Scymraeg a diwylliant cydweithredol

Scymraeg ar Flickr

Mae copi o’r llyfr Sgymraeg yn fy llaw. Dw i wedi bod yn edrych at hanes y syniad/gair:

mis Mawrth 2004: Hedd Gwynfor yn dechrau sgwrs ar maes-e.com, Cyfieithu doniol ar gyfer lluniau o arwyddion sydd wedi cael eu camsillafu (a jôcs cyfieithu)

mis Tachwedd 2004: mae siaradwyr Basgeg yn dechrau postio lluniau o gamgymeriadau Basgeg i’r grŵp Flickr ialgi hadi

mis Chwefror 2005: Nic Dafis yn postio’r llun cyntaf i’w grŵp Scymraeg ar Flickr

yn ystod 2005: mae’r grwp Scymraeg yn tyfu. Mae cyfranogwyr cynnar yn cynnwys waen ♡, Dogfael, nwdls, krustysnaks, Atgof a llunie mair

Rhywbryd yma: mae rhywun yn ail-enwi’r sgwrs ar maes-e i ddefnyddio’r gair Scymraeg

Rhywbryd yma: mae Cylchgrawn Golwg yn dechrau is-colofn yn y colofn Jac Codi Baw o’r enw Sgymraeg gyda’r un math o luniau

mis Tachwedd 2011: Y Lolfa yn rhyddhau llyfr o’r enw Sgymraeg sydd yn casglu lluniau, mae rhai o’r enghreifftiau wedi bod yn y grwp Flickr a chylchgrawn Golwg

Tybed os mae pobol wedi sylwi gwreiddiau y cysyniad. Mae Golwg360 wedi cyhoeddi ‘cyfweliad’ bach gyda Nic Dafis sy’n werth darllen i feddwl am ei theimladau cymhleth tuag at y ‘comedi’ o Scymraeg. Mae’r erthygl yn sôn am maes-e. Er bod sôn credit i’r enw Nic Dafis yn y llyfr, does dim sôn yna am maes-e, y grŵp Flickr nid y we.

Mae lot o enghreifftiau o lyfrau, posteri, crysau-t a chynnyrchiau eraill sy’n seiliedig ar syniadau o’r we fel LOLCats, Three Wolf Moon ac ati a fy mhrosiect fy hun Sleeveface (gyda llaw mae rhai Cymraeg fel Saunders Lewis a Geraint Jarman).

Hefyd mae sgwennu doniol o’r we sydd wedi cael ei chyhoeddi mewn llyfrau fel Shit My Dad Says, Stuff White People LikeThings my girlfriend and I have argued about.

Mae gwreiddiau y syniad Scymraeg yn debyg: ‘diwylliant y we’ a chyfryngau cymdeithasol. Nid jyst cyfrwng cyhoeddi neu darlledu ydy’r we cymdeithasol. Dw i wir yn meddwl bod y we cymdeithasol yn gallu cynnal lle i gynnal creadigrwydd a chyfranogiad, rydyn ni wedi gweld enghreifftiau da sawl gwaith. Rydyn ni’n gallu meddwl am y we fel rhywle i gynhyrchu a joio syniadau creadigol ac yn aml iawn mae’r syniadau yn amlgyfranog a chydweithredol. Fel arfer maen nhw yn dod o ddefnydd o blatfformau fel blogiau, YouTube a Flickr ac ambell waith Twitter. (Dyw Facebook ddim yn enwog fel platfform i gynnal creadigrwydd o’r math yma, sy’n ddiddorol. Wel, dw i ddim wedi gweld lot o enghreifftiau.)

Mae hyd yn oed cynhadledd arbennig ROFLCon yn Cambridge, Massachusetts, UDA i drafod a dathlu diwylliant y we a memes, sef syniadau sy’n cael ei chopïo a datblygu rhwng pobol wahanol. (Es i i ROFLCon yn 2010 i redeg gweithdy Sleeveface.)

Weithiau mae’r tarddiad yn amlwg. Mae’n gallu bod yn gymhleth achos mae’r syniadau yn gydweithredol o’r dechrau. Yn yr achos Scymraeg, mae cyfraniad Nic Dafis (gyda help Hedd Gwynfor ac eraill ar y we) yn eithaf clir: y gair, y grŵp, y lluniau cynnar a’r rheolaeth y grŵp. Ond weithiau mae’n anodd dweud pwy ddechreuodd y syniadau neu mae dadleuon hyd yn oed. Yn anffodus mae rhai o gwmniau yn ystyried creadigrwydd pobol ar y we fel easy pickings ar gyfer llyfrau, hysbysebion a phethau eraill.

Efallai Sgymraeg ydy’r enghraifft gyntaf o lyfr yn yr iaith Gymraeg gyda gwreiddiau mewn diwylliant y we, yr enw a’r syniad yn enwedig. Dw i’n siŵr bydd mwy o dwf yn niwylliant y we yn Gymraeg yn y dyfodol ac yn sgil hynny mwy o gynhyrchion fel llyfrau, crysau-t, rhaglenni teledu ac ati sydd wedi cael ei ysbrydoli gan bobol ar y we.

Dwedodd Nic Dafis yn y grŵp:

Ces i gopi o’r llyfr wythnos diwetha. Fel wedes i wrth Golwg360, mae’n llyfr bach reit hwylus, bydd yn boblogaidd amser Dolig. Braidd yn siomedig bod dim sôn am y grwp yma, na chydnabyddiaeth ar wahan i’r rhestr enwau yn y cefn, ond dw i’n methu dod ar hyd i’r egni colli cwsg drosto. ‘Swn i wedi meddwl, allwn i fod wedi mynnu eu bod nhw’n cynnwys URL y grwp, o leia, ond oedd pethau eraill ar fy meddwl ar y pryd.

Mae’r llyfr yn dda ond dw i’n cytuno. Does dim rhaid i’r Lolfa rhoi credit. Does dim nodyn masnach ac mae’r syniad Scymraeg yn rhydd i bawb. Ond os ydyn ni’n gallu trio tyfu ein diwylliant cydweithredol yn Gymraeg a’r cyfleoedd busnes mae’n briodol i annog pobol, grwpiau a chymunedau ar-lein fel petai; y ffynhonnell o’r syniadau. Ac wedyn bydd mwy o ewyllus da a gobeithio mwy o syniadau ar gyfer y llyfrau nesaf yn 2012 a thu hwnt.

4 sylw ar “Scymraeg a diwylliant cydweithredol”

  1. Nid fi oedd yr un cynta i bostio lluniau arwyddion gwallus ar Flickr; dw i’n eitha siwr taw Chris Castle oedd wedi dechrau grwp gyda enw gwahanol.

    Fi wnaeth newid enw’r edefyn ar maes-e, ar ôl i’r term ennill ei le ar Flickr.

    Golwg wnaeth gywiro sillafiad Scymraeg. Dw i wastad wedi joio’r ffaith bod ni’n defnyddio term sy wedi’i “gamsillafu” er mwyn tynnu sylw at bethau felly, ond dyn bach plentynaidd ydw i.

  2. O’r erthygl golwg360 ti’n cyfeirio ato (fy mhwyslais i):

    Fe ddechreuwyd casglu’r Sgymraegs gan Golwg ar ôl i ddarllenwyr ddechrau eu hanfon at golofn ddychanol Jac Codi Baw ar dudalennau’r cylchgrawn.

    Ers hynny maen nhw wedi dod yn rhan boblogaidd o’r cylchgrawn a bellach maent i’w gweld ar y we wrth i bobl fynd ati i rannu esiamplau gwael maen nhw’n eu gweld ledled Cymru ar flickr a Twitter.

    Digywilydd myn diawl!

Mae'r sylwadau wedi cau.