Mae’r SRG yn farw gelain yn ôl bob son. Tydi’r gosodiad yma ddim yn fy synnu i ddweud y gwir. Mae’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth Cymraeg dwi’n ei wrando arno o leiaf degawd oed neu gan artistiaid o’r cyfnod gynt sydd wedi parhau i wneud cerddoriaeth. Mae’r gigs yn brin ac ychydig yn ddiflas i gymharu â nosweithiau Seisnig o genres tebyg neu gigs oedd mlaen riw 5 mlynedd yn ôl. Mae cyhoeddiadau fel y Selar yn dda ond anaml iawn mae llawer o son am y gerddoriaeth dwi’n hoff ohono. Efallai mai adlewyrchiad o ddiffeithwch cerddorol ydi’r gwactod yma? Pam bod pethau fel hyn? Pwysicach fyth sut yr atgyfodwn yr SRG o’u bedd?
I mi cerddoriaeth dda ydi cerddoriaeth sydd efo rhywbeth i’w ddweud drwy gyfrwng gair a sain. Er bod gan gerddoriaeth canol y ffordd Elin Ffluraidd ei le yn y diwylliant Cymraeg dim dyma be ystyriwn fel cerddoriaeth yr SRG. Gwrth ddiwylliant ifanc a chanu protest Cymreig ydi’r SRG i mi ond mae o wedi mynd ar goll rhywle yn y gachfa gyfalafol.
Llwybr Llaethog, Tystion, Datblygu, Pep le Pew…dyma grwpiau oedd efo rhywbeth i’w ddweud am Gymru a’r byd. Lle mae’r llais herfeiddiol oedd yn eiddo i’r bandiau yma yn ein cenhedlaeth ieuanc heddiw? Mae’r byd yn cael ei rheibio gan argyfwng economaidd felly pam ein bod yr SRG wedi ei llethu gan dawelwch? Does dim synau newydd herfeiddiol nag agwedd gan unrhyw un o’r bandiau newydd. Indie, pop werin, sblash o ska a synau electroneg ddof ydi’r norm Cymreig ac felly y mae hi’n aros. Dim byd yn bod ar y genres yma ond stale ydynt braidd a ddim y genres y dewisaf wrando arnynt. Mae ambell eithriad fel Cyrion a Dau Cefn, efallai bod grwpiau diddorol yn bodoli ond fy mod i ddim yn eu hadnabod… O’r brif ffrwd sy’n gigio does dim lot sy’n fy nghynhyrfu i ddweud y gwir. Un o apathi ‘plant Thatcher’ ydi byd olwg y bandiau ifanc. Wrth iddynt aros yn eu swigen dosbarth canol nid oes ganddynt unrhyw beth i’w ddweud am y byd (arwhan i efallai rant fach am chavs). Teimlaf fod pob agwedd o’r SRG wedi ei thraflyncu gan hunanoldeb, ond eto mae cymdeithas o gyfalafiaeth a huaninoldeb fel rhan an atod ohoni. Dydw i ddim yn siarad am unigolion nac yn cyffredinoli am bawb ond mae’r hunanoldeb yma’n hollbresenol. Mae amryw bethau wedi rhoi’r argraff yma i mi. I ddechrau efo teimlaf fod rhai perfformwyr yn farus. Ar ôl cael pres mawr o chwarae yn y ‘steddfod ac yna mynnu pes afresymol mewn gigs eraill. Dim pob grwp wrth reswm ond yr wyf wedi clywed am faint fynnai rhai am berfformiad a chael fy syfrdanu.
Mae rhai o’r trefnwyr hyd yn oed i weld yn farus. Wedi dweud hyn gwn fod mwyafrif y trefnwyr yn anhygoel a rhoi gwaith go iawn i drefnu dim ond i’w cael eu siomi gan ddiffyg cefnogaeth. Mae trefnwyr eraill yr wyf yn son amdanynt mewn sefyllfa mwy breintiedig lle gallynt gymeryd risg. Bellach gwneud arian ydi’r brif nod yn hytrach ân hyrwyddo cerddoriaeth cymraeg a mae hyn a effaith negatif ar y sin. Un esiampl yw gigs Clwb. Prin iawn oedd y gigs yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Yn ddiweddar mae gigs wedi bod mwy rheolaidd on dipyn o siom ydyn nhw (er bod y llawer o grwpiau reit dda wedi chwarae). Mi es i noson oedd Cyrion yn Clwb a thalais tua pumpunt – i noson a oedd yn gorffen 10 neu 11 yh! Yr oedd pawb sobor sant, neb yn dawnsio. Ychydig iawn o bobol oedd yno. Gig anial er bod y gerddoriaeth yn dda. Does neb am dalu 5 punt am noson sy’n gorffen mor gynnar. Fel arfer dydw i na rhan fwyaf o fy ffrindiau yn mynd allan tan 10/11 o leiaf felly pam rhoi gig i orffen yr adeg yma? Sylwais mai’r rheswm dros hyn oedd gan fod Clwb eisiau gwneud pres o’r nosweithiau prif ffrwd seisnig ar ol y gig yn hytrach na roi amser call i gigs cymraeg. Dim fi yw’r unig cwynwraig, oedd yna erthygl ddifyr ym mhapur y brifysgol Gair Rhydd yn trafod pam fod myfyrwyr Cymreig yn mynd i ‘Beach Club’ am noson allan yn hytrach na Clwb.
A be am hunanoldeb ni, y ffans? Pam bod gigs yn wag? Diogi, bod yn dynn efo pres…. Os nad ych yn hoffi’r grwp sy’n perfformio digon teg ond rhowch siawns i’r grwpiau yma cyn eu diystyru’n llwyr! Rhaid i ni’r ffans dynnu ein sannau fynnu a dechrau cefnogi. Does dim diben cwyno bod diffyg gigs wedyn ddim mynd i un pan fo rhywun wedi trefnu’n lleol.
Felly be laddodd y Sin Roc Gymraeg? Be fygodd llais herfeiddiol bandiau ifanc? Be drodd y trefnwyr breintiedig i roi gigiau ‘mlaen ar amseri gwirion neu rhoi’r fath bwysau ar drefnwyr bach nad oes arian genynnt i gymryd y risg o roi gig mlaen o gwbl? Be drodd y bandiau mawr yn farus? Be achosodd i’r ffans fynd mor dyn a’u harian a bodloni ar ddiwylliant estron Eingl-Americanaidd yn hytrach na chefnogi eu diwylliant cynhenid? Cyfalafiaeth wrthhgwrs.
Mewn byd lle mai pres sy’n penderfynnu be di be sut all sin roc diwylliant lleiafrifol oroesi? Y rheswm bod cerddoriaeth yr SRG mor ymylol yn y lle cyntaf ydi oherwydd bod system gyfalafol yn ennyn tuedd mai’r diwylliant sydd efo’r arian (Eingl-Americanaidd) fydd yr un dominyddol. Be sy’n gwneud y top 10 yn well na cherddoriaeth yr SRG? Dim, yr arian mawr marchnata sy’n penderfynnu be sy’n boblogaidd yn hytrach nac ansawdd y cerddoriaeth. Busnes ydi pob dim. Atgyfodi’r SRG?
Cyfalafiaeth ydi’r broblem. Yr ateb call felly fyddai disodli’r system anghyfiawn gyfalafol.
Ffeindiwch fudiad gwrth-gyfalafol sydd at eich dant, Cymdeithas yr Iaith, un o’r pleidiau Sosialaidd, South Wales Anarchists, ewch ar eu gwefannau am ‘window shop’! Mynychwch gyfarfod a byddwch yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid (Gan gynnwys yr hawl i gael diwylliant cyfoes yn eich hiaith ein hunain! ) Dyma’r unig ffordd i ‘achub’ yr SRG a’r diwylliant Cymraeg yn yr hir dymor. Tan i bethu newid rhaid trio cadw’r SRG yn fyw. Sut allwn wneud hyn? Drwy wrthod yr hunanoldeb y mae cyfalafiaeth yn ei feithrin yn ein cymdeithas a’r SRG!
Trefnwch partion a cherddoriaeth Cymraeg (Odd hipis Llanberis arfer mynd i’r chwareli, pam lai efo’r ha yn dod?) neu trefnwch disgo dydd i’r di-waith efo perfformwyr o’r SRG fel sydd bob mis yn Glanyrafon, Caerdydd. Ffans dechreuwch neud ffansins cerddorol a lledaenwch y gair dros Gymru, gadwech gopis mewn Llyfrgelloedd, Siopau Kebab.. Caffis…Does dim pwynt rhoi o i’ch ffrindiau cymraeg yn unig neu bydd pethau dal i gylchdroi yn yr un clique cymraeg caeedig. Geekiaid cyfrifiadurol uwchlwythwch yr holl gerddoriaeth cymraeg a fodolai ar y we rhywle i ni gael ei ddwyn o.
O ia, dylsai cerddoriaeth Cymraeg bod am ddim. Shock. Horror. Dydi o ddim yn beth newydd i pobol aberthu amser, amynedd ac arian dros yr iaith. Ystyriwch aberth ymgyrchwyr iaith yn y gorffenol. Mae canoedd o fobol wedi cael ac yn cael a ffeins ac amser yn y carchar dros yr iaith. Does dim lle i hunanoldeb mewn diwylliant lleafrifol neu fydd dim parhad iddi. Dydw i ddim yn erbyn y badiau cael digon o arian i gael offer a talu costau ond credaf fod wir angen pob artist uwchlwytho oleiaf un albym i fod am ddim ar y we fel mae Mr Huw wedi ei wneud. Fydd hyn yn golygu fydd mwy o fobol yn debygol o ddod i gigs yr artist ac yn prynnu eu albymau eraill. Dalltwch fod pobol ifanc eithaf sgint adydyn ni ddim am gymryd y risg o brynu albym a ninau heb ei chlywed hi (albyms Saesneg ar Spotify, cerddoriaeth mewn clybiau nos). Fydd uwchlwytho eich albyms am ddim ar y we yn rhoi hwb i’r sin a cael ffans newydd!
Ydwi’n mwydro a malu cachu? Be ydi’ch ateb chi i broblemau’r SRG?
Mwy o farnau ar sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru 10PM heno. Croeso i ti anfon erthygl i’r Twll gyda dy farnau dy hun, yn enwedig os ti’n gerddor.
Heledd,
Ti’n byw ym myd bach dy hun. Beth yw dy oed? Be di dy gefndir? Ti’n siarad
fel ti di bod rownd ers yr 60au, a hefo profiad o fod mewn grwpiau neu drefnu nosweithiau dy hun. O be allai weld, ti erioed di bod mewn unrhyw fath o grŵp, erioed wedi trefnu noswaith, a bendant heb fod rownd ers y 60au. Ti’n rhydd i dy farn wrth gwrs, a pob lwc hefo hynna, ond, gad i fi drafod un neu ddau o bwyntiau’r erthygl yma…
Ti’n ymosod ar Clwb Ifor Bach am roi gigs Cymraeg ymlaen rhy gynnar, a bod di pobol ddim ddigon “feddw” i ddawnsio, blah blah. Problem fwyaf Gigs Cymraeg dros y blynyddoedd ydi ei bod yn llawn o stiwdants Cymraeg dosbarth canol yn troi fyny wedi meddwi, wedyn siarad trwy’r holl berfformiad. Os mae grŵp mlaen am wyth y gloch, maen nhw ymlaen am wyth. Mae angen ei “ffans” neud yr ymdrech i droi fyny a’i chefnogi, bwys pa amser dio. Ydi, mae clwb hefyd yn rhedeg ail noswaith fel arfer, ond cofia, mae’r fuwch goch dros ffordd hefo Djs Cymraeg yn cynnig noson debyg yn Gymraeg, ac am ddim?!!
Sôn am fod am ddim, pwy wyt ti i ddeud bod a dylai cerddoriaeth Cymraeg fod am ddim? Ac wedyn ei chymharu at “aberth” mae rhai pobol wedi neud dros yr iaith.
Dewis y protestwyr ydi neud torri cyfraith dros ei iaith, dewis y rhan fwyaf o gerddorion ydi i dalu am amser stiwdio, offer, costau teithio, cd’s, ect ect er mwyn
Ledaenu ei gwaith celf, ia celf, ddim rhyw arf wleidyddol fel ti’n trio neud yr SRG allan fel, ond CELF.
Erthygl amazing Heledd!
Yr unig beth fyswn i yn pwyntio allan ydi fod rhan fwyaf o gigs bands yn gorffen erbyn tua 11. Ma gigs Saesneg yn clwb yr un fath, ond fysa cerddoriaeth fel Cyrion yn siwtio mynd on tan yr oriau man yn amlwg, ddim band ydi nhw rili na!
21, merch ffarmwr o’r gogs, wedi helpu efo cymdeithas ers 2 mlynedd. Pam fod rhaid i chi fod yn hen a wedi cael blynyddoedd yn y diwydiant cerddoriol i gael barn sy’n haeddu parch? Ella mae’n amser i bobol mawr yr SRG wrando ar pobol gyffredin. Dwi wedi helpu trefnu disgo dydd i’r di waith, helpu trefnu efo stwff mae Cymdeithas yn ei roi mlaen a drais i rhoi gig ‘mlaen blwyddyn dwethaf a elw i elusen ond yr oedd problem efo cael y bandiau (efallai gan fy mod yn ei gofyn i berfformio am ddim??) Does genai ddim lot o ‘brofiad’ nac yn honni mod in egsbyrt ond genai dal hawl i fy marn.
Dylai ffans droi fynnu ond dylai gigs fod amser call, mae fuwch goch yn DDRUD er ei fod yn le gwerth chweil faswn i methu fforddio mynd yno bob penwsos.
Pwy ydwi i ddweud dylai miwsic cymraeg am ddim? Rhywyn sy wedi gwario lot o bres ar CD’s dros y blynyddoedd i ddechra efo! Buaswn i rioed di mynd fewn i miwsic cymraeg taswn i ddim wedi prynu CD cymraeg LL LL mewn siop elusen am 2 bunt. Does neb sy rioed di clwad am fiwsig cymraeg mynd i wario tenar ar albym jest i testio fo allan sa bo nhw efo lot o bres. Be ydi’r nod? Gwneud pres neu cynnal diwyliant ifanc cymreig
Be ydi’r problem efo cymharu ymgyrchwyr iaith efo cerddorion? Cop out a osgoi teimlo euogrwydd ydi deud bod cerddorion ddim gorfod gwneud unrhyw ymdrech dros eu celf neu dros gynal diwylliant ifanc cymreig.
Gen titha hawl i dy farn ond ma dweudd ‘pwy wyt ti i ddeud hyn a llall’ jest yn agedd snobyddol elitaidd ma angan ei ditcho. Os dwin neud sens dyna sy bwysig!
sori am y typos!!!
@ Efa diolch dwd, ia ella dwi di mynd ott efo rantio am gigs clwb ond dwi dal yn meddwl bod y ffaith bod pres yn llywio bob dim yn effeithio yn negyddol ar gigs mewn ffyrdd erill hefyd. Yn enwedig wrth roi pwysau ar drefnwyr bach sy methu fforddio rhoi gigs mlaen a.y.y.b
Hyd yn oed os ma gig yn gorffen pam ddim cael djs a cymysgu cerddoriaeth cymraeg a saesneg?
Digon teg, ymddiheuro am dy fychanu Heledd, ond mae dy agwedd yn un rhyfedd ar y diawl. Jest bod ti’n dyn hefo dy arian, dio ddim yn meddwl dylai cerddorion rhoi ei chynnyrch allan am ddim, ddylaf Llyfrau fod am ddim? Ti’n aelod o gymdeithas syn brwydro i achub sianel teledu Cymraeg syn talu llawer o actorion cannoedd o bunnoedd yr wythnos am ei gwaith, pam felly ti ddim yn brwydro i Gerddorion Cymraeg cael ei dalu cannoedd o bunnoedd yr wythnos?
Tydi Llawer o gerddorion ddim yn gwneud cerddoriaeth Cymraeg er mwyn bod yn wleidyddol Heledd, maen nhw’n neud er mwyn creu, mae cerddoriaeth yn iaith ryngwladol, felly dio ddim yn deg i taflu bob cerddor i mewn hefo protestwyr iaith!
Os wyt ti eisiau byw mewn rhyw baradwys ffŵl neo-gomiwnyddol mae croeso i ti allfudo i rywle fel Patagonia a dechrau cymdeithas newydd dy hun. Nôl yn y byd go iawn.. dyw e ddim yn esgus y dyddiau yma i ddweud fod cerddoriaeth yn ‘ddrud’.
Mae’n bosib clywed cerddoriaeth Cymraeg ‘am ddim’ ar Radio Cymru, teledu (weithiau) ac wrth gwrs ar y we – ar wefannau rhai bandiau neu ar Spotify (dyma restr o rhai o’r labeli sydd a cynnyrch yno).
Mae sefyllfa pob myfyriwr yn wahanol ond mae’n syndod sut mae nhw’n gallu canfod digon o arian i yfed ond yna cwyno fod dim digon o arian gyda nhw i bethau eraill ‘hanfodol’?
Efallai fod sefyllfa gigs byw yn wahanol (yn sicr mae’n fwy trafferthus y dyddiau yma i drefnu unrhyw fath o ddigwyddiad cyhoeddus) ond dyw hynny ddim yn esgus i ddisgwyl popeth ar blat. Gyda unrhyw ddiwylliant lleiafrifol fel cerddoriaeth Gymraeg, mae angen gwneud ychydig bach o ymdrech i’w ddarganfod – a gyda’r we, mae’n haws nag erioed.
Er mod i’n lled-gytuno efo dy ddaliada’ gwleidyddol di, y broblam ydi nad ydan ni mewn cymdeithas anarchaidd ryddfrydol – ma’ bob dim yr ydan ni’n ei neud yn digwydd o fewn cyd-destun gyfalafol.
O’r herwydd, ma’n afresymol gofyn i gerddorion – (a cerddorion ydyn nhw, nid ymgyrchwyr gwleidyddol) – sy’n trio dod â dau ben llinyn ynghŷd i aberthu eu hincwm am, wel, ddim byd.
Mae rhai o bolisiau ac egwyddorion llywodraeth Llundain yn cyd-fynd â safbwynt eidiolegol anarchaidd – ond ma anarchwyr allan ar y strydoedd yn ymgyrchu yn eu herbyn oherwydd ‘i bod hi’n amlwg mai gwneud y rhai tlotaf yn dlotach wneith y polisiau, gan ein bod ni o fewn cyd-destun gyfalafol.
A sefyllfa debyg sydd yma – iawn ‘sa gofyn i gerddorion weithio am ddim er mwyn cymdeithas mewn cymdeithas anarchaidd, ond mewn cymdeithas gyfalafol ti’n gwneud dim ond torri eu cyfloga’ nhw.
Ia dwi’n cytuno. Dydw i ddim yn lladd ar gerddorion a ella oedd yr erthygl yn swnio yn tactles braidd dylwn i wedi rhoi mwy o amser i swenu hi mae lot o fobol wedi ei camddehongli. Awgrymiada onin ei wneud am betha basa gallu rhoi hwb i’r sin gan ein bod mewn cynd destyn cyfalafol yn y tymor byr. Yr ateb go iawn ydi newid cymdeithas, yr awgrymiada contrefyrshal nesi oedd petha tymor byr basa gallu roi hwb i’r sin ond dydi o ddim yn ateb terfynol a dydw i ddim yn deud ei fod o!
Ma lot o bobol yn lladd arnai ond be ma pobol yn ei awgrymu sy’n syniad gwell?
Dw i erioed wedi darllen y fath rwdlan erioed. Ti’n siarad drwy dy het. Tasa gen ti barch at yr iaith Gymraeg mi fasat ti byth yn sgwennu’r fath erthygl. Onid oes gan gerddorion Cymraeg hawl sylfaenol i gael eu parchu a’u talu? Dw i’n meddwl fod gen ti chwinc ac ar y funud yn gwneud unrhyw beth i gael sylw – boed yn cymryd y piss o gerddorion Cymraeg neu dorri i mewn i swyddfa!! Tasa gen ti farn sy’n dal dwr mi faswn i’n dy barchu ond ti’n swnio fel petaet ti’n byw ar blaned arall. Gwell iti fynd yn ol i’r gogledd i fod yn ferch ffarm, mae’r byd go iawn yn amlwg yn ormod iti.
Allaim credu dy agwedd di. Oes genynt hawl i gael eu parchu a’u talu, dim ripioi allan o gerddorion ydwi ond allan o gyfalafiarth!! Crux yr erthygl oedd bod angen newid y system anghyfiawn syn ei wneud hi’n anodd i gynal diwylliant ifanc cymraeg. Dwi hanar falch bod yr awgrymiada am cerddoriaeth am ddim mor amhoblogaidd achos ma hynu’n meddwl amir unig ateb ydi i newid y system. Does ddim angan i ti fod yn bersonol, dwi wedi colli ffrindia ar ol be nes i ac am gal ffein o miloedd neu carchar, dwi’n poeni fod o am effeithio fi yn y dyfodol efo arholiada a ballu a ti deus bod am am blydi sylw!!?!? Dwi wedi cael gymint o fobol, saeson, cymry parchus a cymru ‘gwrth sefydliadol’ yn sarhau fi creda fi basa well genai ddim cal yr blydi ‘sylw’. A dwi gallu handlo y byd ir dim diolch dwin acshyli neud petha, be ti neud ond byw mewn byd ffantasi dosbarth canol lle mae’r iaith yn saff, yr srg yn saff, dim cynhesu byd eang a dydiom ots os ma miloedd yn llwgu a hyn i gyd achos cyfalafiaeth. Tyfa fynnu ac addysga dy hyn.
o’r hyn dw i’n ddeall o’r neges llawn camgymeriadau uchod – dw i wedi cyffwrdd nerf do? Gyda llaw – ti’n dechra ymddiheuro ar fb rwan am sgwennu erthygl frysiog heb feddwl – tro nesa paid a sgwennu os ti’m yn meddwl – synnwyr cyffredin! Nid yn unig mae hynny’n osgoi dweud petha byrbwyll ond mae o hefyd yn ffordd i sicrhau dy fod yn sgwennu’n gywir (angen iti wella dy sillafu os am achub yr iaith!) O ran dy gyhuddiedau: Dw i’n fengach na chdi ac yn chwarae mewn grwp sydd wedi methu gwneud cds oherwydd diffyg pres. Mae gynnon ni lwythi o ganeuon ond dim modd eu cyhoeddi am ein bod yn sgint felly paid a phregethu i fi am fod yn ddosbarth canol! Chdi sy’n ddosbarth canol yn meddwl fod torri i mewn i swyddfa’n mynd i achub iaith! Fy hun dw i’n meddwl fod parchu be sydd gennym ni’n llawer pwysicach os am gadw iaith. Cerddorion, awduron, pobol ifanc sy’n siarad Cymraeg bob dydd… a gwneud yn siwr fod y Gymraeg yn aros yn iaith bob dydd. Ac os ti’n poeni am dy ddyfodol gymaint paid a chreu helynt i chdi dy hun ta – syml!
Heledd, rwyt ti’n dweud fod dy syniadau am roi cerddoriaeth “am ddim” yn amhoblogaidd a felly mae hyn yn profi dy fod ti’n iawn? Sut? Ti’n hael iawn gyda arian pobl eraill mae’n rhaid dweud. Pan fyddi ti’n tyfu lan, wyt ti am weithio am ddim? Pam wyt ti yn y coleg felly? Heb gyfalafiaeth fase neb yn talu trethi i ti gael y fraint o fynd i goleg.
Dwin ffycin dyslecsyc be tisho? Dwin ymddiheuro am offendio pobol ond dwi dal yn sefyll wrth be ddedes i- ma cyfalafiaeth yn lladd yr srg, (ac yr iaith a’r blaened os tisho mynd fewn iddi) a ma angan pobol ddeffro a neud petha. Dwi teimo’n wael os dwi wedi ypsetio pobol dim dyna oedd y bwriad ond ma angan pobol ddechra meddwl pam fod yr srg mewn peryg, achos fod pob dim wedi ei reoli gan pres a rhaid newid hyna.
Heb gyfalafiaeth fyddai ddim yn mynd i coleg!?!? Ti’n amlwg ddim yn deallt be ydi cyfalafiaeth, addysgwch eich hunain da chi gyd yn blant thatcher a rupert murdoch.
@Dafydd Dwi am orfod talu MILOEDD o ffein debyg, oleiaf 750 punt a cost cwrt felly peidiwch a son wrtha i am dyfu fynu a mod i ddim gwbo be ydi aberthu pres. Pan oni’n ysgol odd teulu ni mor sgint odd fi a mrawd i yn cael cino ysgol am ddim felly paid pregethu i fi am bres.
@Gwyn
Ma cael pobol yn ymosod arnai’n bersonol (gan gachwrs tu ol i sgrin cyfrifiadur) am ypsetio unrhywyn, dwi wedi cael cyn gymaint o rwtsh gan pobol am weithredu pan ma am fynd ar fy nerfa i. Dwimisho sylw gan snobs cymraeg sy meddwl bo nhw rhy ‘cwl i brotestio. Ma parchu petha cymraeg yn ddistaw ddim yn newid dim ond protestio sydd ma hannes yn dangos hynna.
Does gan dy weithredoedd di dros S4C ddim byd i wneud a’r ddadl yma. Dwyt ti ddim chwaith ddigon naïf i gredu na fydde ti’n cael dy ddirwyo am y weithred. Os bydd cronfa ar gyfer y rhai sydd yn cael dirwy, mi fyddai’n barod i gyfrannu. Dwi’n gallu gwneud hynny achos mod i’n cael fy nhalu am weithio, t’wel?
Nacoes ond pan nath y boi gwyn yna luchio fo yn fy ngwyneb i nath o ddod a’r weithred fewn i hyn a os ma pobol yn mynd yn bersonol yn deud mod i’n gwbo dim am broblemau pres ma’n berthnasol hefyd.
Ma yna aelodau o cymdeithas efo dirwyon o filoedd rwan, dwnim os fydd yna gronfa anhebygol os doedd dim un i’r pobol erail sydd efo dirwy. Hyd yn oed os bydd yna gronfa fi fydd yn talu rhanfwya ohona fo achos dwi’n mynd i llys y goron a fydd costau cwrt yn mynd i filoedd. Dwin gwerthfawrogi unrhyw sylwada ond dwi ddim yn gwerthfawrogi pobol yn mynd yn bersonol a sarhau fi. Oeddwn i ddim yn hiliol na homaffobig na dim ond ma pawb wedi mynd yn mental efo fi, awgrymu bo ni’n newid y system ond os na ddigwyddith hynnu bod ni gyd ffans ac atristaiad a trefnwyr yn tynu sana ni fynu ac aberthu amser a pres i gynal yr srg. Dwi’m yn deud dim byd erchyll felly dwnim pam bod pawb wedi gwylltio’n gacwn efo fi, oeddwn i ddim isho brifo teimlada neb jest awgrymu petha oni, oes unrhywun efo syniada gwell??
Nacoes ma’n wir ond os nath y Gwyn yna lusgo’r weithred fewn i hyn a ti’n dweud mod i’n gwbo dim am ddyled neui bebynag ddudis di mae o’n dod yn berthnasol. Does dim ‘cronfa’ a fyddai’n debygol o dalu’r dirwy fel ma lot o aelodau cymdeithas wedi gorfod ei wneud (rhai dal efo dyledion o filoedd i’w talu)
Dwin gwerthfawrogi unrhyw sylwada ond dwi DDIM yn gwerthfawrogi pobol yn mynd yn bersonol a sarhau fi. Oeddwn i ddim yn hiliol na homaffobig na dim ond ma pawb wedi mynd yn hollolwyllt gacwn efo fi. Awgrymu bo ni’n newid y system ond os na ddigwyddith hynnu bod ni gyd, ffans ac atristaiad a trefnwyr yn tynu sana ni fynu ac aberthu amser a pres i gynal yr SRG. Dwi’m yn deud dim byd erchyll felly dwnim pam bod pawb wedi gwylltio’n gacwn efo fi, tasa pawb yn gwylltio felma am y toriada basa ein cymuneda ni’n sfaach!! Oeddwn i ddim isho brifo teimlada neb jest awgrymu petha oni, oes unrhywun efo syniada gwell??
Rwy’n cytuno gyda’r hyn mae Heledd yn ei ddweud. Y cwbl mae hi wedi neud yw gofyn cwestiynau ynglyn a’r system gyfalafol sy’n bodoli a sut mae’r SRG a diwyllianau bychain yn gyffredinol yn ffitio mewn i hynny. Mae hi hefyd wedi ceisio meddwl am atebion i’r hyn mae hi’n gweld fel problem ac wedi gofyn os oes gan unrhywun arall atebion gwahanol.
Mae’r system gyfalafol yn rhan mor reddfol o bob dim sydd o’n cwmpas fel bod e wedi mynd bron yn amhosib trafod unrhyw system arall heb i bobl wylltio neu ddiystyru’r peth drwy ddweud bod atebion eraill yn perthyn i blaned arall.
Dwi yn cytuno gyda rhai pethe wyt ti’n ddweud, ond yn anghytuno yn llwyr gyda’r pwynt o rhoi albms mas am ddim! Mae myfyrwyr a pobol ifanc yn sgint, cytuno. Ond rhein sy’n creu bandie ag yn rhoi cerddoriaeth mas, a sydd hefyd yn gorfod talu am greu’r album! Dwi mewn band ag er mwyn recorido 1 can (yn iawn, dim fel demo, ond er mwyn i rhywbeth fynd ar EP, sengl neu album), ni’n gorfod talu tua £200 (o leiaf). Os odde ni’n chwarae gigs am bris sydd dim ond yn talu costau a wedyn yn rhoi caneuon ni gyd ma sam ddim, fyse ni’n colli arian! Sain meddwl mae nod bandiau yw gwneud arian, ond ma’n amhosib cario band i fynd mlaen yn eu gyrfaoedd heb arian!
Mae’r ffaith fod ti wedi bod yn trio creu gigs i cymdeithas ag wedi bod yn gofyn i fandiau chwarae am ddim yn neud i fi sylwi efallai pam bod gigs cymdeithas mor dawel nawr.
A sain siwr os nes di adael gig cyrion yn gynnar neu beidio, ond odd pob un o ni’n siarad gyda yn y gig yn feddw ag odd lot o ddawnsio erbyn y diwedd.
Mae cyfalafiaeth wedi bodoli ers canrifoedd. Efallai eich bod chi’n sôn am y farchnad rydd ac economeg laissez-faire. Roedd yr ‘SRG’ yn llwyddiannus iawn yn ystod yr 80au drwy gyfnod Thatcher oedd yn rhoi rhwydd hynt i’r farchnad rydd. Felly dyw’r syniad fod cyfalafiaeth wedi lladd yr SRG ddim yn gwneud synnwyr.
Mae’r diwydiant cerddorol yn gyffredinol wedi bod yn mynd trwy newid aruthrol ers dyfodiad y we yn y 1990au, a llai o fandiau yn gallu gwneud bywoliaeth ymhobman, nid yn unig yng Nghymru. Mae hynny yn cael ei adlewyrchu gyda bandiau Cymraeg hefyd.
Mae’r sîn cerddoriaeth Cymraeg wedi tyfu a crebachu nifer o weithiau dros y blynyddoedd, yn dibynnu ar nifer o ffactorau yn cynnwys talent unigolion, cefnogaeth gan radio/theledu a newidiadau cymdeithasol. Os ydych chi’n dechrau o safbwynt gwleidyddol gwrth-gyfalafol, yna yn amlwg mai cyfalafiaeth fydd y cael y bai am holl broblemau’r byd. Dyw hynny ddim yn eich gwneud chi’n gywir.
HAHAHAHAHA OH MY GOD GWYN JONES GET WITH THE TIMES YOU OLD GIT!
ps. as in old git – be di pwynt wastio pres yn neud CD? Does neb am pryny nhw heblaw dy nain ! Get with the timeeeeeeees!!!!! Does bron dim cerddorion yn neud pres allan o gerddoraieth ddim mwy, peth rhyngwladol yn dod efo’r we a gallu copio/downloadio miwsic ydio, dim just peth cymraeg. Ma Heledd yn neud lot mwy i’r iaith na band chdi sydd yn probably shit.
Hyn di’r broblem de. Dydi stad y Sin Roc Gymraeg ddim byd i neud a ‘achub yr iaith’. ‘Ma Heledd yn neud lot mwy i’r iaith na band chdi sydd yn probably shit’ – ‘Ma hyna yn hollol amherthnasol.
Main anodd iawn neud pres allan o Gerddoriaeth Cymraeg. Felly y’r ateb ydi gneud bob dim am ddim?! Y bandiau dalu cannoedd am stiwdio i recordio i ryddhau wbath am ddim neith helpu i achub y’r iaith?
A does dim angen i hyn fynd yn bersonnol. Ma’n bechod fod o wedi.
Yr hyn sy’n cael ei anghofio yn fama ydi fod llawer yn/wedi bod yn gwneud miwsig am ddim yn Gymraeg, yn teithio i gigs er mwyn cael ffi pitw ayyb ayyb. Dwi’n siwr fod lot fawr yma yn gwneud pethau am ddim, hyd yn oed yn gwneud colled allan o wneud miwsig. Felly, dwi ddim yn siwr sut fod cyfalafiaeth yn lladd y Sin Roc. Sin wirfoddol fuodd hi drwyddi draw. Petawn i yn farcsydd, fyswn i yn dueddol o sbio ar y eliffant ar y garreg ddrws. Mae’n anodd cysoni dadl, fod gormod o ‘hunanoldeb’ yn y Sin Roc (sydd yn werth ceiniog a dimau mewn termau ariannol) ond wedyn yn yr un gwynt, yn ymladd i amddiffyn S4C sy’n gasgliad o gwmniau mawr iawn, gyda un ohonynt ar y farchnad stoc – casino y sector ariannol llygredig. Yn y deng mlynedd diwethaf, mae £1 biliwn o bres cyhoeddus wedi mynd i S4C gyda chyfran fawr ohono yn mynd i un neu ddau o gwmniau pwerus, i wneud pres stiwpid. Petai Karl Marx yn fyw heddiw, dwi’n gwybod yn sicr pwy fyddai ei gocyn hitio. Dwi’n meddwl fod angen i chdi ffeindio ffordd i gysoni y ddadl yna, ond yn fy marn i, mae fel trio sgwario olwyn.
hwn fydd fy sylwad ola achos dwi dechra colli mynadd, gyrrwch neges os chi wirioneddol isho atab.
@Dafydd, addysga dy hyn am farcsiaeth achos ti ddim yn dallt y gwrth ddweudiada yn cyfalafiaeth sy’n gyru petha i’r cach. Bottom line ma SRG mor ymylol achos bod hi ddim yn big buisnes, y diwylliant sy efo pres ydir un eingl americanaidd a dymar un ddominyddol. Nesim deud ma YR ATEB ydi neud bob dim am ddim yr ateb ydi newid y system. Ateb tymor hir last ditch i gadw petha fynd yn y system yma ydi rhoi miwsic am ddim ar y we a ma lot o artistaid yn ei wneud o’n barod. Pryna lyfyr introducing marxism neu wbath i ddallt o wir dduw.
@Deian. Nesdi rap am achub S4C yn y brotest fawr bl dwetha do? A yn cyffarfod yn erbyn y toriada nesdi awgrymu slogan ‘paid cau lawr S4C’ Ti wedi newid dy diwn eto wyt? S4C NEWYDD da nin ymgyrchu ammdana fo. Ma cau lawr sianel cymraeg am helpu dim ar betha, cyfalafiaeth sy wedi lladd S4C a’r SRG. Cwmnia mawr a monopolis, ma angan newid hyna ond ef natur cyfalafiaeth ma arnai ofn fydd hi’n lithro i’r hen dueddiadau. Newid y system ydir atab hir dymor simple as. Oni am roi MC Saizmundo fel un o’r grwpia onin enwi odd efo wbath gweth chweil i ddeud ond o dy sylwada di man edrych fel ti wedi parchuso allan o’r agwedd yna a’r cerddoriaeth odda tin arfar neud. Deud bo tisho achub S4C wedyn jympio ar y bandwagon pan man ffasiynol i slateio unrhyw effort i’w achub hi? Ti sy angan cysoni dy ddadl dim fi. Dwi wedi cyfiawnhau fy hyn tro ar ol tro ar statws facebook fi y tudalen SRG etc be goblyn ma bobol isho?
“Dwi wedi cyfiawnhau fy hyn tro ar ol tro ar statws facebook fi y tudalen SRG etc be goblyn ma bobol isho?”
Peidio ateb pobol mewn ffordd mor patronising yn un peth.
Ma pobl yn trio ei gorau i beidio cymeryd hyn yn bersonnol, a trio dallt dy ddadl di, ond ti jysd ddim yn help dy hun.
Dwi angen prynu llyfr am Marxism gan bo fin anghytuno efo dy awgrum di mai rhyddhau cerddoriaeth am ddim ydi’r ateb? A bo fin anghytuno y dylai cerddorion aberthu pres a amser er mwyn achub y’r iaith? A bod gigs yn gorffen rhy gynnar achos bo chdim ffansi mynd allan dipyn bach cynt?
Shit, dwin teimlo mor wirion, cyfalafiaeth ydi’r bai am hyn i gyd siwr.
Dwi’n anghytuno efo dy farn di, na fo, sgen i ddim problem efo chdi yn bersonnol, felly paid a bod mor ffycin patronising.
Ti ‘di sgwennu erthygl, ma pobl yn anghytuno, a ti mond yn dewis ateb y cwestynau yn ol os fedri di sdicio ‘cyfalafiaeth’ i mewn yn rhywle yn dyh ateb.
Dwi’n meddwl ei fod yn syniad hollol hurt bost i ti awgrymu y dylai bandiau Cymraeg fod yn gwneud gigs / rhyddhau cynnyrch am ddim…. os fasa ti’n artist ac yn tynnu lluniau, fasa ti’n rhoi dy luniau am ddim i bawb achos bo neb hefo pres i’w prynnu? na. Os fasa ti’n actor ar S4C, fasa ti’n gweithio am ddim (ar ol talu costau) dim ond achos bo’ gan S4C ddim pres? na.
Tydio ddim byd i neud hefo’r ffaith bo gigs yn gorffen yn fuan – os ydi pobl isio mynd i weld gig, ma’ nhw am neud ymdrech. Dwi yn bersonol yn meddwl bod o i wneud hefo’r ffaith fod yno lot o gerddoriaeth shit allan yna, a ma’r bandia shit yn cael llawer gormod o sylw a cael ei chwara’ ar radio. Os fasa band Saesneg yn rhyddhau rhai senglau fel sydd wedi bod allan yn ddiweddar, fasa nhw ddim yn cael dim airplay o gwbl yn wahanol i’r holl hype sy’n digwydd yn Gymru pan ma’ band – sydd hefo lot o ffans/ffrindia yn rhyddhau pethau yng Nghymru.
Mae angen i gerddorion gwerth ei halen gael camoliaeth a tal teg am yr holl ymdrech sydd yn mynd fewn i waith caled o drefnu gig – mi fydd hyn wedyn yn eu hannog i greu mwy o gynnyrch safonol.
Tydi pobl methu gwneud pethau am ddim am byth – er gymaint wyt ti’n meddwl hynny, ma’n amhosib cael boddhad allan o wneud pethau am ddim O HYD.
Does na run gair yn y neges uchod yn ymosod ar S4C fel sefydliad annibynnol. Dim ond yn gofyn i ti gysoni dy ddadl.
Cytuno efo dy brif bwyntiau Heledd; paid a cymeryd barn dirywiedig amball i hen ddeinosor sydd wedi cael ei erydu gan y peiriant gyfalafol byd-eang am dy ben. Mae dy bwynt di am wendidau y sin gerddorol yng Nghymru yn cael ei ailadrodd gan nifer o bobol hen ac ifanc, o stalwarts yr 80au ymlaen. Fy nheimlad i yw bod ein cenhedlaeth wedi arfer gymaint yn cael rhyw fath o gyfarwyddyd o beth bynnag gyfeiriad (cwrricwlwm ysgol, llywodraeth fysslud Llafur Newydd (nanny state), y Cyfryngau ayyb) ein bod wedi anghofio sut i deimlo, sut i fynegi emosiynnau a sut i brotestio – yn enwedig y gymedithas gannolog Gymraeg cyfforddus a breintiedig. A bod hyn i gyd wedi arwain at ddiffygion enbyd y SRG heddiw.
Mae dod a Marxiaeth i mewn i’r peth yn wirion. Tydi hybu i un elfen o ddiwylliant fod yn gweithredu o fewn system wleidyddol sydd ddim yn cael ei dilyn gan weddill cymdeithas ddim yn sail gryf iawn i unrhyw ddadl.
Beth bynnag ydi dy ddaliadau gwleidyddol, does na ddim diben trio applyio fo i un elfen fach, sydd eisioes yn ddibynnol ar y system ariannol/gyfalafol/beth bynnag ti isho alw fo fel mae hi. Mae cerddorion yn ddibynnol ar arian i fedru recordio a rhyddhau eu cerddoriaeth, dydi gweiddi fod isho mabwysiadau daliadau Marxist ddim am newid hynny; dydi honni fod angen i gerddor ddarllen mwy o waith Marx ddim yn cyfrannu dim tuag at y drafodaeth; a dim rhywbeth mor fach (ac eithaf fregus) a’r sin gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru ydi’r lle gora i drio dechra Marxist revolution chwaith.
Dio ddim yn fatar o “hen ddeinosor sydd wedi cael ei erydu gan y peiriant gyfalafol byd-eang” nacdi, mae o’n fatar o fodoli. Os ti isho cerddoriaeth, yn syml mae’n rhaid i chdi gael cerddorion. Ac os nad ydi’r cerddorion yn fodlon gweithredu o fewn y cynlluniau a’r ideoleg ti’n ei gynnig, yna mae’n bryd ail-feddwl dydi.
Heledd, gad fi summio hyn i fynnu i chdi, gweld dwt ti hefo dim clem syd ma’r petha business ma yn gweithio…. Dim pres i’r artistiaid, dim cerddoriaeth Cymraeg. Simples.
Oh ia, a dosna ddim byd gwaeth na rhywun yn deud petha fatha “egspyrt” be ffwc di hynna? Os ti am usio gair saesneg then duda expert yn lle malu cachu.
Let me tell you de mana DDIGON o bandia Cymraeg allan yna, y broblam ydi pobol fatha chdi sydd yn digon barod i gwyno ddylsia y gerddoriaeth fod am-ddim ag sydd ddim yn digon parod i supportio cerddoriaeth Gymraeg wrth talu allan o pocad ei hynnan i fynd i’r gigs a prynnu yr CDs etc i’r artisitiaid allu neud fwy o gerddoriaeth.
Y gwir ydi bod unrhyw ‘sin’ gerddoriaeth sydd wedi bodoli, wedi cael help go dda o gael arian yn cylchredeg. A dweud y gwir mae cerddorion Cymraeg mewn safle gweddol freintiedig o’i gymharu â nifer o gynhyrchwyr celfyddydol eraill. Ydi beirdd newydd yn derbyn yr un math o arian â band newydd? Oes cynhyrchwyr ffilm sydd yn gallu cael arian i wneud eu ffilm nesa? Oes dramodwyr ifanc sydd yn gallu gwneud arian o wneud ambell sgript? Ddim i’r un graddau, nac mor sydyn a cherddorion. Mae bodolaeth BBC ac S4C wedi golygu bod arian yn cylchdroi rownd y system yn weddol gyson.
Mae hyn yn codi problemau yn ei hun, wrth gwrs, gan weithio fel grym negyddol mewn rhai achosion lle gall fandiau ddod yn gyfarwydd â derbyn arian am lawer llai o ymdrech na fyddai band sy’n canu yn y Saesneg. Ond dyma’r pris y talwn am geisio sybsideiddio sîn yn anuniongyrchol, er lles y Gymraeg. Mae’n wych bod modd i fand neu unigolyn wneud bywoliaeth allan o fod yn gerddor yn y Gymraeg, ond rhaid derbyn bod yr arian sy’n galluogi hyn yn dod o goffrau BBC ac S4C gan amlaf a bod sgil effeithiau i hynny. Mae bron pob cynnyrch diwylliannol Cymraeg yn derbyn sybsidi, a dyw cerddoriaeth yn ddim gwahanol. Mae’r arian hwn yn arf yn erbyn grym marchnadoedd rhydd ddi-ffrwyn i wasgu diwylliant lleiafrifol. Ddylen ni fod yn falch o’r pres sy’n cylchdroi!
Oes lle felly i fandiau ostwng eu ffi ar gyfer gigs bach? Oes, o fewn rheswm. Oes lle i fandiau ryddhau deunydd am ddim? Oes, os ydyn nhw eisiau codi eu proffil. Oes lle i fandiau newydd ystyried gigio am bres petrol am y sylw? Oes, os dyn nhw isio codi proffil. Ond mae hynny yn benderfyniad i’r band/artist.
The death of the sin roc gymraeg is greatly exaggerated.
Cytuno hefo llawer ti’n dweud. Methu deallt pam fod Gwyn (os, wrth gwrs, hynny ydy ei enw iawn) yn ymosod mor bersonol, os anghytuno iawn, anghytuno ond paid a taflu baw. Mae angen bobl tyfu fyny braidd. A Heled, dwi’n edmygu dy safiad di dros y Gymraeg, duw a helpu ni os wnawn eistedd ar ei pen olau a wenud dim.
Gorllewin Gwyllt, dwi’n cytuno i raddau efo sentiment be ti’n ddeud, ond dwi’n meddwl bod dipyn mwy o arian ar gael i feirdd ac awduron etc. na sydd ‘na i gerddorion (dwi ddim yn hollol siwr, chwaith) – mae hi bron yn amhosib bod yn gerddor llawn amser, ond fel dwi’n dallt mae hi’n bosib bod yn fardd neu awdur llawn amser.
Ond mae be ti’n ddeud mai penderfyniad yr artist ydio yn y pendraw yn hollol wir.
A mae’r ymosodiadau personol ma’n ofnadwy – mae cwyno am safon sillafu a iaith a galw enwau yn beth ofnadwy i’w wneud, a ddim yn berthnasol i gynnwys yr erthygl o gwbwl. Dwi mwy neu lai yn anghytuno yn chwyrn efo bob dim sydd yn yr erthygl, ac yn ei weld o reit ‘offensive’ i artistiaid (ac i ymgyrchwyr iaith y gorffennol). Dwi’n meddwl bod yr awgrymiadau tu hwnt i unrhyw bosibilrwydd, ac y bysa nhw’n cael effaith negyddol, a dwi wedi gneud hynny’n berffaith blaen ar y drafodaeth ar Facebook, ond er mwyn Duw, rhydd iddi ei barn heb orfod dioddef bwlshit amherthnasol sydd ddim yn ymwneud a’r erthygl o gwbwl.
Ar bob cyfrif, trafodwch gynnwys yr erthygl mor chwyrn ac y mynnwch, ond cadwch bethau eraill allan ohoni.
o ni’n son am gyflwr ac ansawdd y gerddoriaeth Gymraeg sydd ar gael, ro ni cymeryd fod pwynt Heledd ynglyn a gigio am ddim yn reactionary ac yn hypothetical oherwydd natur rwystredig byd holl-gyfalafol. Wrth gwrs fod o’n wirion bost i beidio talu artistiaid o unrhyw fath – rhwystro nhw’n bellach fasai hynnu. Fy mhwynt i ydi fod diffyg talent yn y byd cerddorol Cymraeg , a fod hyn wedi bod yn “trend” ers rhai blynyddoedd rwan…beth bynnag ma’r petha ma’n cylchdroi , pobol yn dechra deffro .