Gareth Potter – y drafodaeth radio bythgofiadwy gyda Peter Hughes Griffiths

Dyma’r drafodaeth radio bythgofiadwy o’r rhaglen Taro Post.

Mae’r hwyl go iawn yn dechrau yn rhan 1 tua 8:22 gyda Gareth Potter. Neu cer yn syth i ran 2 os ti’n methu aros i glywed y darnau gorau.

Wnawn ni ddim cyhoeddi trawsgrifiad llawn ond dyma blas:

3:50 rhan 2
HUGHES GRIFFITHS: Mae dyfodol y Gymraeg, uh, os mae dyfodol Gareth yw e gyda phob pwrpas os yw Gareth yn gweld mae dyna yw dyfodol y Gymraeg, allai dweud fan hyn, wrthoch chi, heddiw, does fawr o ddyfodol iddi a waeth i ni rho ffidl yn y to…

POTTER: (YMYRRYD) Rhowch ffidl yn y to! Nai siarad fel y fi moyn siarad! T’mod… (DIGYSWLLT) wrth Cylch yr Iaith… stick a website up there er mwyn i ni gweld beth yw eich amcanion chi. Sa’ i’n gallu ffeindio chi ar y we. (DIGYSWLLT)… Illuminati Cymraeg… elite…

(MWY)…

POTTER: Chi actually yn casau ni. Dewch i’r gorllewin a byw yn eich bubble chi. Da iawn. Nawr ni’n cari ymlaen, fan hyn. Os dych chi moyn darlledu mae’n digon hawdd darlledu. Do a podcast byt…

(MWY GAN GYNNWYS RANT ENFAWR)…

5:41 rhan 2
POTTER: Mae e fel cân Datblygu, “Cymraeg, Cymraeg Cymraeg”! A dim byd arall.

(Y TWLL: mae fe’n siarad am Cân i Gymry gan Datblygu.)

8 sylw ar “Gareth Potter – y drafodaeth radio bythgofiadwy gyda Peter Hughes Griffiths”

  1. Dwi’n cytuno efo’r ddau.

    Dwi heb broblem efo bratiaith, ond byse hi’n biti petai neb yn siarad neu yn gallu siarad yn safonol.

  2. Safonol yw’r gair. Dw i’n licio safonol a dw i’n gwerthfawrogi safonol. Ond dw i hefyd yn licio amrywi-iaith. Maen nhw yn bwydo ei gilydd.

  3. Mae unrhyw un sy’n meddwl y bod Iaith pawb yn gorfod bod yn hollol gywir yn idiot ac yn gwneud fwy o niwed i Iaith nac iechyd. Pam gosod rheolau? Pam poeni eich hunan yn trio cadw mewn hen reolau iaith sydd wedi, ar ddiwedd y diwrnod, ei gosod gan rywun blynyddoedd maith yn ôl? Fel dywedodd rhywun, fydd yr Iaith Gymraeg yn marw oherwydd bydd y ddau siaradwr olaf yn ffraeo dros ei ansawdd a defnydd.

  4. Cytuno Dylan. Mae Mr Hughes Griffiths wedi bod yn gritig blaenllaw o’r defnydd o’r iaith gan plebs fel fi, am flynyddoedd. Dw i’n cytuno gyda rhai o ymgyrchoedd Cylch yr Iaith ond mae’r busnes “cywirdeb iaith” yn dealbreaker enfawr.

    Yn anffodus mae Mr Hughes Griffiths wedi bod yn y Independent, sef papur Prydeineg a Saesneg, i gwyno am y mater – hyd yn oed yn y New York Times! Mae’r stori Manic Street Preachers o 1998 yn werth ei ddarllen.
    http://www.independent.co.uk/news/manic-street-preachers-bad-language-upsets-the-land-of-their-fathers-1200837.html
    http://www.nytimes.com/2004/02/29/magazine/29LANGUAGE.html?pagewanted=all

    (Cyd-destun: roedd Manics yn gwrth-Gymraeg ar y dechrau wrth gwrs.)

    O leiaf dylai Hughes Griffiths wedi cadw ei sylwadau yn y gymuned o siaradwyr Cymraeg.

  5. (Fersiwn byr: Radio Cymru yw’r trol.)

    Bob tro mae rhyw Sais yn dweud rhywbeth twp sy’n corddi Cymry’r we (fel mae Peter Hughes Griffiths wedi wneud), dyn ni i fod i’w anwybyddu. Wyt ti wir yn meddwl bod sylwadau Peter Hughes Griffiths yn haeddu mwy o sylw na rhai Rod Liddle, er enghraifft? Neu bod PHG yn fwy o elyn i ti a dy iaith na Jeremy Clarkson?

    Yn anffodus mae Mr Hughes Griffiths wedi bod yn y Independent, sef papur Prydeineg a Saesneg, i gwyno am y mater – hyd yn oed yn y New York Times!

    Prin iawn bod PHG wedi mynd at y gwasg Saesneg. Byddai’n ddiddorol olrhain hanes y stori ti’n sôn amdani, ond rhoddwn i arian bod PHG wedi sgwennu llythyr at Y Cymro neu Golwg, neu ffonio mewn i Daro’r Post i gwyno am “fratiaith pobl ifainc heddi”, a bod y stori wedi lledu o fan’na mewn wythnos newyddion araf. Roedd sylwadau PHJ yn fêl ar fysedd y gwasg Seisnig, sy ond yn rhy hapus i dderbyn y naratif bod ‘na ddwy garfan ieithyddol yng Nghymru sy’n methu cytuno a’i gilydd:

    His comments highlight the ongoing battle between purists and modernists over the evolution of Welsh. One camp says the language is being dumbed down but the other welcomes “informal” Welsh.

    The debate has become so intense that academics criticised the Welsh Office for failing to get its grammar right on road signs and refusing to correct them.

    Ond mae hyn yn bolycs llwyr, fel oedd y New York Times yn cydnabod:

    The professor was quickly hooted down by newspapers and by the Welsh Language Board. He had missed the point: kids would propel the language, not him.

    Ond dyma ni, derbyn termau dadl hollol ffug, gan fod Taro’r Post wedi gosod y ddadl yn y termau hyn. Does yna un ieithydd go iawn yn y byd fyddai’n cytuno â Peter Hughes Griffiths, “head of Welsh teaching resources at Trinity College [retired]“, ond mae Radio Cymru ond yn rhy hapus i roi lle iddo fe ar yr awyr. Pam, tybed? Dw i’n methu ffeindio’r twît nawr, ond wedodd rhywun ar ôl y busnes Potter/Hughes taw prif broblem Cylch yr Iaith yw bod nhw cymysgu (1) gormod o gerddoriaeth Saesneg ar Radio Cymru, (2) gormod o eirfa/idiomau Saesneg yn cael eu defnyddio ar y cyfyngau Cymraeg, a (3) ieithwedd cyffredinol “pobl ifainc heddi”.

    Chwilier Twitter am “cylch yr iaith” a gwelwch chi taw’r unig beth sy wedi newid yn y wythnosau diwetha yw bod lot o “pobl ifainc heddi” wedi’u darbwyllo taw Cylch yr Iaith yw eu gelynion nhw.

    Dych chi’n cael eich defnyddio, bois.

    Ie, ie, dw i’n gwybod: get a blog, grandad. 😉

  6. Mae’r isod yn edrych fel sylw arbennig gan Hughes Griffiths i’r Independent.

    I know with pop groups their English is often not the best but it’s disappointing considering they claim to be proud of their Welsh roots.

    Ond rwyt ti’n cywir, does dim enghreifftiau eraill ganddo fe yn y wasg Prydeinig/Americanaidd.

    Mae Liddle/Clarkson jyst yn difrïo – dim trafodaeth. Ydy sylwadau Peter Hughes Griffiths yn haeddu mwy o sylw? O leiaf mae gyda fe’r un amcan a lot ohonyn ni, bywyd iachus i’r iaith Gymraeg.

    Dych chi’n cael eich defnyddio, bois.

    Posibl.

    Dw i’n bwriadu treulio amser ar bethau eraill. Diolch am y sylwadau a’r ysbrydoliaeth.

Mae'r sylwadau wedi cau.