I’r Gwyll – trac sain ddychmygol gan Recordiau

Albwm annisgwyl sydd newydd gael ei rhyddhau ydy I’r Gwyll, trac sain answyddogol ar gyfer y gyfres teledu Y Gwyll.

Recordiau yn dweud:

Trac sain ddychmygol o gerddoriaeth atmosfferig/llofruddiog wedi ei ddylanwadu ag ysbrydoli gan y gyfres deledu wefreiddiol a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C a’r BBC yw I’r Gwyll….

Y bren tu ôl i’r prosiect ydy Geraint Ffrancon, cyfansoddwr a chynhyrchydd electronig, sydd hefyd wedi dwyn yr enwau Stabmaster Vinyl a Blodyn Tatws dros y blynyddoedd.

Ewch i Bandcamp am ragor o fanylion a’r albwm mewn ffurf digidol

2 sylw ar “I’r Gwyll – trac sain ddychmygol gan Recordiau”

  1. Oedd gan Y Gwyll drac sain? Dwi ddim yn cofio unrhyw motifs na melodi na dim byd. Mae’n eironig fod y trac sain swyddogol yn well a llawer mwy cofiadwy na’r gwreiddiol. Sdim o’i le ar sgôr cerddorfa+piano+strings ond gyda drama ditectif/thriller rhaid cyfleu cyffro yn ogystal a atmosffer.

    Dyma drac sain The Killing (YouTube) – mae’r gerddoriaeth yn adeiladu ac yn dod yn fwy layered drwy’r darn yr un modd yr oedd y tensiwn a’r cyffro yn adeiladu drwy’r bennod gyda’r rythm yn gyrru tuag at y ‘cliffhanger’. Epic.

Mae'r sylwadau wedi cau.