffi, Stereo Mic, yn loitran with intent yn eich cornel chi o’r brifddinas dewch draw i mi gael clywed am rai o’r seiniau hynny sy’n crisialu’ch Caerdydd chi.

Bydd Diwrnod yn y Ddinas yn darlledu ar BBC Radio Cymru ar 26 mis Medi 2010

Lluniau gan Dom Stocqueler a Watt Dabney