Pwy samplodd pwy? Ffa Coffi Pawb, Tystion, Datblygu, SFA…

Mae samplo gallu bod yn ffordd greadigol i greu cerddoriaeth. Mae ailgylchu yn dda i’r amgylchedd. Hefyd mae’n rhatach (weithiau). Gofyna’r artistiaid isod.

Samplodd Ffa Coffi Pawb yn “Hydref Yn Sacramento”…

…y drymiau o’r cychwyn Rolling Stones “Get Off of My Cloud”.

Samplodd Datblygu yn “Pop Peth”

…y drymiau enwog gan Clyde Stubblefield o James Brown “Funky Drummer”. Mae’r darn yn dechrau tua 5:20. Roedd llawer o bobol yn samplo’r un drymiau, e.e. Public Enemy, Madonna, Prince a llawer o artistiaid jyngl/drwm a bas fel Future Cut.

Samplodd Super Furry Animals yn “Smokin'”…

…y ffliwt o Black Uhuru “I Love King Selassie”.

Samplodd Lo-Cut a Sleifar yn “Aduniad”…

y curiad o Cage “54” (dw i’n meddwl).

Samplodd Tystion yn “Dama Blanca”…

“Cocaine in my Brain” gan Dillinger. (Ond ble mae’r ffliwt yn dod, fersiwn dub arall?)

8 sylw ar “Pwy samplodd pwy? Ffa Coffi Pawb, Tystion, Datblygu, SFA…”

  1. Ahh… (ymchwilio). Efelychodd dw i’n meddwl. Diolch!

    Siŵr o fod MC Mabon wedi samplo mwy. Mae Super Furry Animals wedi gwneud llawer mwy yn bendant. Dyma pam maen nhw yn GORAU. Efallai cofnod arall yn y dyfodol.

  2. Remix o Cocaine in my Brain gan The Groove Corparation ydy’r sample ar Dama Blanca. Ma’r flute yn cael ei chwarae gan Rob MacKay.

  3. Gyda llaw ma ‘Aduniad’ yn cynnwys samles o Kool Keith, Outkast a The 45 King

Mae'r sylwadau wedi cau.