Free Wales Harmony / Andy Votel – unrhyw meddyliau?

ChwyldroMae’r rhaglen Free Wales Harmony gydag Andy Votel (a Gruff Rhys, Heather Jones, Emyr Ankst, Dave Datblygu, Dyl Mei, Geraint Jarman, Meic Stevens, Mici Plwm, Cerys Matthews, Craig Owen Jones o’r adran pop ym Mhrifysgol Bangor ac eraill) ar gael ar y wefan BBC.

Roedd y rhaglen yn gyflwyniad da i gerddoriaeth pop a roc yn yr iaith Gymraeg – a phopeth mewn hanner awr yn unig.

Chwarae teg i Andy Votel a’r cynhyrchydd James Hale.

Unrhyw meddyliau am y rhaglen?

(Ar hyn o bryd mae trafodaeth fywiog ar Y Twll am ryddhau’r hen stwff o Recordiau Sain hefyd.)

5 sylw ar “Free Wales Harmony / Andy Votel – unrhyw meddyliau?”

  1. Braidd yn amheus am gof Meic ynglyn â noson ola Hendrix – mae sawl llyfr wedi sgwennu am hynny, ac mae conspiracy theories di-ri ambwytu fe. Mae o leia un fersiwn arall o stori Meic, ac os dw i’n cofio’n iawn mae’n sôn amdano yn ei lyfr, ond yw e?

    Rhaglen dda iawn, chware teg.

Mae'r sylwadau wedi cau.