Taith fach Make Noise: Stealing Sheep, R.Seiliog ac eraill

Make Noise

Mae taith Make Noise eisoes wedi ymweld â Chaerdydd. Mae hi’n gysyniad eithaf syml – gig electroneg i hybu ailgylchu electroneg.

Mewn geiriau eraill mae mynediad AM DDIM i unrhyw un sy’n dod ag hen offer trydanol i’w ailgylchu, megis hen ffôn, cyfrifiadur sy wedi torri, tostiwr marw, ac ati – unrhyw beth gyda phlwg neu fatri.

Fel aelod achlysurol o griw Nyth DJs byddaf i’n troelli tiwns ar rai o’r dyddiadau ar y daith hon. Dw i hefyd yn helpu ei hyrwyddo. Dyna’r datganiad o ddiddordebau, nawr dyma’r manylion…

  • Nos Wener 14 Hydref: Stealing Sheep, R.Seiliog, Mwstard
    Y Parot, Caerfyrddin
    ar Facebook
  • Nos Wener 21 Hydref: Stealing Sheep, R.Seiliog, Ani Glass
    Le Pub, Casnewydd
    ar Facebook
  • Nos Sadwrn 22 Hydref: Gallops, Braids, Accu, The Contact High
    Gwdihw, Caerdydd (fel rhan o Ŵyl Sŵn)
    ar Facebook
  • Nos Sul 23 Hydref: Stealing Sheep, Melt Yourself Down, Tender Prey, Amber Arcades, Jordan Mackampa, Rhain, Joseph J Jones, Tail Feather, Adverse Camber (ie, rhain i gyd)
    O’Neill’s, Caerdydd (fel rhan o Ŵyl Sŵn)
    ar Facebook
  • Nos Sadwrn 12 Tachwedd: Stealing Sheep, R.Seiliog
    Rummers, Aberystwyth
    ar Facebook
  • Nos Wener 25 Tachwedd: Stealing Sheep, R.Seiliog
    Clwb Y Bont, Pontypridd
    ar Facebook

Mae pob dyddiad hefyd yn cynnwys troellwyr tiwns o griwiau Heavenly Jukebox a Nyth. Dewch os ydych chi’n gyfagos!

Gŵyl Nyth yng Nghaerdydd: canllaw i’r gerddoriaeth

Ciron o griw Nyth sy’n esbonio pa gerddoriaeth sy’n eich disgwyl ac mae rhagor o wybodaeth ar ddigwyddiad Facebook Gŵyl Nyth.

Bydd Gŵyl Nyth yn cael ei gynnal yn Porter’s, Caerdydd dydd Sul.

Yn ogystal â cherddoriaeth anhygoel, bydd cyfle i’r culture vultures weld arddangosfa gelf gyntaf Swci Boscawen a bydd y rhai ohonoch chi gydag arian yn llosgi twll yn eich poced yn gallu ei wario mewn siop recordiau labeli annibynnol- ac wrth y bâr, wrth gwrs.

David Mysterious
Mae o’n disgrifio ei edrychiad fel “Ned Flanders budur” a does neb yn gwybod ble mae o’n byw. Ond dim ots, achos mae Nyth wedi dod o hyd iddo fo.
Gwyliwch hon, dewch draw i’w weld, fydd o’n syniad da!

Georgia Ruth
Gyda’i halbwm allan wythnos yma a sylw Prydeinig gan Radio2 a 6Music, dewch i’w gweld hi yng Ngŵyl Nyth cyn iddi fynd rhy enwog i siarad hefo ni.
Ond cyn hynny, gwyliwch fideo grêt Georgia Ruth tra’n myltitasgio’r ddefod o wrando ar ei llais hyfryd hi.

Lewis Floyd Henry
Mae o’n edrych fel Jimi Hendrix, yn swnio fel Jimi Hendrix, ond dim Jimi Hendrix ydi o. Confused?!
Ie, mae’r arwr nad oes iddo ail, Lewis Floyd Henry, yn glanio yng Ngŵyl Nyth.

R.Seiliog
Ar y record, mae R.Seiliog yn swnio fel y dyfodol. Yn fyw, nhw yw band mwyaf groovy Cymru. Ac mae hynny gyfeillion, yn ffaith.

Swnami
Fel mae’r enw yn awgrymu, mae Swnami fel ton fawr o sŵn yn eich taro chi oddi ar eich traed. Dyma flas bach blasus ohonyn nhw’n gwneud sŵn.

We Are Animal
Mae We Are Animal yn blincin anhygoel a da ni wrth ein bodda eu bod nhw am alw yng Ngŵyl Nyth! Os da chi’m yn coelio ni, rhowch eich clustiau rownd hwn….

Candelas
Y pethau gorau i ddod o’r Bala ers cwch banana… neu anghenfil llyn Tegid. Gewch chi benderfynu pa un.

Wilma Sands
Mae Wilma Sands yn gyfrinach sydd wedi ei chadw o fewn ffiniau Caerdydd hyd yn hyn. Ond am ba hyd?

Mattie Ginsberg
Does ‘na’m llawer o’r gŵr ifanc yma ar y we fyd eang ond na phoenwch, mae o’n fendigedig yn fyw.