Bragdy’r Beirdd – noson newydd yng Nghaerdydd

Bragdy Beirdd

Mae digwyddiadau fel Bragdy’r Beirdd, sef rhywbeth llenyddol o ansawdd sy’n hollol annibynnol gyda phresenoldeb cwrw, yn eitha prin yn fy mhrofiad i – hyd yn oed yn y prifddinas. (Heb sôn am y fwyd Caribïaidd yn y Rocking Chair, sy’n ardderchog.)

Manylion y digwyddiad cyntaf:

Rocking Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
nos Iau, 9fed mis Mehefin 2011
8PM
Mynediad am ddim.

Gwestai:
Rhys Iorwerth
Osian Rhys Jones
Catrin Dafydd
DJ Meic P
“Gwestai gwadd arbennig”

Cer i’r tudalen Facebook a digwyddiad Facebook.

DIWEDDARIAD: @BragdyrBeirdd ar Twitter

5 sylw ar “Bragdy’r Beirdd – noson newydd yng Nghaerdydd”

  1. Hyd yn oed os bydd y digwyddiad yn crap (a dw i’n swir na fydd o), mae’r poster/logo yn wych ta beth.

    Roedd digwyddiad tebyg yn y Llyfrgell Ganolog yn ddiweddar, ‘Poets & Pints’ neu ‘Poems & Pints’, ble roedd CAMRA yn darparu’r cwrw.

  2. Es i ddim. Y peth yw, unwaith chi wedi clywed bardodniaeth yn Gymraeg, tydy ei glywed mewn unrhyw iaith arall jyst ddim yr un peth!

    Dyma ddyfyniad gan Hogyn o Rachub:

    Serch hynny, yno’r eisteddem yn bur fodlon nes i’r ddynes erchyllaf a welais ddod i’r llwyfan a dechrau ynganu’r unig beth ar ddaear sydd cyn waethed â rap Cymraeg: barddoniaeth Saesneg (ro’n i a Rhodri wedi cael sgwrs am hyn yn gynharach, felly ni chollwyd eironi’r peth arnom). Byddwn fel rheol yn dweud y byddai Shakespeare yn troelli’n ei fedd o’i chlywed, oni bai am y ffaith yr ysgrifennodd hwnnw ddigonedd o gachu ei hun.

    Alla i ddim cytuno gyda fo am rap Cymraeg (dw i’n caruuuuuuuu’r Tystion), ond mae barddonaieth Saesneg yn eilradd.

Mae'r sylwadau wedi cau.