Siwrnai i’r Llwybr Llaethog

Mae’n anodd iawn dewis 5 uchaf Llwybr Llaethog gan fod chwant yn newid mor aml efo tymer a chyd-destun.

Os yr ydych yn teimlo fel dawnsio’n wyllt, tiwn craiddcaled fel Drilacila ydy’r un i ‘w roi ymlaen tybiwn i. Ond os yr ydych eisiau rhywbeth tangefeddach caneuon fel Satta ym Mhontcanna a Bob Dim yw’r tranquilizers cerddorol delfrydol. Os yr ydych mewn tymer synfyfyriol dwb barddonol araf fel Nos Da sydd yn neis i wrando arno gan fod naws hypnotig ar lais yr hen foi croch, mae Aberdaron yn enghraifft arall prydferth o fathiad y traddodiad barddol i genre cerddoriaeth. Rheswm arall ei bod mor anodd gwneud rhestr o fy hoff draciau yw gan bod LL LL mor gyson o ran creu tiwns o safon…

Ta waeth yn y diwedd penderfynais gwneud y 5 uchaf o’r gerddoriaeth oedd ar gael ar YouTube. Felly dyma nhw.

Dimbrainsdotcom (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)

Fel cyfalafffob y mae’r rap rheibus yma yn gorfod bod un o fy ffefrynau erioed! Mae modd deallt y rap yma o ble bynnag yr ydych yn dod – o Ton Pentre i Taiwan mor bell cyrhaeddai grym y corfforaethau cyfalafol ac adnabyddir eu henwau gan poboloedd o bob man, pontiai eu grym iaiethoedd o bob lliw a llun. Mae’r farchnad rydd wedi gwneud ysglyfaeth ohonom i gyd: o’r 3ydd byd lle gwasgai cyfalafwyr ei helw allan o bobol yn y ‘sweat shops’ i wlad ‘cyfoethog’ fel hon lle mae’n angenrheidiol cael ‘BMW i deimlo’r pwer’. Mae’r neges yn syml ond effeithiol, llawer gwell na llyfr hirfaeth neu areith jargonllyd a estronai’r rhanfwyaf ohonom rhag ystyried y rhan y mae’r cwmniau mawr yma yn chwaraeu yn ein bywydau. Mae ton heriol y rap yma yn un positif yr un fath a swn y cerddoriaeth ei hyn – mae’n bell iawn o rantiau digalon apocoliptig llawer o ferniadaethau o’m byd heddiw gan y chwith, dde, grwpiau crefyddol a.y.y.b! Yn well na dim nid yw’n unig yn feirniadaeth ond yr wyf yn hoff ohono hefyg gan ei fod yn fwy na hyn: Onid yw y geiriau ar ddiwedd y tiwn (Neud nid Deud) hyd yn oed yn mynd mor bell a sbelio fo allan i ni sut mae newid pethau er gwell? Faint o llyfrau llarpiog, areithiau arteithiol a caneuon condemedig yr ych wedi ei ddarllen/clywed heb gynnig ateb call a all bawb ei ddilyn yn y diwedd? Heb os dyma un o fy hoff ganeuon Llwybr Llaethog tiwn bachog fydd yn sownd yn eich pen am amser hir!

Blodau Gwyllt y Tân (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)

Prynnais yr albwm Anomie-Ville yn siop Oxfam ym Mangor blynyddoedd yn ôl.  Ar ôl i mi wrando ar albwm, ei weld yn rhyfedd, ei adael i hel llwch ar fy silff am flynyddoedd wedyn troi yn ôl ato blynyddoedd wedyn datblygais i fod yn anorac awchus o’r LL LL. Dyma y gan gynta LL LL y cefais obsesiwn amdani ac yr oeddwn yn ei chwarae fel tiwn gron yn methu cael digon ohoni. Bob tro yr wyf eisiau dangos engrhaifft o gerddoriaeth cymraeg cyfoes i unrhywun hwn yr ydw i yn ei roi ymlaen. Efallai gan fy mod yn cofio yr amser dechreuais wrando yn iawn ar y gan yma yn nhy fy Nain yn Y Bala, mae’r gan dal i rheiddio naws o anwyldeb bob tro grandawaf arni.

Mae’r llais a’r alaw prydferth dim ond yn atgyfnerthu hyfrydwch y geiriau. I mi mae’r geiriau yn rhyw son am angerdd mewnol cyfrinachol, er engrhaifft fel y canfyddir a phersonau swil. Gall eu meddwl fod yn hollol danbaid a hyperactif o syniadau a teimladau, efallai gymint nes bod hyn yn peri swildod llethol allanol. Felly yw ‘mae merch yn eistedd ar ei phen ei hyn yn sibrwd can’ mewn gwirionedd a’i ‘gwaed ar dan’. Cawslyd efallai i mi ei hysgrifennu fel hyn ond wrth wrando ar y geiriau yng nghyd destyn y gan fel y gwelir nid oes tafell o gaws yn agos tuagato! O’r gan yma canfum i paradocs rhwystredigaeth (‘blodyn gwyllt sydd methu troi/ wedi pydru yn y dwr’) a ddiffyg mynegi ei hyn mewn unigolyn pan yn groes i’r ymdangosiad allanol mae’r angerdd fwy grynodedig na’r hyn sydd yn mynd ymlaen yn pennau yr rhain sydd yn geg i gyd. Trio deallt a dryswch yn amlwg iawn yn y gan yma hefyd, efallai trio deallt moesoldeb mewn oes heb arweiniad crefyddol a pan gwyddwn ni bod normau cymdeithasol yn cael ei llywio gan buddianau dosbarth, pa rhei felly yw y ‘blodau glan’?. Dyma beth yr wyf i yn ddehongli o’r gan ond wrthgwrs dyfalu’n llwyr ydw i ac efallai dwi’n mynd llawer rhy ddwfn iddi ac yn malu cachu’n llwyr!

Anomie-Ville (o’r albwm Anomie-Ville, 2002)

Mae’r gan yma gymaint o wrthgyferbyniad i anwylder Blodau Gwyllt y tan ond hefydd yn eiddo ar yr un swyn drostof. Efallai gan mai dyma un o’r caneuon cyntaf i mi ei ‘ddarganfod’ gan LL LL hefyd sydd yn ei wneud yn arbennig i mi.

Eto pan grandawaf arno yr wyf yn cael fy hatgoffa o’r amser mi fuais yn mynd o am dro o amgylch Y Bala ac credaf un rheswm bod y gan yma yn sefyll allan i mi oedd oherwydd ar y pryd yr oedd yn cydberthnasu yn dda efo fy nghyd destun. Wrth gerdded o amgylch y Bala (a wedi byw yno am flynyddoedd fel plentyn rhwng 1998 a 2001) i mi Bala oedd Anomie-Ville. ‘Pwy sisho byw yn Anomie-Ville?/ Pawb yn piso ar chips pawb arall’ Yn glir nid yw hyn yn dangos my mod efo agwedd ffafriol tuagat Y Bala (druan) ond ar y tro yr oedd yn gwneud synwyr, yn enwedig garwedd y geiriau a phrydferthwch y miwsig.

Mae Y Bala i mi yn baradocs yn yr un un ffordd. Credaf gan i Y Bala fod yn o’r llefydd mwyaf Cymreig (onid yma bu farw y dynes olaf i fedru’r Gymraeg yn llyfr Islwyn Ffowc Ellis ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’?). Yma yr oedd yn gliriach na nunlle yr afiach ac yr annwyl am yr holl gysyniad o ‘Gymru Cymraeg’. Y snobyddiaeth a’r cystadlu, y gwaseidddra o trio plesho eraill ar draul eich cyfoedion, dyma ydw i yn gofio o fynd i’r ysgol yn Y Bala wedi dod o’r cymoedd yn 8 oed. Yr oedd yr agwedd at ‘allanwyr’ a’r hyn oedd yn wahanol yn drychinebus, yr oedd plant saesneg yn cael ei trin yn wael yn yr ysgol yma gan y plant eraill. Gallwn weld efallai sut mae’r agwedd o fod yn or amddiffynol yn rhywbeth a ddatblygai’n naturiol yn y gymdeithas gymraeg sydd a’i fodolaeth ers canoedd o flynyddoedd dan fygythiad ond mae’n glir nad yw’n agwedd bosotif na cynhyrchiol. Estroni pobol gwnaiff hyn a meithrin naws clostroffobig ‘dim dod mewn a dim mynd allan’ a rhyw ofn nelltuol o ddylanwad a datblygiad. Hefyd sut all ddisgwyl i Saeson gallu garu y gymraeg na chal unrhyw deimladau positif tuagati pan y maent wedi cael ei trin yn wael gan eu bod nhw ‘ddim digon Cymraeg’ yn y lle cyntaf? Er hyn cysylltaf Bala a rhyw urddas diysgog, bod y Cymru yn fobol mor hynafol ac gan ei bod yn lleafrif yn byd pan mae y byd yn troi’n fonoddiwylliant eingl-americanaidd mae’r llefarifoedd prin yn bryderth yn ei hunain.

Mae y miwsig ei hyn i mi yn adlewyrchu y paradocs yma o barch di gwestiwn at y cymuned sydd a llawer o broblemau anelwig.

Sbecsmelyn (o’r albwm Chwaneg, 2009)

Dyma Ed Holden (o Genod Droog / Y Diwygiad gynt) wedi ymunno efo LL LL. Wn i ddim be ydi’r sbecs melyn- jest par o sbecs melyn neu ydio’n ffordd mae’r y byd yn cael ei liwio gan rhywyn? Mae rhai yn gweld y byd trwy sbecdolau ‘rose tinted’ efallai bod rhywyn sydd yn rhoi ei sbecs melyn ymlaen jest yn rhywyn sydd yn gweld y byd trwy lygaid lloerig- efallai fod rhoi dy sbecs melyn ar yn ffordd o sbio ar y byd drwy lygaid y boi yma ‘mae’r diafol wedi gafael yn bywyd y boi ma a creu problemau’ ond dyfalu ydw i wrth gwrs. Tu hwnt i ystyr posib y sbecs melyn yma y mae’r rap yma yn hawdd i berthnasu a i llawer o fobol.

Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa neu nabod rhywyn sydd wedi dod yn agos iawn i cael eu llorio gan bobpeth (mewn byd mor wallgo a hyn lle mae llawer yn marw gan eu bod yn rhy dew mewn un rhan a eraill yn marw gan eu bod yn newynu mewn rhan arall o’r byd does dim syndod) ac dydi disgyn i oblifiwn o fod oddi ar eich bronnau ar gyffuriau neu meddiwi’n gaib ddim yn ateb o unrhyw fath yn yr hir dymor. ‘Boi arall sydd wedi cael ei safio gan Llwybr Llaethog.’ Mae’n deimlad y mae pawb yn dioddef rhiwbryd o ddiffyg pwrpas a gwactod, dyma lle mae ffocysu’ch egni ar gerdoriaeth a’r creadigol (ei greu yntau ei fwynhau) yn un modd o dynnu rhywyn ar ei draed unwaith eto ac am y tro ynddo mae modd darganfod pwrpas. Eto efallai fy mod wedi camddeall y diwn yn llwyr ac yn ffaffian ond dyna un dehongliad ohoni ta waeth.

The Undefeated (Ailgymysgiad gan Llwybr Llaethog o Super Furry Animals)

Dyma engrhaifft o ailgymysgiad gan LL LL oedd ar YouTube. Mae hefyd ailgymysgiad o’r SFA ar eu halbwm newydd Chwaneg o’r gân Trouble Bubbles. Cân campus mae modd ei fwynhau yn dawel wrth eistedd ond orau oll ar eich traed yn skanio dros y siop i gyd. Ni fyddaf yn rhoi dehongliad llenyddol hirwyntog arall o eiriad hon gan fod caneuon weithiau jest i’w mwynhau fel caneuon a felly yr wyf am drin hon. (Hefyd can Super Furries yw hon yn wreiddiol dim LL LL felly does dim angen!)

Rhagor

Gobeithio yr ydych wedi mwynhau y detholiad yma, me’n drueni fod dim rhagor o ganeuon ar YouTube gan LL LL…

Os yr ydych eisiau clywed rhagor o LL LL mae ambell albwm ganddynt ar Spotify yn ogystal a ambell i sioe ar Radio Amgen ble bydd caneuon eu hunain ac yn ogystal a detholiad o draciau gan artistaid eraill.

Hefyd mae yna 3 tiwn go dda dwi heb weld nunlle arall ar wefan BBC Cymru o Sesiynau C2 yr haf yma.

Mae ychydig o draciau hefyd ar eu gwefan.

Awdur: Heledd Melangell Williams

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn hoff o hip-hop a cherddoriaeth electroneg yn bennaf. Yr wyf hefyd yn blogio yn Saesneg i Radical Wales ynglŷn â gwleidyddiaeth adain chwith.

3 sylw ar “Siwrnai i’r Llwybr Llaethog”

  1. Da iawn Heledd .. erthygl gwych. Dim brains dot com Un o ffefrynnau fi hefyd x

Mae'r sylwadau wedi cau.