Yr electro mwyaf anhygoel 1980 – 1986

Dw i newydd ddarganfod y trac ‘ma gan John Foxx (cyn-canwr Ultravox). Ah, wn i, syniad am gofnod. Popeth o 1980 tan 1986, dim celwedd.

Mae’r trac Mr No yn anhygoel, mae’n swnio fel rhywbeth newydd gan Bitstream neu unrhyw gynhyrchwr o electro tywyll ac oer. Ond wrth gwrs y ffaith yw, roedd John Foxx wedi bod yn ddylanwad mawr ar gerddoriaeth o’r tri degawd diwetha. Arloeswr.

Roedd Ultravox ddim yn dda iawn ar ôl John Foxx (Vienna etc, pffffft). Ond dw i’n licio’r gân Herr X. Almaeneg, curiad, sain dywyll, B-side wins again. Dw i’n chwarae hwn yn y clwb. Mae’n hollol scary ar system sain fawr.

Helpodd Conny Plank gyda’r geiriau. Ond mwy Almaeneg isod gan bobol Almaenaidd go iawn yn hytrach na Saeson sy’n meddwl bod Almaeneg yn cŵl.

Roedd electro a rhamantus newydd yn rhywbeth punk hefyd. Frequency 7 gan Visage. B-side heb Midge Ure!

Dyw digon o bobol ddim yn siarad am gerddoriaeth Malcolm Neon dyddiau ‘ma a does dim lot ar YouTube chwaith. Rhaid i ni werthfawrogi ein hartist(iaid) rhamantus newydd! Fy hoff drac yw Mwnt. Diolch i Crav Llibertat am y tip. Mae Malcolm yn enwog fel artist gweledol hefyd.

Love and Dancing yw’r albwm gorau gan Human League yn fy marn i, dan yr enw League Unlimited Orchestra. Dylet ti brynu’r finyl yn Nhŷ Hafan am 50c. Bydd pobol yn rhedeg i’r bwth DJ i ofyn “be yw HWN?!”.

Fi di cynnig digon o electro tywyll, nawr dyma rywbeth rhy hapus am y clwb. Caru neu gasáu, mae George Kranz yn ddyn “arbennig”. Dum de DUM, dum de DUM, y trac gorau neu fwyaf annoying erioed. Un difyr am y swyddfa ar ôl dadl.

Mae’r llais wedi cael ei samplo gan The Orb a’r Ying Yang Twins.

O’r un is-genre cerddorol Almaenaidd â Kranz daeth Trio a Da Da Da, neu yn ôl y teitl llawn, Da da da, ich lieb dich nicht du liebst mich nicht aha aha aha. Massive worldwide hit javule. Fideo rhyfedd.

OK gwnaf i siarad am Yr Almaen eto. Kraftwerk yw enw amlwg ond dyw’r erthygl ddim yn gyflawn hebddyn nhw. Yma maen nhw yn derbyn arian am yr ailddefnydd Coldplay. Mae’r albwm Computer World yn gynnwys Numbers hefyd (Numbers + Trans-Europe Express + Afrika Bambaataa + Arthur Baker = Planet Rock). Mae Kraftwerk yn atgoffa ni o’r gwreiddiau electronica Almaenaidd – y sin krautrock a’r ymdrech Almaenaidd i ail-greu cerddoriaeth a chymdeithas yn yr 20fed ganrif. Dylet ti weld y ffilm dogfen BBC4 am fwy o’r hanes. FilesTube gyfaill.

Mae fersiwn amgen/dyb/offerynnol yn bodoli hefyd. Gwych. Mae’r cofnod hwn yn ddim ond cyflwyniad. Mae’r fideo ‘ma yn ticio dau focs angenrheidiol – y bocs Yazoo a’r bocs Mute Records. Dw i ddim wedi sôn am Depeche Mode, Fad Gadget neu The Normal eto. Daniel Miller yw’r dyn tu ôl The Normal a’i geiriau Ballardaidd – a’r label Mute Records. Penigamp.

Gallwn i wedi dewis caneuon clasur gan Hashim neu Man Parrish yma. Ond Cybotron yw’r daddy. Cybotron = Juan Atkins = Model 500. Felly mae electro yn cyffwrdd hip-hop ond hefyd techno mewn ffyrdd gwahanol. Samplodd Missy Elliot.